Gweithio gyda'n gilydd dros afon Conwy: Pysgotwyr a CNC yn dod ynghyd er budd iechyd afonydd
Ar noson gwlyb ym mis Tachwedd, roedd Neuadd Goffa Betws-y-Coed yn llawn sgyrsiau a bwrlwm - a’r un oedd y nod i bawb. Daeth ein staff ac aelodau clybiau pysgota lleol ynghyd o dan yr un to, gyda nod cyffredin: gwarchod ac adfer dalgylch afon Conwy.
Roedd y cyfarfod hwn, a gynhaliwyd ddydd Mawrth 18 Tachwedd, yn estyniad o fenter Llifo Conwy – menter cydweithredol sy'n gweithio ar yr hinsawdd, natur, pobl a themâu diwyllianol i wella iechyd yr afon a'r dalgylch. Roedd yn fwy na chyfarfod yn unig; roedd yn gyfle i atgyfnerthu partneriaethau a sbarduno syniadau newydd.
Pwy oedd yn bresennol?
Fe wnaethom ymuno â chlybiau pysgota gan gynnwys Dolgarrog, Plas Madoc, Llanrwst, Betws-y-Coed, Dolwyddelan, a Wirral Game. Ychwanegodd rhanddeiliaid allweddol eraill fel Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru a Dŵr Cymru eu lleisiau i'r drafodaeth.
Beth fuom ni’n ei drafod?
Roedd y noson yn cynnwys tri chyflwyniad diddorol yn arddangos y gwaith a wnaed yn y dalgylch dros y flwyddyn ddiwethaf:
- Crynodeb ansawdd dŵr
- Crynodeb o'r Arolwg Eogiaid Ifanc
- Adferiad Misglod Perlog Dŵr Croyw
Gosododd y diweddariadau hyn sylfaen ar gyfer sesiwn holi ac ateb agored, lle bu clybiau pysgota’n codi pryderon a rhannu syniadau ynglŷn ag ansawdd dŵr, adfer cynefinoedd, a gwella asedau afonydd. Roedd yn sgwrs fywiog, adeiladol – y math sy'n adeiladu ymddiriedaeth ac yn sbarduno gweithgarwch.
Pam mae hyn yn bwysig?
Nid yw afonydd iach yn digwydd ar hap. Mae angen gofal, ymrwymiad a chydweithrediad. Mae digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â heriau fel dirywiad mewn llwybrau eogiaid a brithyll môr, gan sicrhau bod afon Conwy yn parhau i fod yn gynefin ffyniannus i fywyd gwyllt ac yn adnodd gwerthfawr i gymunedau lleol.
Rhoddodd Garry Davies, Cadeirydd Cymdeithas Bysgota Plas Madoc, grynodeb perffaith i’r cyfarfod:
"Mae wedi bod yn gyfle gwych i siarad â chyrff eraill sydd wedi buddsoddi'r un faint yn y dalgylch a rhannu'r pryder am ddirywiad llwybrau eogiaid a brithyllod y môr yn yr afon. Y gobaith yw trwy gydweithio agosach y gellir datblygu gwell dealltwriaeth o’r rhesymau dros hyn a gellir rhoi strategaethau ar waith i wella niferoedd pysgod."
Edrych i’r dyfodol
Mae llwyddiant y digwyddiad hwn yn dangos yr hyn sy'n bosibl pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. Byddwn yn parhau i adeiladu'r partneriaethau hyn, gwrando ar leisiau lleol, a chymryd camau i ddiogelu dalgylch Conwy am genedlaethau i ddod.