Dyddiad cau: 29 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu, Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203911

Y rôl

A ydych chi’n frwdfrydig dros warchod a gwella tirweddau a morweddau Cymru? Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol i gymryd rhan arweiniol wrth gynghori ar faterion tirwedd a gweledol ar draws ystod eang o gynigion datblygu a chynllunio.

Fel uwch-gynghorydd tirwedd, byddwch yn darparu cyngor technegol arbenigol ar dirwedd, morwedd ac amwynder gweledol i dimau mewnol a rhanddeiliaid allanol. Bydd eich gwaith yn dylanwadu ar gynlluniau datblygu lleol, cynlluniau rheoli tirwedd, a strategaethau cynllunio ehangach, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu gwerth tirweddau naturiol a diwylliannol Cymru.

 Byddwch yn gyfrannwr allweddol at ein Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu, gan gefnogi cydweithwyr drwy ddarparu hyfforddiant, datblygu canllawiau a mentora. Byddwch hefyd yn helpu i lunio sut mae CNC yn darparu cyngor cyson o ansawdd uchel ar draws cynllunio a datblygu.

Y prif gyfrifoldebau fydd:

  • Darparu arbenigedd technegol ar dirwedd, morwedd ac effaith weledol i gynorthwyo’r gwaith o gynllunio a gwneud penderfyniadau strategol.
  • Cynghori ar gynlluniau datblygu lleol, cynlluniau rheoli tirwedd a fframweithiau cynllunio perthnasol eraill.
  • Cefnogi cydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru drwy hyfforddiant a datblygu canllawiau.
  • Meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol gydag awdurdodau cynllunio, datblygwyr, a rhanddeiliaid allanol allweddol.
  • Sicrhau bod tirwedd ac ystyriaethau gweledol yn cael eu hintegreiddio i gyngor ac ymatebion cynllunio CNC.

Dyma gyfle gwych i arwain gwaith sy’n diogelu ac yn gwella rhai o dirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru. Os ydych chi’n barod i ddylanwadu ar newid cadarnhaol trwy gyngor arbenigol a chydweithio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Peter Jordan at peter.jordan@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu cyngor arbenigol ar faterion yn ymwneud â’r dirwedd ac amwynder gweledol i waith achos caniatâd cynllunio a datblygu.
  • Darparu cyngor arbenigol ar faterion yn ymwneud â’r dirwedd ac amwynder gweledol mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol, cynlluniau rheoli tirwedd, datganiadau ardal, a chynlluniau a strategaethau eraill.
  • Paratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor CNC, gan gynnwys bod yn bresennol mewn apeliadau ac ymchwiliadau.
  • Gweithredu fel ‘cleient deallus’ wrth reoli contract fframwaith ymgynghoriaeth tirwedd allanol CNC a’r cyngor a ddarperir ganddo.
  • Cyfrannu at gynllunio a chyflwyno digwyddiadau hyfforddi sy’n ymwneud ag agweddau tirwedd ar waith achos datblygu.
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau cryf gyda phartneriaid allweddol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a Cyfrannu at ddatblygu polisi / prosesau a chanllawiau CNC.
  • Llunio cofnodion archwiliadwy o gamau gweithredu a chanlyniadau er mwyn cyfiawnhau’r holl ofynion cyfreithiol a threfniadol a dangos eu bod wedi cael eu bodloni.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymhwyster priodol, yn ddelfrydol fel pensaer tirwedd siartredig, gyda phrofiad ôl-gymhwyso perthnasol (Rhan IV).
  2. Gwybodaeth gadarn am effeithiau posibl ynni (yn enwedig ynni gwynt) a datblygiadau eraill ar dirweddau, morweddau ac amwynder gweledol, ac ar faterion lleoli, dylunio a lliniaru.
  3. Gwybodaeth dda am dirweddau Cymru, gan gynnwys y dirwedd hanesyddol a LANDMAP.
  4. Gwybodaeth ddigonol am y broses o gynllunio datblygu.
  5. Gwybodaeth arbenigol am ddulliau asesu’r effaith amgylcheddol a chymeriad tirwedd a’r system gynllunio gwlad a thref fel y mae’n berthnasol i CNC, a dealltwriaeth o bolisi cynllunio cenedlaethol perthnasol.
  6. Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da a’r gallu i gynrychioli agweddau technegol a strategol y dirwedd i bobl nad ydynt yn arbenigwyr, o fewn CNC ac yn allanol, mewn ffordd gryno ac effeithiol.
  7. Sgiliau trefnu da a’r gallu i gadw at amserlenni tynn a’r gallu i weithio ar draws timau amlddisgyblaethol.
  8. Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth, datrys problemau, a gwneud penderfyniadau craff.
  9. Y gallu i gyfathrebu a thrafod yn effeithiol â rhanddeiliaid ar lefelau rheoli uwch.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf