Blog tywydd sych 2026
Diweddariadau am y tywydd sych yn 2026
27 Awst 2026
Sychder Cymru yn parhau
Er gwaethaf y glaw diweddar a'r tymereddau ychydig yn oerach, mae'r amodau'n parhau'n sychach na'r arfer, gyda lefelau glawiad is na'r cyfartaledd ledled Cymru. O ganlyniad, nid oes unrhyw newid i’r statws sychder.
Mae ein penderfyniad i barhau â statws sychder yn seiliedig ar bryderon parhaus ynghylch yr effeithiau ar yr amgylchedd, ar amaethyddiaeth, ar ddefnyddwyr dŵr ac o ran rheoli tir ledled Cymru.
Y sefyllfa o ran dŵr
Hyd at 26 Awst, dim ond 29% o'r glawiad disgwyliedig ym mis Awst yr oedd Cymru wedi'i dderbyn o'i gymharu â'r cyfartaledd hirdymor (1981-2010). Os na chofnodir unrhyw law sylweddol yn ystod gweddill y mis, mae’n debyg mai’r mis Awst hwn fydd y sychaf ers 2003. Fodd bynnag, rhagwelir glaw dros y dyddiau nesaf, a allai effeithio ar y sefyllfa hon.
Mae priddoedd ledled Cymru hefyd ymhell islaw lefelau lleithder arferol, neu'n sych ( COSMOS ) - prin yw’r effaith y mae’r glaw diweddar wedi ei chael ar leithder pridd.
Mae llawer o afonydd Cymru - Clwyd, Alun, Clywedog, Tanat, Dyfi, Dyfrdwy, Conwy, Cothi, Cleddau, Teifi, Tywi, Tawe, Gwy, Wysg a’u llednentydd - yn parhau’n eithriadol o isel am yr adeg o’r flwyddyn. Rydym wedi profi’r lefelau isaf erioed o lif ar draws safleoedd, megis Dyfi wrth y Bont, Afon Ystwyth ym Mhont Llolwyn ac afon Tawe yn Ystradgynlais.
Mae lefelau dŵr daear yn isel iawn yn y rhan fwyaf o Gymru hefyd - ac yn parhau i ddirywio. Gwelir y lefelau isaf erioed ar gyfer mis Awst mewn rhai safleoedd. Mae ein ffeniau a’n corsydd, ein mawndiroedd, ein gwlyptiroedd a’n hardaloedd draenio oll yn dioddef o lefelau isel o ddŵr.
Mae tymheredd afonydd ledled Cymru bellach wedi dechrau oeri ychydig tua diwedd mis Awst.
Cyfeiriwch at Hafren Dyfrdwy a Dŵr Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf am lefelau cronfeydd dŵr a'r sefyllfa o ran y cyflenwad dŵr cyhoeddus:
Lefelau cronfeydd dŵr | Amdanom Ni | HD Cymru
Adnoddau dŵr | Dŵr Cymru (dwrcymru.com)
Pryderon
Mae pryderon yn parhau am effeithiau sylweddol a pharhaus yr amodau sych hirfaith ar afonydd, lefelau dŵr daear, bywyd gwyllt, y tir rydym yn ei reoli, a'r amgylchedd naturiol ehangach ledled Cymru.
Mae amodau sychder hefyd yn parhau i effeithio ar y sector amaethyddol a defnyddwyr dŵr, gan gynnwys tynwyr dŵr, ledled y wlad.
Anogwn aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000.
Ein hymateb
Rydym yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru, yn parhau i gymryd rhan yng Ngrŵp Cyswllt Sychder Cymru, ac yn gweithio'n agos gyda chwmnïau dŵr a rhanddeiliaid eraill i drafod pryderon sy'n dod i'r amlwg a chydlynu ein hymateb.
Ar 17 Awst, cyflwynodd CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd geisiadau ar y cyd i Lywodraeth Cymru a Defra am orchymyn sychder cyffredin yn ymwneud ag Afon Hafren. Rydym yn aros am ganllawiau pellach gan y ddwy lywodraeth sy'n gyfrifol am benderfynu ar y ceisiadau.
Mae rhagor o wybodaeth am ein hymateb i sychder ar gael yn ein blogiau blaenorol (gweler isod). Mae hyn yn cynnwys mwy o fonitro amgylcheddol, mwy o wiriadau mewn lleoliadau allweddol, ac ymateb i ddigwyddiadau ar lawr gwlad yn unol â'n gweithdrefnau.
Y rhagolygon
Mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y tywydd yn parhau’n ansefydlog dros y dyddiau nesaf. Er bod y glaw hwn yn newyddion da, a bydd yn helpu i leihau rhywfaint o’r pwysau, byddai angen glaw sylweddol a pharhaus inni weld adferiad o'r amodau sychder presennol.
O ran y rhagolygon hirdymor, mae'r rhagolygon hydrolegol diweddaraf (gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg) yn nodi:
Mae'n debygol y bydd lefelau dŵr daear yn normal neu'n is na normal dros y cyfnod nesaf o un i dri mis. Mae'n debygol y bydd lefelau llif afonydd yn is na'r arfer dros y tri mis nesaf.
Yng ngoleuni hyn, byddwn yn parhau i adolygu amodau ledled Cymru yn rheolaidd a byddwn yn adrodd ar unrhyw newidiadau statws yn unol â hynny. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i’r amodau sychder barhau dros yr wythnosau nesaf nes i ni weld cyfnod parhaus o law sylweddol.
17 Awst
Ein statws
Wedi mis Gorffennaf hanesyddol o sych - ac ychydig iawn o law ers hynny hefyd - mae statws sychder yn parhau ledled Cymru gyfan.
Mae ein penderfyniad i barhau â statws sychder yn seiliedig ar bryderon parhaus ynghylch yr effeithiau ar yr amgylchedd, ar amaethyddiaeth ac o ran rheoli tir ledled Cymru.
Y sefyllfa o ran dŵr
Ym mis Gorffennaf, roedd lefel y glawiad yng Nghymru yn 10% o'r cyfartaledd hirdymor ar gyfer 1981-2010. Dyma'r mis Gorffennaf sychaf ers i gofnodion ddechrau 190 mlynedd yn ôl. Mae'r Swyddfa Dywydd wedi datgan bod hyn yn llai na hanner y record blaenorol, o 1911. Dyma hefyd oedd y mis Gorffennaf cynhesaf erioed - mae’n gydradd uchaf, gyda thymheredd cymedrig o 17.8°C.
O ran y pedwar mis diwethaf gyda’i gilydd (Ebrill – Gorffennaf) - mae Cymru wedi cael 66% o'r glawiad disgwyliedig ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Hyd at 12 Awst, mae Cymru wedi derbyn 6% o'r glawiad disgwyliedig ar gyfer y mis.
Mae llawer o afonydd Cymru - Clwyd, Alun, Clywedog, Dyfi, Dyfrdwy, Conwy, Cothi, Cleddau, Teifi, Tywi, Nedd, Tawe, Gwy, Wysg a’u holl lednentydd - yn eithriadol o isel am yr adeg o’r flwyddyn. Rydym hefyd yn profi rhai o'r mesuriadau llif isaf ar gofnod - megis afon Ystwyth ym Mhont Llolwyn ac afon Tawe yn Ystradgynlais.
Mae lefelau dŵr daear yn isel iawn yn y rhan fwyaf o Gymru - ac yn parhau i ddirywio. Er enghraifft, mae Pont-hir (Torfaen), Brynberian a Hasguard Cross (Sir Benfro) yn eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn. Roedd y tri safle dŵr daear hyn yn agos at, neu ar, lefelau hanesyddol o isel ar gyfer mis Awst. Mae priddoedd yn sych (COSMOS) ac rydym yn gweld lefelau isel o ddŵr yn ein corsydd, ardaloedd mawndir ac ardaloedd draenio.
Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst hyd yma, mae tymheredd yr afonydd wedi bod yn 20C, neu uwchlaw hynny - gan gynnwys afon Gwy ac afon Wysg sydd wedi cyrraedd dros 26C. Dros ddechrau mis Awst, roeddent ychydig yn oerach eto ledled Cymru - ond bu iddynt godi eto o ganlyniad i'r pumed cyfnod o dywydd poeth a gafwyd.
