Cynghorydd Peirianneg Arweiniol, Cyflawni Ynni
Dyddiad cau: 13/04/2025 | Cyflog: Gradd 7 £45,367 - £50,877 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Cyflog cychwynnol: £45,367
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Dyddiad cyfweld: 01/05/2025
Rhif y swyddi: 203250
Y rôl
Byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Cyflenwi Ynni i gynorthwyo cydweithwyr i gyflawni cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer targedau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan gymhwyso egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) i’ch gwaith. Byddwch yn gweithredu fel uwch gyflenwr ar gyfer peirianneg sifil. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd weithredu fel swyddog gweithredol ar gyfer prosiectau gan gynnwys adroddiadau bwrdd a rheoli risg, o fewn gweithdrefnau llywodraethu llym.
Byddwch yn gweithio gyda'r busnes ehangach i drosi rheoliadau, safonau a chodau ymarfer cymeradwy yn ganllawiau gweithredol. Mae'r rôl hon yn darparu arbenigedd peirianneg sifil, gan sicrhau bod datrysiadau peirianneg yn cydymffurfio â safonau dylunio CNC, gan ddylanwadu yn eu tro ar ddyluniadau datblygwyr ynni adnewyddadwy a chynlluniau’r cyfnod adeiladu. Byddwch yn gyfrifol am reoli asedau yn ystod cyfnod gweithredol y datblygu ac am gynghori swyddogion cyswllt ar gydymffurfio â gweithdrefnau gweithredu a rhwymedigaethau prydles CNC.
Mae'r rôl hon yn cynnwys gwaith desg a gwaith ar y safle ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Byddwch yn cyfarwyddo staff technegol/peirianneg eraill o fewn y tîm yn uniongyrchol, ac efallai yn eu harwain trwy raglenni gwaith arbenigol cymhleth neu hynod dechnegol. Bydd gofyn i chi weithio ar nifer o brosiectau ar yr un pryd a disgwylir i chi ddarparu arweinyddiaeth ar draws ein portffolio prosiect. Byddwch yn adrodd i'r Arweinydd Tîm Cyflenwi Ynni, yn strwythur Gweithrediadau'r Gogledd-ddwyrain. Bydd y rôl gyffrous a heriol hon yn darparu adnoddau rhannol ar gyfer cytundeb lefel gwasanaeth newydd gan Lywodraeth Cymru. Byddwch yn ymdrin â sefydliadau allanol a bydd gennych gryn gyfrifoldeb am reoli cysylltiadau â sefydliadau trydydd parti a chontractwyr.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Dan Bown ar Daniel.Bown@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cyfrifoldeb am Reoli Asedau ynni a seilwaith sylfaenol masnachol a sicrhau bod rhwymedigaethau cyfreithiol CNC o fewn y prydlesi gweithredol yn cael eu cyflawni’n ddiogel.
- Rheoli'r awdurdod gwariant cyllidebol o £100,000 a ddyrannwyd yn rhanbarthol mewn modd cyfrifol.
- Gweithredu fel rheolwr contract fframwaith ar gyfer contractau o fewn meysydd datblygu ynni. Cyhoeddi Rhybuddion Cynnar, cytuno ar Ddigwyddiadau Iawndal, rhestrau prisiadau a diffygion, a chymeradwyo gwaith ar ôl ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau contract NEC3.
- Arwain ar gyflawni’r rhaglenni seilwaith sylfaenol ac eilaidd blynyddol sydd eu hangen i gyflawni Cynllun Marchnata Pren CNC o fewn meysydd ynni a datblygu masnachol. Yn ddelfrydol, profiad o gyflawni rhaglen gynnal a chadw.
- Darparu cyngor proffesiynol ar faterion peirianneg a thechnegol er mwyn cael atebion cyson, ymarferol a sicrhau gwerth am arian wrth gyflawni’r gwaith.
- Cynhyrchu a rheoli’r strategaeth fwynau ar gyfer datblygiadau ynni gan gynnwys rhaglen i nodi chwareli strategol a phentyrrau stoc a ragwelir o dan drwydded a’u rheoli’n ddiogel o dan reoliadau chwareli 1999.
- Deall a chymhwyso deddfwriaeth, rheolau a gweithdrefnau cyfredol sy'n berthnasol i'r swydd.
- Annog a datblygu diwylliant sy'n ymwybodol o ddiogelwch o fewn y tîm i gyflwyno rhaglenni gwaith heb risg i iechyd a diogelwch y tîm nac unrhyw unigolyn arall, ac i gynorthwyo i gyflawni gweithrediadau peirianneg diogel a glân.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gweithredu fel 'Prif Ddylunydd' (neu) fel cynghorydd i gleient rhanbarthol ar gyfer CDM 2015.
- Yn gymwys ym maes dylunio peirianneg tir a phrofiad arbenigol o ddatblygiadau adeiladu ar raddfa fawr ar amrywiaeth o dir uchel ee rhwydweithiau ceblau trydan, llwythi annormal, chwarela, gweithredu fel cleient ar gyfer gwaith arbenigol megis dylunio strwythurol ar gyfer pontydd.
- Cymwys a phrofiadol mewn ffurfiau contract NEC ECC – cyflawni dyletswyddau rheolwr prosiect o dan NEC ECC.
- Profiad o ddefnyddio pecynnau dylunio technegol, Er enghraifft GIS, AutoCAD, AMX.
- Gwybodaeth arbenigol am ddraenio a rheoli dŵr yn ucheldir Cymru i gydymffurfio â chanllawiau Coedwig a Dŵr a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
- Dylunydd cymwys o bob math o seilwaith coedwigoedd.
- Gwybodaeth a phrofiad perthnasol o ymgynghori a gweithredu ystyriaethau amgylcheddol; cynefinoedd, EPS cadwraeth.
- Gwybodaeth am adeiladu pontydd concrit a phren.
- Gwybodaeth am GPS symudol, i'w ddefnyddio wrth gynllunio gwaith, darparu prif fannau gosod a thirfesur cyffredinol.
- Aelod o gorff proffesiynol ee ICE.neu’n gallu gweithio tuag at hyn trwy gytundeb gyda'r Arweinydd Tîm.
- Cerdyn iechyd a diogelwch safonol cydnabyddedig y diwydiant. 'CSCS' neu debyg.
- Yn gymwys neu'n barod i gyflawni cymhwyster Ymarferydd PRINCE 2 o fewn 2 flynedd i ddechrau'r swydd. Gallu defnyddio technegau Rheoli Prosiect gan gynnwys cyflawni canlyniadau ac adrodd i'r bwrdd o fewn gweithdrefnau llywodraethu llym.
- Dyletswyddau Rheolwr Chwarel; yn ddelfrydol bydd deiliad y swydd yn meddu ar gymhwyster NVQ lefel 4 rheoli Chwarel SHE neu, gyda rhywfaint o brofiad blaenorol, yn anelu at gyflawni'r cymhwyster hwn o fewn 5 mlynedd i ddechrau yn y swydd gyda chymorth CNC.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.