Rheolwr Rhaglen Dalgylch Afon Taf
Dyddiad cau: 31/08/20205 | Cyflog: Gradd 8, £52,268 - £57,726 | Lleoliad: Caerdydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Canol De Cymru / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31/03/2027
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 10/09/2025
Rhif swydd: 204039
Y rôl
Ydych chi’n angerddol am fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur drwy reoli adnoddau naturiol yn well? Ydych chi eisiau chwarae rhan allweddol yn lleihau’r perygl o lifogydd yn nalgylch afon Taf?
Rydym yn chwilio am reolwr rhaglen brwdfrydig a chydweithredol i arwain datblygiad a chyflawniad partneriaeth dalgylch newydd sy’n canolbwyntio ar reoli’r perygl o lifogydd ac adeiladu gwydnwch yn erbyn newid hinsawdd. Mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i lunio cyfeiriad strategol, sefydlu llywodraethiant effeithiol, a sbarduno atebion integredig ar sail natur yng Nghanol De Cymru.
Bydd angen sgiliau arwain, cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid cryf arnoch, ynghyd â gallu profedig i gyflawni newid trwy weithio mewn partneriaeth. Os gallwch chi droi syniadau’n weithredu ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i un o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o fewn yr ardal/lleoliad uchod, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas adeg eich penodi. Trefnir unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag David Letellier at - david.letellier@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu Andrew Robinson – andrew.robinson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae Canol De Cymru yn un o saith ardal weithredol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru. Er mai dyma’r lleiaf o ran arwynebedd tir, mae’n gwasanaethu’r boblogaeth fwyaf – tua thraean o bobl Cymru. Mae darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n cymunedau yn flaenoriaeth allweddol.
Yn y rôl hon, byddwch yn rhan o Dîm Rheoli Gweithredol Canol De Cymru, gan weithio ochr yn ochr â rheolwyr sy’n gyfrifol am y perygl o lifogydd, rheoli tir, rheoli’r amgylchedd, a phobl a lleoedd.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain datblygiad Rhaglen Dalgylch Afon Taf, gan gynnwys cyflawni’r amcanion tymor byr, tymor canolig a hirdymor sy’n seiliedig ar y dalgylch, gan gydweithio’n agos â chydweithwyr perthnasol yn CNC ac ystod eang o bartneriaid amrywiol.
- Sicrhau bod llywodraethiant priodol ar gyfer y rhaglen yn unol â phroses Swyddfa Rheoli Portffolio CNC a phrosesau rheoli prosiect cydnabyddedig.
- Darparu gwasanaeth rheoli rhaglen a phrosiect arbenigol a phroffesiynol sy’n gallu rheoli rhaglenni a phrosiectau amlddisgyblaethol o werth uchel, gydag arbenigedd penodol mewn prosiectau adfer ac ymgysylltu amgylcheddol.
- Rheoli tîm rhaglen canolog sy’n gyfrifol am reolaeth ariannol, cyfathrebu, cydlynu ymgysylltu â phobl ac adrodd ar gynnydd, a rheoli a chefnogi staff pellach yn rhithwir ar draws timau a phartneriaid eraill CNC.
- Cydweithio â sectorau allweddol, rhanddeiliaid a chydweithwyr allanol uwch, Gweinidogion, gwleidyddion a swyddogion (ar lefel Cymru a’r DU), a dylanwadu arnynt, i sicrhau bod Rhaglen Dalgylch Afon Taf yn cyflawni ei hamcanion ac yn goresgyn unrhyw rwystrau i’w chyflawni.
- Sicrhau bod rheolaeth ariannol, gan gynnwys strategaethau caffael ar gyfer sicrhau gwasanaethau allanol, yn cydymffurfio â pholisi ‘Rheoli ein Harian’ CNC.
- Darparu eiriolaeth gref ac effeithiol dros reoli’r perygl o lifogydd yn well, codi ansawdd dŵr, adfer afonydd a darparu manteision cymdeithasol ledled Cymru, gan gefnogi cyflawni’r strategaeth ymgysylltu â phobl a gofynion ariannu.
- Datblygu Grŵp Llywio Dalgylch Afon Taf a’r bartneriaeth dalgylch ehangach. Gweithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer cynghorwyr, partneriaid allanol eraill, swyddogion Llywodraeth Cymru a grwpiau llywodraethu CNC.
- Casglu’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen arloesol hon i lywio Strategaeth Afon Taf fel y gellir ei ehangu, gan ddod â manteision lluosog i systemau afonydd eraill yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
- Dirprwyo ar ran cydweithwyr sydd ar yr haen reoli pan fo angen.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â rheoli’r perygl o lifogydd, ansawdd dŵr, adfer afonydd ac arferion rheoli tir, yn ogystal ag ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
- Gwybodaeth a phrofiad o ddatblygu ceisiadau am gyllid, gan gynnwys gwybodaeth am feini prawf asesu Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
- Profiad o’r materion a’r cyfleoedd cymdeithasol ac amgylcheddol cymhleth yn nalgylch afon Taf yng Nghymru.
- Gwybodaeth fanwl am gamau ac ymyriadau adfer amgylcheddol, gan gynnwys atebion allweddol ar sail natur.
- Hanes profedig o gyflawni prosiectau neu raglenni cymhleth mewn ffordd gydweithredol a thrawsnewidiol.
- Cymhwyster proffesiynol/technegol cydnabyddedig fel ymarferydd Prince2 neu wybodaeth berthnasol gyfatebol ym maes rheoli prosiect.
- Profiad o gydgynhyrchu, cyd-gyflwyno, dulliau ymgynghori cyhoeddus, negodi ac ymgysylltu â phobl.
- Profiad o reoli rhaglenni a phrosiectau, gan gynnwys rheoli cyllidebau, rheoli staff a rhaglennu gwaith, a phrofiad o ymdrin â chyllid treftadaeth naturiol.
- Profiad o arwain, rheoli a chefnogi timau prosiect amlddisgyblaethol mewn prosiectau/rhaglenni cymhleth.
- Sgiliau gweithio mewn tîm a chyfathrebu effeithiol gyda’r gallu i ysgrifennu adroddiadau technegol sy’n glir a chryno.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.