Pryderon
Rydym yn parhau i fod â phryderon ledled Cymru ynghylch y pwysau y mae’r diffyg glaw a’r tymheredd uchel wedi'i roi, ac yn parhau i'w roi, ar afonydd, ar lefelau dŵr daear, ar les eogiaid ac ar bysgod sy’n mudo - yn ogystal â bywyd gwyllt, amaethyddiaeth, y tir rydym yn ei reoli, a'r amgylchedd naturiol ehangach ledled Cymru.
Ymysg y pryderon penodol a nodwyd mae:
- Llif eithriadol o isel ar draws y rhan fwyaf o ddalgylchoedd, gyda rhai mesuriadau bron yn hanesyddol o isel mewn mannau a rhai llednentydd yn sych.
- Llai o law na'r disgwyl ym mhob dalgylch yn ystod mis Gorffennaf ac ym mis Awst hyd yn hyn.
- Mae'r rhan fwyaf o safleoedd dŵr daear yn nodedig o isel neu'n eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn ac yn dirywio (gyda rhai safleoedd ar lefelau hanesyddol o isel).
- Lefelau rhai ardaloedd draenio, fel Morfa Gwent, yn gyffredinol is na’r disgwyl ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.
- Pryderon ynghylch ein cynefinoedd pwysig - coedwigoedd, corsydd, mawndiroedd - a’r effeithiau ar eu rhywogaetha.
- Pryderon ynghylch y dŵr sydd ar gael i bobl a bywyd gwyllt ar hyd afon Hafren ac ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Hafren (safle Ramsar) oherwydd y pwysau o ran lefelau storio dŵr yng nghronfa Clywedog.
- Pysgod mewn trallod neu’n marw - ac effeithiau ar rywogaethau eraill fel cimwch crafanc wen
- Mwy o lygredd oherwydd diffyg dŵr.
- Algâu gwyrddlas yn ffynnu - gydag adroddiadau am lawer o edefynnau o algâu mewn mannau.
- Pryderon ynghylch effeithiau parhaus ar laswellt gan gynnwys argaeledd porthiant, twf cnydau a chyflenwad dŵr ar gyfer amaethyddiaeth - a sgil-effeithiau hynny yn y gaeaf.
- Risg barhaus o danau ledled Cymru.
Ein hymateb a'n cyngor
Mae timau sychder CNC yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i adolygu’r amodau a chydlynu camau gweithredu ledled Cymru. Mae camau monitro estynedig yn parhau i fod ar waith, ochr yn ochr â gwiriadau ar safleoedd o flaenoriaeth a gwaith sy’n ymateb i ddigwyddiadau yn unol â'n gweithdrefnau.
Mae cyfyngiadau tynnu dŵr yn parhau ledled Cymru yn unol â thrwyddedau cyfredol. Hoffem atgoffa unrhyw ddeiliaid trwydded i sicrhau eu bod yn ymwybodol o amodau’r drwydded ac yn cymryd camau priodol i gydymffurfio â nhw. Rydym yn cysylltu ac yn cynnal gwiriadau cydymffurfiaeth ar gyfer deiliaid trwyddedau â blaenoriaeth.
Mae cynlluniau rheoleiddio - megis rhai afonydd Hafren, Tywi, Clwyd, Dyfrdwy a Gwy - yn gweithredu yn unol â chytundebau cwmnïau dŵr, CNC a rheoleiddwyr eraill. Mae gollyngiadau ychwanegol yn cael eu gwneud ar afonydd Dwyfor a Thywi i helpu i gefnogi'r amgylchedd.
Rydym yn parhau i ymgysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch materion trawsffiniol, yn enwedig o ran trafodaethau ar afonydd Hafren, Dyfrdwy a Gwy.
O ran Rheoliadau Afon Hafren a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar y cyd, rydym ni ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwneud cais ar y cyd am Orchymyn Sychder Afon Hafren i Lywodraeth Cymru a Defra ar 17 Awst 2026. Byddai'r Gorchymyn Sychder yn cyflwyno targedau llif is a chyfyngiadau tynnu dŵr i warchod yr adnoddau dŵr sy'n weddill a chynnal gwydnwch system Afon Hafren.
Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda chwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru ac aelodau eraill Grŵp Cyswllt Sychder Cymru i fonitro’r amodau a chydlynu ymatebion.
Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â’r tywydd sych. Mae cymorth hefyd ar gael i ffermwyr gan Lywodraeth Cymru wrth i'r tywydd sych barhau.
Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro yn parhau mewn grym yng Nghanolbarth a De Ceredigion. Rydym hefyd yn parhau i annog pawb ledled Cymru, ochr yn ochr â'r cwmnïau dŵr, i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Ewch i wefan ymgyrch ‘Dewch i Arbed Dŵr’ - www.dewchiarbeddwr.cymru - am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr. Mae rhagor o gyngor ar gael gan Waterwise hefyd.
Wrth fwynhau'r awyr agored, peidiwch â chynnau tanau na barbeciws yng nghefn gwlad gan fod risg uchel o danau gwyllt Cyfoeth Naturiol Cymru / Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel
Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000.
Y rhagolygon
Mae'r rhagolygon yn dangos risg barhaus o dywydd sych dros yr wythnosau nesaf, gyda'r posibilrwydd o gyfnodau pellach o dywydd poeth dros weddill yr haf.
Byddai hyn yn arwain at lif isel parhaus, lefelau dŵr daear isel iawn, a thymheredd afonydd uwch na'r disgwyl.
Bydd CNC yn parhau i fonitro’r amodau'n agos ac adolygu’r statws sychder ledled Cymru wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
30 Gorfennaf 2026
Ein statws
Statws sychder bellach yn berthnasol dros Gymru gyfan
Wrth i'r tywydd poeth a sych barhau, ac yn dilyn adroddiadau parhaus o ddirywiad pellach yn yr amodau ar draws y wlad, heddiw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymestyn y statws sychder ar draws Cymru gyfan.
Mae’r prif ddalgylchoedd y mae’r newid i statws 'sychder' heddiw yn effeithio arnyn nhw yn cynnwys:
- Gwy (Cymru)
- Wysg
- Y Cymoedd a Bro Morgannwg
- Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr
- Abertawe a Llanelli
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
- Teifi
- Gogledd Ceredigion
Cadarnhawyd bod dalgylchoedd Gogledd Cymru a Hafren Uchaf (Cymru) mewn statws sychder yr wythnos diwethaf (23 Gorffennaf).
Dyma'r trydydd gwaith i’r statws sychder gael ei newid dros y tair wythnos diwethaf, sy’n dangos pa mor gyflym mae’r amodau wedi bod yn dirywio yn ystod y cyfnod eithriadol o gynnes a sych hwn.
Mae dosbarthiadau sychder CNC yn seiliedig ar ddangosyddion ac effeithiau hydrolegol ac amgylcheddol, gan gynnwys llif afonydd, lefelau dŵr daear, glawiad, lefelau lleithder y pridd a phwysau ar ecosystemau, amaethyddiaeth a gweithgarwch rheoli tir. Mae cwmnïau dŵr yn gweithredu eu cynlluniau sychder eu hun ac yn defnyddio trothwyon ar wahân ar gyfer penderfyniadau sy'n ymwneud â chyflenwad dŵr a chyfyngiadau i gwsmeriaid.
Y sefyllfa o ran dŵr
Mae mis Gorffennaf wedi bod yn eithriadol o sych ledled Cymru. Ar 27 Gorffennaf, dim ond 8% o'r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer y mis roedd Cymru wedi’i gael, gan olygu bod mis Gorffennaf eleni yn debygol o fod y sychaf ers dechrau’r cofnodion 190 mlynedd yn ôl. Dim ond rhyddhad cyfyngedig yn y tymor byr y mae glaw diweddar wedi'i roi, gan helpu i wlychu’r pridd a lleihau'r risg o dân dros dro mewn rhai lleoliadau.
Mae lefelau afonydd yn parhau i fod yn isel ym mhob cwr o Gymru, gyda rhai afonydd wedi cyrraedd lefelau eithriadol o isel am yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae lefelau dŵr daear yn parhau i ostwng ac yn is na'r disgwyl mewn nifer o safleoedd monitro.
Mae'r penderfyniad i ymestyn statws sychder i Dde Cymru yn seiliedig ar gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys llif afonydd eithriadol o isel, glawiad isel iawn ar draws dalgylchoedd, lefelau dŵr daear sy'n gostwng, adroddiadau cynyddol am effaith amgylcheddol a rhagolygon sy'n nodi’r posibilrwydd o dywydd sych a phoeth pellach.
Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro yn parhau i fod mewn grym yng Nghanolbarth a De Ceredigion a chaiff cwsmeriaid eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Cyfeiriwch at wefannau'r cwmnïau dŵr i weld y sefyllfa ddiweddaraf o ran lefelau cronfeydd dŵr a chyflenwad dŵr.
Pryderon
Ledled Cymru, mae adroddiadau cynyddol wedi dod i law ein cydweithwyr ynglŷn ag effeithiau ar yr amgylchedd ac ar y tir, sy'n gysylltiedig â'r sychder. Mae'r rhain yn cynnwys gwelyau afonydd yn sychu, pysgod mewn trallod, gordyfiant algâu, pwysau ar weithgarwch amaethyddol a risg barhaus o danau gwyllt.
Mae’r pryderon penodol sydd wedi cael eu hadrodd gan dimau yn cynnwys:
- Afonydd a llednentydd yn sychu mewn sawl lleoliad.
- Adroddiadau am bysgod mewn trallod ac achosion ynysig o bysgod yn marw.
- Pwysau cynyddol ar ecosystemau’r tir a’r dŵr.
- Ffermwyr yn adrodd am lai o laswellt yn tyfu, effaith ar gnydau a phryderon ynglŷn â chyflenwadau dŵr i dda byw.
- Pryderon parhaus ynglŷn â’r risg o danau gwyllt yn dilyn tanau helaeth yn gynharach eleni.
Mae CNC hefyd yn parhau i fod yn bryderus am yr effaith ar iechyd afonydd, lefelau dŵr daear, llesiant pysgod, bywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol ehangach.
Ein hymateb a'n cyngor
Mae cynlluniau rheoleiddio hefyd yn parhau i fod ar waith i helpu i gefnogi llif afonydd a'r amgylchedd lle bo modd, yn ogystal â rheolaethau tynnu dŵr yn unol â thrwyddedau presennol. Mae CNC hefyd yn gweithio'n agos gyda chwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac aelodau eraill Grŵp Cyswllt Sychder Cymru i fonitro’r amodau a chydlynu ymatebion.
Hoffem atgoffa deiliaid trwyddedau tynnu dŵr i wirio amodau eu trwyddedau, yn arbennig a oes amod 'llif annibynnol' yn berthnasol. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i roi’r gorau i weithgarwch tynnu dŵr pan fydd llif afonydd yn isel iawn, er mwyn amddiffyn yr amgylchedd, ac mae'n debygol o fod wedi dod i rym yn y sefyllfa bresennol.
Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â’r tywydd sych.
Lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i www.letssavewater.cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr. Mae rhagor o gyngor hefyd ar gael gan Waterwise.
Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000.
Gweler ein cyngor ni a chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â mynd i mewn i’r dŵr yr haf hwn.
Gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24 awr CNC ar 0300 065 3000, neu drwy ein gwefan.
Y rhagolygon
Mae'r rhagolygon yn dangos risg barhaus o dywydd sych dros yr wythnosau nesaf, gyda'r posibilrwydd o gyfnodau pellach o dywydd poeth dros weddill yr haf. Bydd CNC yn parhau i fonitro’r amodau'n agos ac adolygu’r statws sychder ledled Cymru wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
26 Gorfennaf
Ein statws
Yn dilyn adolygiad o amodau hydrolegol ac amgylcheddol ledled Cymru, rydym wedi penderfynu symud rhannau o ogledd Cymru a Hafren Uchaf o statws 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych' i statws 'Sychder'.
Dyma’r dalgylchoedd yr effeithir arnynt:
- Gogledd Gwynedd, gan gynnwys Ynys Môn
- De Gwynedd
- Dyfrdwy (Cymru)
- Clwyd
- Hafren Uchaf
Mae diffiniad CNC o 'Sychder' yn golygu bod dangosyddion hydrolegol yn dangos cyfnod sylweddol o lif isel mewn afonydd, llai o lawiad, lefelau dŵr daear sy'n gostwng ac amodau pridd sych. Mae hefyd yn adlewyrchu effeithiau cynyddol ar ecosystemau, amaethyddiaeth a rheoli tir.
Mae'r penderfyniad wedi'i wneud oherwydd y rhesymau canlynol:
- Mae llif yr afonydd yn eithriadol o isel ar draws y dalgylchoedd yr effeithir arnynt, gyda rhai lleoliadau yn cyrraedd y lefelau isaf misol.
- Mae'r rhan fwyaf o ddalgylchoedd wedi cael llai nag 20% o'r glawiad a ddisgwylir yn ystod mis Gorffennaf.
- Mae lefelau dŵr daear yn parhau i ostwng ac maent yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.
- Mae effeithiau amgylcheddol ac amaethyddol yn dod yn fwyfwy cyffredin.
- Mae'r rhagolygon yn awgrymu tywydd sych parhaus a'r posibilrwydd o gyfnodau poeth pellach.
- Mae tymereddau uchel yn parhau i roi pwysau ar afonydd ac ecosystemau dyfrol.
Rydym hefyd wedi symud dalgylchoedd ar draws de-orllewin Cymru o statws 'Normal' i statws 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych'.
Y dalgylchoedd hyn yw:
- Gwy (Cymru)
- Wysg
- Y Cymoedd a Bro Morgannwg
- Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr
- Abertawe a Llanelli
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
- Teifi
- Gogledd Ceredigion
Mae ein penderfyniadau’n seiliedig ar bryderon cynyddol ynghylch yr effeithiau ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth a rheoli tir ledled Cymru.
Sefyllfa o ran dŵr
Hyd yn hyn, ychydig iawn o law sydd wedi bod ledled Cymru ym mis Gorffennaf.
Hyd at 21 Gorffennaf, mae rhai o'r amodau sychaf yn y rhan hon o Gymru wedi'u cofnodi yn nalgylchoedd Hafren Uchaf, Gwynedd a Chlwyd, lle cafwyd llai na 2% o'r glawiad disgwyliedig ar gyfer mis Gorffennaf. Yn ôl y Swyddfa Dywydd, nid yw llawer o ogledd Cymru wedi gweld unrhyw law ers 6 Gorffennaf.
Os bydd yr amodau hyn yn parhau am weddill y mis, disgwylir mai mis Gorffennaf 2026 fydd y mis Gorffennaf sychaf a gofnodwyd yng Nghymru ers bron i 190 o flynyddoedd.
Mae lefelau afonydd mewn sawl rhan o ogledd Cymru a Hafren Uchaf yn eithriadol o isel, gan gynnwys dalgylchoedd Clwyd, Dyfi, Alun, Clywedog, Conwy a Thanat. Mae llifoedd isaf misol newydd eisoes wedi'u cofnodi yn Afon Clwyd ac ar Afon Erch ar Benrhyn Llŷn, tra bod llifoedd sawl afon arall yn agos at fod ar y lefelau isaf erioed.
Yn ne Cymru, mae amodau'n amrywio rhwng normal ac eithriadol o isel, gyda rhai o'r effeithiau mwyaf i'w gweld yn nalgylchoedd Wysg, Gwy, Cleddau a Theifi.
Mae tymheredd afonydd yn parhau i fod yn bryder, gyda sawl afon gan gynnwys afonydd Dyfrdwy, Gwy, Wysg, Tywi a Thaf yn cofnodi tymheredd o 20°C neu uwch. Mae lefelau dŵr daear yn parhau i ostwng ledled Cymru, gyda rhai safleoedd yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.
Er bod lefelau cronfeydd dŵr yn parhau i fod yn iach ar y cyfan, mae galw mawr am ddŵr yn parhau i greu pwysau ar gyflenwadau mewn rhai ardaloedd. Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro yn parhau mewn grym yng Nghanolbarth a De Ceredigion ac anogir cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.
Ein hymateb a'n cyngor
Mae ein timau sychder yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd ac maent bellach yn gweithredu'r camau a nodir yng Nghynllun Sychder CNC.
Ar gyfer gogledd Cymru a Hafren Uchaf, rydym yn dilyn ein mesurau ymateb i sychder, tra bod camau ‘cyfnod hir o dywydd sych’ yn parhau i fod ar waith ar draws de Cymru. Byddwn yn parhau i adolygu amodau a diweddaru ein statws yn ôl yr angen.
Mae ein timau yn cynnal mwy o waith monitro, wedi cynyddu archwiliadau mewn lleoliadau allweddol ac yn parhau i ymateb i ddigwyddiadau yn unol â'n gweithdrefnau ledled Cymru.
Rydym yn darparu cefnogaeth i wasanaethau tân ac achub i fynd i'r afael â thanau gwyllt. Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.
Yn ddiweddar, cafodd misglod perlog yn Afon Eden eu symud i ddŵr dyfnach i leihau'r risg a achosir gan ostyngiad o ran lefelau dŵr.
Mae cyfyngiadau presennol ar drwyddedau tynnu dŵr yn cael eu cymhwyso i gyfyngu ar dynnu dŵr pan gyrhaeddir trothwyon penodol, tra bod cynlluniau rheoleiddio afonydd gan gynnwys Dyfrdwy, Hafren, Tywi, Clwyd a Gwy yn parhau i gefnogi llif afonydd ac amddiffyn cynefinoedd a rhywogaethau sy'n dibynnu ar systemau afonydd.
Yn ddiweddar, mae mwy o ddŵr wedi’i ollwng o gronfeydd dŵr i Afon Dyfrdwy ac Afon Aled er budd pysgodfeydd ac ecoleg yr afonydd yn ystod cyfnodau o wres eithafol.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chwmnïau dŵr, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill drwy Grŵp Cyswllt Sychder Cymru.
Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor a ddarperir ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â thywydd sych.
Lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i www.letssavewater.cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr. Mae rhagor o gyngor ar gael hefyd gan Waterwise.
Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000.
Gweler ein cyngor ni a chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â mynd i mewn i ddŵr yr haf hwn.
Pryderon
Rydym yn parhau i bryderu am y pwysau y mae’r cyfnod hir o dywydd sych ac amodau sychder yn ei roi ar afonydd, dŵr daear, bywyd gwyllt, pysgodfeydd, tir ac amgylchedd naturiol ehangach Cymru.
Gall llif isel mewn afonydd a thymheredd dŵr cynhesach effeithio ar les pysgod a’u gallu i fudo, tra bod amodau sych yn cynyddu'r pwysau ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n dibynnu ar afonydd, gwlyptiroedd a phriddoedd iach.
Rydym hefyd yn gweld effeithiau cynyddol ar amaethyddiaeth. Mae tywydd poeth a sych parhaus yn effeithio ar dwf glaswellt ac argaeledd porthiant, ac yn cynyddu pryderon ynghylch lles da byw ac argaeledd dŵr ar ffermydd.
Mae pryderon penodol yng ngogledd Cymru a Hafren Uchaf yn cynnwys:
- Cynefinoedd glaswelltir pwysig yn mynd yn sych cyn i blanhigion gael cyfle i flodeuo a hadu.
- Mawndiroedd yn sychu a chracio, gan gynyddu'r risg o danau gwyllt ac effeithio ar gynefinoedd bywyd gwyllt pwysig.
- Tanau gwyllt parhaus yng ngogledd-orllewin Cymru ac adroddiadau am danau llai mewn mannau eraill.
- Llifoedd isel iawn mewn afonydd a nentydd, gyda rhai cyrsiau dŵr llai yn sychu a throi’n byllau ynysig.
- Adroddiadau cynyddol gan ffermwyr am gyflenwadau porthiant gaeaf yn cael eu defnyddio'n gynnar a ffynonellau dŵr amaethyddol yn sychu.
- Adroddiadau bod cyflenwadau dŵr preifat yn cael eu heffeithio gan yr amodau sych parhaus.
Rhagolwg
Mae'r rhagolygon yn awgrymu bod amodau sych yn debygol o barhau dros yr wythnos nesaf, er bod rhywfaint o botensial ar gyfer tywydd mwy ansefydlog tua diwedd mis Gorffennaf a dechrau mis Awst.
Mae tebygolrwydd uchel hefyd o donnau gwres pellach yn ystod gweddill yr haf.
Heb law sylweddol a pharhaus, gallai dalgylchoedd ychwanegol symud i sychder yn gyflymach nag a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
16 Gorffennaf 2026
Cyhoeddi statws ‘cyfod hir o dywydd sych’ ar gyfer gogledd a de-ddwyrain Cymru.
