Swyddog Arbenigol (Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd)

Dyddiad cau: 20/07/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithredau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 31/07/2025

Rhif swydd: 203787, 203788, 203789, 203777, 203778, 203779

Y rôl

Gwnewch wahaniaeth lle mae’n fwyaf pwysig. Ymunwch â Chyfoeth Naturiol Cymru fel swyddog arbenigol yn y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a chymerwch yr awenau wrth adfer ecosystemau mawndiroedd hanfodol Cymru.

Ar hyn o bryd mae gennym chwe swydd wag gyda lleoliadau hyblyg ledled Cymru. Mae tri o'r rolau hyn yn gofyn am rhuglder mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig. Ar gyfer y tair swydd sy'n weddill, mae angen dealltwriaeth sylfaenol o'r Gymraeg—megis y gallu i ddefnyddio ac adnabod ymadroddion a chyfarchion syml—er nad oes angen Cymraeg llafar.

Byddwch yn cydlynu ac yn cyflawni prosiectau adfer cymhleth – gan weithio mewn rôl lle mae gwyddoniaeth, rheoli tir a chynaliadwyedd yn croestorri. O ddatblygu manylebau technegol a goruchwylio contractwyr ar lawr gwlad er mwyn sicrhau’r cydsyniadau angenrheidiol a rheoli cyllidebau prosiectau, byddwch yn ysgogi newid effeithiol ym mhob cam o’r broses gyflawni.

Bydd eich gwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys rhoi cyfarwyddyd arbenigol i gydweithwyr a phartneriaid, cysylltu â pherchnogion tir a rhanddeiliaid, a sicrhau bod prosiectau’n bodloni safonau amgylcheddol, cyfreithiol, ac iechyd a diogelwch. Byddwch hefyd yn helpu i lunio arferion gorau drwy gyfrannu at fonitro, adrodd a rhannu gwybodaeth ar draws y rhaglen.

Os oes gennych chi lawer o brofiad mewn adfer cynefinoedd a rheoli contractau a phrosiectau, ac yn ffynnu wrth gyflawni gwaith o ansawdd uchel mewn amgylcheddau amrywiol, hoffwn glywed gennych chi. Dyma eich cyfle i chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur – wrth weithio gyda thîm angerddol ar draws rhai o dirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jake White at jake.white@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a chydlynu cyngor a chyfarwyddyd technegol arbenigol o amrywiaeth o ffynonellau; sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar farn dechnegol gadarn yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol a’r arferion gorau. 
  • Gweithio gydag aelodau eraill o dîm y prosiect, staff eraill Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid allanol i gynllunio a datblygu’r rhaglen fanwl o waith adfer safleoedd, gan asesu’r gofyniad technegol ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau adfer a llunio manylebau technegol i’w dilyn gan gontractwyr.  
  • Gweithio gyda’r swyddog grantiau a chaffael yn y Rhaglen Mawndiroedd i dendro a gosod prosiectau mewn modd amserol ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru.  
  • Ymgymryd â goruchwylio contractwyr yn y maes, gan sicrhau cysylltiad â pherchnogion/meddiannwyr, staff eraill Cyfoeth Naturiol Cymru a staff partneriaid. 
  • Sicrhau bod yr holl gydsyniadau angenrheidiol ar gyfer gwaith cyflawni prosiect ar waith, gan gynnwys (pan fo’n berthnasol) cydsyniadau rhywogaethau a warchodir gan Ewrop, cydsyniadau SoDdGA, cydsyniadau cwrs dŵr cyffredin, cymeradwyaethau perygl llifogydd a chydsyniadau cynllunio.  
  • Datblygu a rheoli nifer o gontractau, gan gynnwys contractau sy’n gorgyffwrdd ac sy’n cwmpasu pob agwedd ar y prosiect, gan sicrhau bod manylebau’r prosiect a’r ddarpariaeth yn gyson ac yn cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch a chyflawni prosiectau Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys glynu wrth y Rheoliadau (Dylunio a Rheoli) Adeiladu pan fo’n berthnasol. 
  • Cefnogi staff eraill Cyfoeth Naturiol Cymru i ddylunio, caffael a rheoli contractau adfer mewn achosion pan fo’r staff hyn yn arwain ar gyflawni prosiectau.  
  • Cadw cofnodion manwl o gynnydd mewn perthynas â gweithredu’r rhaglen i gefnogi adrodd.  Cyflwyno a rhannu canlyniadau a dysgu drwy adroddiadau ysgrifenedig a dulliau eraill.
  • Cyfrannu’n rheolaidd at adroddiadau cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf dan arweiniad rheolwr y rhaglen.  
  • Gyda chymorth staff eraill Cyfoeth Naturiol Cymru a staff partneriaid, llunio profforma asesu a monitro prosiect safonol a’i roi ar waith / hyrwyddo bod eraill yn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod pob prosiect yn elwa ar asesiad sylfaenol safonol. 
  • Mynd i gyfarfodydd rheolaidd y tîm, a chyfrannu’n weithredol atynt, a chefnogi arweinydd y tîm yng nghyfarfodydd y bwrdd prosiect a’r grŵp llywio. 
  • Rheoli’r gyllideb a ddyrennir i elfennau prosiect yr ydych yn gyfrifol amdanynt a chynnal cydberthnasau â chyflenwyr trydydd parti er mwyn cyflawni gofynion gwerth am arian a phroffiliau gwariant. 
  • Cefnogi gwaith cyflawni prosiectau gan bartneriaid sydd wedi’u cymryd ymlaen drwy fecanweithiau ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys darparu cymorth technegol a logistaidd a chraffu ar ddulliau arfaethedig er mwyn sicrhau’r canlyniadau adfer gorau posibl.  
  • Gweithio gyda staff y Tîm Amgylchedd a Rheoli Tir, tenantiaid a pherchnogion tir i helpu i gyflawni cytundebau rheoli. 
  • Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.   
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Meddu ar wybodaeth fanwl am gadwraeth ecosystemau mawndiroedd. 
  2. Meddu ar wybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth berthnasol Cymru, y DU a’r UE a’r gofynion cydsynio sy’n gysylltiedig â gweithio ar safleoedd gwarchodedig. 
  3. Â phrofiad o ddatblygu, caffael a rheoli prosiectau cymhleth ar raddfa fawr sy’n cynnwys prosiectau adfer yn ymwneud â gwaith paratoi’r pridd yn y maes.  
  4. Â phrofiad o ddefnyddio systemau GIS i gynllunio a chofnodi gweithgareddau prosiect. 
  5. Gradd mewn gwyddor bioleg, gwyddor yr amgylchedd, gwyddor daearyddiaeth neu wyddor y ddaear neu brofiad perthnasol o fewn y meysydd hyn. 
  6. Â phrofiad o asesu cyflwr a gofynion adfer ecosystemau mawndiroedd. 
  7. Arbenigedd mewn cynllunio gwaith, cyllidebu a rheoli contractau. 
  8. Meddu ar sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol a gwybodaeth a phrofiad o weithredu deddfwriaeth berthnasol y DU ac Ewrop. 
  9. Â phrofiad o gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth eang o bartneriaid, o reolwyr/perchnogion a deiliaid tir unigol hyd at bartneriaid strategol allweddol.  
  10. Y gallu i weithio’n gydweithredol ag eraill a hefyd yn annibynnol gyda safonau uchel o lywodraethu, gan ddangos menter bersonol a sgiliau trefnu da.
  11. Â phrofiad o gomisiynu a rheoli prosiectau gwaith paratoi’r pridd, gan gynnwys llunio manylebau technegol, rheoli contractwyr, a defnyddio rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol.   
  12. Y gallu i yrru car yn y DU yn gyfreithlon ar hyn o bryd.
  13. Bod yn aelod o gorff proffesiynol. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig) x3
  • Dymunol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) x3

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf