Arweinydd Tîm Cyngor Cynllunio Datblygu

Dyddiad cau: 18 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Bangor

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu, Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203904

Y rôl

A ydych chi’n gynlluniwr profiadol neu’n gynghorydd amgylcheddol sy’n barod i arwain tîm perfformiad uchel sy’n llunio datblygu ledled Cymru? Rydym am benodi arweinydd hyderus a chydweithredol i reoli un o’n Timau Cynghori ar Gynlluniau Datblygu yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Fel Arweinydd Tîm ar gyfer y Tîm Cynghori ar Gynlluniau Datblygu, byddwch yn gyfrifol am arwain tîm o ryw 10 gweithiwr proffesiynol sy’n darparu cyngor arbenigol ar gynllunio a’r amgylchedd i awdurdodau cynllunio lleol, ymgeiswyr a Llywodraeth Cymru. Bydd mewnbwn eich tîm yn dylanwadu ar ddatblygiadau sylweddol – o seilwaith a thai i amaethyddiaeth ac adfywio – gan sicrhau bod cynigion yn cefnogi creu lleoedd cynaliadwy a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cyfrifol.

Byddwch yn arweinydd ymarferol ac yn sicrhau bod eich tîm yn cael ei gefnogi, ei hyfforddi a’i gyfarparu’n dda i roi cyngor cyson o ansawdd uchel. Byddwch hefyd yn helpu i lunio strategaeth a chanllawiau cynllunio cenedlaethol, a chynnal perthnasoedd gwaith cryf ag arbenigwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol.

Y prif gyfrifoldebau fydd:

  • Arwain a rheoli tîm sy’n darparu cyngor cynllunio datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru ar draws nifer o ardaloedd awdurdod cynllunio lleol.
  • Goruchwylio gwaith achos ar ystod eang o ddatblygiadau gan gynnwys seilwaith, trafnidiaeth, tai ac amaethyddiaeth.
  • Cynorthwyo eich tîm i roi cyngor ar faterion amgylcheddol gan gynnwys risg llifogydd, ansawdd dŵr, rhywogaethau a warchodir, tir halogedig a thirwedd.
  • Meithrin perthnasoedd cryf ag awdurdodau cynllunio lleol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol.
  • Cyfrannu at ddatblygu strategaeth, offer a chanllawiau ar draws y gwasanaeth.

Dyma gyfle gwych i arwain gwaith effeithiol ar gymysgedd o waith cynllunio, yr amgylchedd a pholisi sy’n seiliedig ar leoedd yng Nghymru. Os ydych chi’n arweinydd sy’n rhoi pobl wrth wraidd popeth yr ydych chi’n ei wneud, ac â chefndir mewn cynllunio, datblygu neu reoleiddio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch chi wedi’ch contractio i swyddfa CNC o fewn y ganolfan / lleoliad uchod a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas wrth eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Peter Jordan drwy anfon neges e-bost i peter.jordan@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Rheoli a datblygu tîm mawr o gynghorwyr cynllunio a bod yn gwbl atebol am eu perfformiad, eu cyfraniad, eu datblygiad a’u llesiant.
  • Byddwch yn ymgymryd â sgyrsiau technegol ar lefel uchel gyda rhanddeiliaid allanol sy’n gweithredu ar lefel uwch.
  • Bod yn gyfrifol am gyflwyno Gwasanaeth Cynlluniau Datblygu effeithlon ac effeithiol i gwsmeriaid mewnol ac allanol.
  • Bod yn gyfrifol am baratoi a chyflwyno cynllun gwaith blynyddol eich tîm ac am lunio adroddiadau perfformiad a sicrwydd cysylltiedig.
  • Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, gan gydweithio â hwy i ddatblygu a chyflwyno polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni gwaith.
  • Byddwch yn rheoli prosiectau ar ran y Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu ehangach.
  • Byddwch yn arwain grwpiau gorchwyl o staff o’r sefydliad i gynnal eich rhaglen waith. 
  • Byddwch yn gyfrifol ac yn atebol am gyfraniad y Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu at ddatganiadau ardal a chynlluniau llesiant lleol ac yn gyfrifol am gefnogi agweddau perthnasol ar eu cyflwyno.
  • Byddwch yn cyfrannu arbenigedd at y tîm ac yn atebol am y penderfyniadau a’r cyngor a roddir gan y tîm.
  • Byddwch yn cyfrannu’ch gwybodaeth dechnegol a’ch profiad o reoli rhanddeiliaid at wneud penderfyniadau’n seiliedig ar risg gan y tîm a’r busnes ehangach.
  • Byddwch yn gyfrifol am gyllidebau’r tîm a phrosiectau.
  • Byddwch yn darparu sicrwydd ac yn llywodraethu gwasanaethau y codir tâl amdanynt a weithredir gan y tîm.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Bydd gennych brofiad sylweddol mewn cynllunio datblygu ac asesu amgylcheddol.
  2. Bydd gennych sgiliau tra datblygedig ym maes datblygu partneriaethau a chyd-drafod a phrofiad sylweddol o reoli rhanddeiliaid allanol a mewnol â phroffil uchel.
  3. Bydd gennych brofiad o reoli tîm mawr, gwasgaredig.
  4. Byddwch yn gallu dadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth a gwneud penderfyniadau cadarn.
  5. Byddwch yn hyderus ac yn gallu trafod materion polisi, a allai fod yn dechnegol neu’n arbenigol, gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
  6. Byddwch yn gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm ac arwain timau rhithwir o staff sydd ag amrywiaeth o sgiliau ac arbenigedd technegol.

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf