Dyddiad cau: 03/04/2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu / Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant

Cyflog cychwynnol: £36,246

Math o gytundeb: Cyfnod penodol tan 30/06/2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Rhif swydd: 203751

Y rôl

Fel Rheolwr Prosiect Niwclear, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi Uwch Gynghorwyr i gydlynu a rheoli ein rhan yn y broses Asesiad Dyluniad Generig (GDA). Dyma'r broses allweddol a ddefnyddir gan reoleiddwyr niwclear y DU, gan gynnwys y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) ac Asiantaeth yr Amgylchedd (EA), i werthuso cynlluniau gorsafoedd ynni niwclear newydd.

Byddwch yn gweithio'n agos gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys rheoleiddwyr y DU, adrannau'r llywodraeth, ac ymgeiswyr. Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys rhannu gwybodaeth hanfodol, cynnal cofnodion cywir a chynhwysfawr, a chynrychioli CNC mewn cyfarfodydd lle bo’n briodol, gan sicrhau y gellir cyfathrebu a chydweithio’n rhwydd ar draws nifer o sianeli gwahanol.

Yn ogystal, byddwch yn darparu cyngor strategol i Lywodraethu ac Is-grwpiau, gan gyfrannu at wneud penderfyniadau gwybodus ar bob lefel. Bydd eich arbenigedd yn hollbwysig i'r Tîm Ymbelydredd a Diwydiant, lle byddwch yn gwneud gwaith amrywiol ac effeithiol ar draws y sector niwclear. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr i hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, gan sicrhau hyfywedd hirdymor y diwydiant a'i aliniad ag arferion gorau.

Mae hon yn rôl ddeinamig a dylanwadol sy’n cynnig y cyfle i gael effaith barhaol ar ddyfodol ynni niwclear yn y DU tra’n cydweithio ag arbenigwyr blaenllaw yn y maes.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Paul Gibson at

paul.gibson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cefnogi'r tîm i feithrin perthnasoedd gwaith effeithiol a ffyrdd newydd o weithio gyda grwpiau o bob rhan o'r sefydliad i gyflawni'r amcanion corfforaethol gorau.#
  • Dehongli data ac arsylwadau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio.
  • Cefnogi gwaith i nodi a blaenoriaethu meysydd gwaith allweddol ar gyfer Niwclear yn unol â blaenoriaethau yn ein Cynllun Corfforaethol, Cynllun Busnes a Chynllun Gwasanaeth Rheoleiddio
    Cynghori’r tîm ar brosiectau cenedlaethol i gyflawni atebion integredig wedi’u cynllunio a’u rheoli’n dda sy’n cynyddu newid a gwelliant effeithiol yn CNC ac ar gyfer busnes ledled Cymru.
  • Cefnogi prosiectau sy'n datblygu, trawsnewid, a symleiddio prosesau rheoleiddio, gan ddarparu profiad gwell i gwsmeriaid.
  • Cymhwyso dulliau gwelliant parhaus i'r meysydd gwaith rydych chi'n ymgymryd â nhw.
    Darparu cyngor ar ddatblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol, er mwyn caniatáu i staff yn y busnes eu deall a’u defnyddio’n gyson a phriodol er mwyn galluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n gysylltiedig â'ch sector(au) penodol; a’r hyn sy’n sbarduno polisïau Llywodraeth Cymru a’r DU yn eich secto(au) penodol.
  2. Cymhwyster lefel gradd mewn maes pwnc perthnasol neu lefel gyfatebol o wybodaeth.
  3. Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau swyddogaeth/prosiect/tîm penodol a’r sefydliad ehangach.
  4. Sgiliau cyfathrebu effeithiol fel er mwyn gallu cyfleu materion technegol a rheoleiddiol cymhleth i ystod eang o gynulleidfaoedd, gan ddefnyddio sgiliau rhwydweithio cryf i ddylanwadu ar, neu i helpu i gyflawni canlyniadau drwy, sefydliadau partner/rhanddeiliaid.
  5. Profiad o ddeall a chymhwyso gweithgareddau rheoleiddio.
  6. Gallu gweithio'n gyflym â phrofiad cydnabyddedig o gyflawni.
  7. Bod yn arloesol a dangos cymhelliant i gyrraedd targedau.
  8. Bydd disgwyl i chi fod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf mewn polisi rheoleiddio a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu mewn modd arall cyfatebol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf