Canlyniadau addawol hyd yn hyn i brosiect LIFE

Nod prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw gwella strwythur cynefinoedd a chyflwr y pedair Afon ACA; Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg.
Ddwy flynedd ers ei lansio ac i ddathlu Diwrnod Dŵr y Byd ar 22 Mawrth, mae’r prosiect am rannu rhai canlyniadau calonogol.
Yn y blog hwn, mae Swyddog Monitro Pedair Afon LIFE, Sophie Gott, yn esbonio pwysigrwydd monitro parhaus ar gyfer y prosiect a sut mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn arwydd o’r effaith gadarnhaol y mae’r gwaith yn ei chael ar ecosystemau afonydd.
Rydyn ni wedi cynnal llawer o waith monitro trwy gydol y prosiect, y cyfan wedi’i deilwra i’r ymyriadau adfer penodol a’r rhywogaethau targed.
Er enghraifft, Arolwg Cynefin Afonydd i fonitro newidiadau ffisegol i'r cynefin afonol lle rydyn ni wedi ailgyflwyno pren neu glogfeini i afon; neu arolygon pysgota trydanol lle rydyn ni wedi gosod llwybr pysgod.
Mae'r gwaith monitro llinell sylfaen hwn yn rhoi syniad da i ni o sut le yw'r safle cyn i ni wneud unrhyw waith, Er enghraifft faint o bysgod sydd yno, beth yw strwythur y lan a chyfansoddiad swbstrad gwely'r afon.
Yna gallwn gymharu’r data yma â data a gasglwyd ar ôl gwneud ymyriadau, a defnyddio hyn i ddangos effaith ac effeithiolrwydd y gwaith.
Rydyn ni bellach yn y cam lle rydyn ni’n gwneud gwaith monitro ôl-ymyrraeth ar rai o'n safleoedd; mae'n gynnar yn y broses o hyd ac mae angen gwneud mwy o waith dadansoddi ar y data, ond rydyn ni’n gweld rhai canlyniadau addawol.
Gwaith Afon Cleddau
Rydyn ni wedi ailgyflwyno clogfeini i un o'n safleoedd adfer ar Afon Cleddau (gallwch ddarllen mwy am y gwaith hwn yma), lle roedden nhw wedi cael eu tynnu o’r afon yn y gorffennol.
Llun: Clogfeini a gyflwynwyd yn Afon Cleddau (CNC).
Ar y safle hwn, rydyn ni wedi monitro'r poblogaethau pysgod, planhigion dyfrol a chynefin yr afon.
Mae’r data ar bysgod wedi bod yn arbennig o drawiadol, fel y dangosir yn y graff isod, gyda chynnydd mawr yn nifer y brithyllod ar y safle, a chynnydd mwy cymedrol yn niferoedd eogiaid a phennau lletwad.
Llun: Mae'r graff yn dangos cynnydd mawr yn nifer y brithyllod brown ar Afon Cleddau (CNC).
Mae'r clogfeini'n sgwrio mannau penodol, gan lanhau graean a chynyddu'r amrywiaeth o swbstrad a gwahanol fathau o lif. Mae hyn yn gwella'r cynefin ar gyfer pysgod ac infertebratau, gan ddarparu cysgod a mannau bwydo a silio.
Gwaith Afon Wysg
Ar Afon Senni (sy’n un o lednentydd Afon Wysg), tynnodd Cyngor Sir Powys, gyda chefnogaeth Prosiect Pedair Afon LIFE, hen bont bibellau a gosod pont rhychwant clir (mwy o wybodaeth yma) yn ei lle. Roedd yr hen bont yn dueddol o gael ei blocio ac roedd yn rhy fach i’r afon,
Llun Chwith: Arolygon E-bysgota yn cael eu cynnal i fyny'r afon o'r hen bont ar Afon Senni (CNC).
Llun Dde: I fyny'r afon o'r bont rhychwant clir newydd ar Afon Senni (CNC).
Rydyn ni wedi cynnal arolygon pysgota trydanol mewn safleoedd i fyny’r afon o’r bont, ac wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr eogiaid ifanc yn yr afon ar ôl y gwaith, gweler y graff isod.
Llun: Graff yn dangos cynnydd mawr yn nifer yr eogiaid ifanc yn afon Senni (CNC).
Er mai dyma’r flwyddyn gyntaf yn unig o fonitro ar ôl y gwaith ar y ddau safle hyn, rydyn ni’n obeithiol iawn bod y data yma’n dangos bod ein gwaith adfer yn gwneud yr hyn y bwriadwyd iddo ei wneud, sef helpu poblogaethau pysgod i ffynnu.
Rhaglen tagio pysgod newydd
Mae'n bwysig cynnal agwedd hyblyg at fonitro, yn enwedig pan ddefnyddir technegau newydd.
Yn 2024 dechreuwyd rhaglen o dagio gwangod ar Afon Wysg gyda thagiau acwstig bach, y gallwn eu canfod gyda derbynyddion a roddir yn yr afon.
Mae tagio gwangod yn dechneg cymharol newydd, a gyflawnwyd yn llwyddiannus gan brosiect Datgloi’r Hafren am y tro cyntaf yn y DU yn 2017.
Llun: Gwangen
Er bod CNC yn tagio gleisiaid yn rheolaidd ar afon Wysg a gleisiaid a llysywod pendoll ar afon Dyfrdwy, dydyn ni erioed wedi tagio gwangod o’r blaen. Felly roedd 2024 yn gyfle i dreialu’r technegau a gweld beth oedd yn gweithio, a pha newidiadau fyddai eu hangen i gael y data yr oedd ei angen arnom.
Nid yw gwangod yn gallu neidio nac ymdopi â dŵr cyflym iawn, a gwyddom fod sylfeini’r bont yn Llan-ffwyst yn rhwystro eu symudiad drwy’r afon, yn enwedig ar lifoedd isel, a dydyn nhw ddim yn gallu mynd heibio sylfaen y bont yng Nghrucywel.
Y gobaith oedd cael gwell dealltwriaeth o faint o wangod sy’n mudo ar Afon Wysg a’u hymddygiad ger rhwystrau fel pontydd Llan-ffwyst a Chrucywel drwy olrhain pysgod oedd wedi’u tagio.
Llwyddwyd i dagio 40 o wangod ar ein safle i lawr yr afon o dref Brynbuga. Gosodwyd derbynyddion mewn 11 safle o Isca yn estyniadau’r llanw, i fyny'r afon o Bont Crucywel (gweler y map isod am leoliad y derbynyddion a'r orsaf dagio).
Dim ond mewn pedair o'r gorsafoedd hyn y canfuwyd gwangod, pob un yn y rhannau isaf gyda dim ond un pysgodyn yn cyrraedd mor bell i fyny'r afon â chored fesur Trostre.
Llun: Map yn dangos lleoliad derbynyddion acwstig yn afon Wysg, a’r orsaf tagio gwangod.
Rydyn ni’n falch o lwyddiant y dulliau tagio, dychwelwyd pob pysgodyn yn ddiogel a gadawodd 39 yr afon ar ôl silio, sy’n golygu bod 97.5% wedi gadael am y môr.
Casglwyd rhywfaint o ddata gwerthfawr ar symudiadau pysgod yn rhannau isaf yr afon; fodd bynnag, chawson ni ddim digon o ddata i bennu effaith sylfeini'r pontydd - wnaeth yr un o'r gwangod a dagiwyd gyrraedd mor bell â hynny i fyny'r afon.
Dysgu gwersi i wella ein gwaith
Yn sgil y diffyg data hwn yn ymwneud â’r pontydd, rydyn ni bellach yn edrych ar ba newidiadau y gallwn eu gwneud i’n dulliau i’n helpu i gael data mwy perthnasol.
Yn gyntaf, mae angen inni fod yn amyneddgar! Mae'n bosibl y bydd y gwangod yn dangos patrwm mudo gwahanol ar ôl dychwelyd yn 2025 a 2026 - mae batris y tagiau’n para am tua 3 blynedd.
Yn ail, gwyddom o arolygon wyau fod rhai gwangod wedi silio ychydig i lawr yr afon o Lan-ffwyst yn 2024, ond fe wnaethon nhw hefyd silio mewn niferoedd mawr yn rhannau isaf yr afon, i lawr yr afon o Frynbuga.
Drwy symud ein gorsaf dagio i fyny’r afon o Drostre, gallwn ddal y gwangod hynny sydd â’u bryd ar ymfudo ymhellach, a gyda lwc, gallwn dargedu rhai o’r gwangod hynny sy’n bwriadu mudo i fyny i Lan-ffwyst ac o bosib heibio’r pwynt hwnnw.
Rydyn ni hefyd yn bwriadu cynyddu nifer y pysgod sy'n cael eu tagio i 60, a nifer y derbynyddion yn yr afon.
Yn olaf, un agwedd allweddol ar fonitro yw siarad ag eraill sy'n gwneud gwaith tebyg. Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe, sy'n tagio gwangod yn afonydd Tywi a Gwy, i rannu gwybodaeth, sgiliau a data.
Mae eu casgliad o dderbynyddion yn Aber Afon Hafren yn rhoi cipolwg inni ar ymddygiad ein gwangod o afon Wysg yn y môr, i ble maen nhw’n mudo, faint o amser maen nhw’n ei dreulio yn yr aber ac ati. A gall ein gwaith gyfrannu at eu set ddata gynyddol ar boblogaeth gwangod Aber Afon Hafren i gyd a’r afonydd cysylltiedig.
Edrych tua’r dyfodol
Mae gennym ychydig o ymyriadau wedi’u cynllunio yr ydyn ni’n dal i gasglu data llinell sylfaen ar eu cyfer yn 2025, gan gynnwys gwaith llwybr pysgod ar afon Cleddau, a gwaith adfer afon ar raddfa fawr yng Nghors Caron ar Afon Teifi, yn ogystal â pharhau â’r gwaith olrhain gwangod a gleisiaid ar afon Wysg.
Byddwn ni hefyd yn parhau i gynnal gwaith monitro ôl-ymyrraeth, gan gasglu'r data a'r dystiolaeth i ddangos effaith gadarnhaol ein cynlluniau hyd yn hyn.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith gallwch ein dilyn ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu gallwch danysgrifio i'n cylchlythyr yma