Ein statws
Ar hyn o bryd mae Cymru'n profi cyfnod hir o dywydd sych sy'n cael ei waethygu gan donnau gwres ar draws rhannau o Gymru. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu symud dalgylchoedd yng Ngogledd Cymru, Hafren Uchaf a De-ddwyrain Cymru o statws 'Normal' i 'Gyfnod Hir o Dywydd Sych'.
Mae 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych' yn golygu bod dangosyddion hydrolegol yn dangos llif isel am gyfnod estynedig mewn afonydd, gostyngiad o ran lefelau dŵr daear a llai o law ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Mae dangosyddion eraill yn dangos llai o leithder yn y pridd, mwy o adroddiadau am effeithiau ar ecosystemau, tir, cyflenwad dŵr a sectorau eraill. Mae'r penderfyniad i newid i'r statws hwn ar draws rhannau o Gymru yn seiliedig ar gyrraedd y rhan fwyaf o'r dangosyddion hyn a phryderon sy'n dod i'r amlwg ynghylch yr amgylchedd a rheoli tir.
Mae ein penderfyniad wedi cael ei rannu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys uwch wneuthurwyr penderfyniadau o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill.
Yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan y newid o ran statws heddiw yng Nghymru yw:
- Dyfrdwy (Cymru)
- Clwyd
- Hafren Uchaf
- Gogledd Gwynedd (Conwy, Ynys Môn, Arfon, Dwyfor)
- De Gwynedd (Meirionnydd)
- Gwy (Cymru)
- Wysg
- Y Cymoedd (Taf, Ebwy, Rhymni, Elái)
- Bro Morgannwg (Dawan)
Rydym yn ymgysylltu’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y dalgylchoedd trawsffiniol. Mae'r sefyllfa ddiweddaraf i'w gweld ar wefan gov.uk.
Sefyllfa o ran Dŵr
Yn ôl y sefyllfa ar 16 Gorffennaf 2026, prin iawn y mae wedi bwrw glaw os o gwbl ym mis Gorffennaf hyd yn hyn ar draws dalgylchoedd Cymru, gyda dim ond 0-10% o Gyfartaledd Hirdymor (LTA) Gorffennaf (1981-2010). Mae hyn yn dilyn cyfnod o dri mis sychach na'r cyfartaledd rhwng Ebrill a Mehefin 2026 lle'r oedd glawiad cronnus Cymru yn 86% o'r hyn a ddisgwylid ar gyfer yr adeg honno o'r flwyddyn. Er bod rhannau o Gymru wedi derbyn glaw dros y tri mis diwethaf, derbyniodd rhai dalgylchoedd, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lawiad is na'r cyfartaledd.
Mae'r diffyg glawiad, wedi'i waethygu gan y tonnau gwres diweddar, wedi golygu bod y rhan fwyaf o afonydd ledled Cymru bellach yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Mae rhai afonydd yn eithriadol o isel megis Clwyd, Alwen, Alun, Clywedog, Dyfi, Conwy, ac Afon Gwy.
Mae mesurau rheoleiddio afonydd yn weithredol i gefnogi llifoedd gan gynnwys ar afonydd Dyfrdwy, Hafren, Clwyd a Gwy. Mae bron i hanner y llif yn rhan isaf Afon Gwy yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan ollyngiadau o Gronfa Ddŵr Elan, gan dynnu sylw at raddau’r gostyngiad o ran llif naturiol.
Mae tymheredd yr afonydd wedi bod ar neu uwchlaw 20ºC, gan gynnwys afon Gwy ac afon Wysg sydd wedi cyrraedd uchafbwynt o dros 26ºC. Mae lefelau dŵr daear hefyd yn gostwng ledled Cymru, gyda rhai tyllau turio yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Mae priddoedd yn sych ar hyn o bryd neu ymhell islaw capasiti caeau (COSMOS).
Pryderon
Rydym yn pryderu am y pwysau y mae diffyg glawiad sylweddol a thymheredd poeth wedi'i roi, ac y bydd yn parhau i'w roi, ar lefelau dŵr daear, afonydd, lles eogiaid, mudiad pysgod, bywyd gwyllt, tir y mae CNC yn ei reoli a'r amgylchedd naturiol ehangach ledled Cymru.
Rydym yn dechrau gweld/derbyn adroddiadau am welyau afonydd sych fel Dulas a Gallen yng Ngogledd Cymru, pysgod mewn trallod a physgod marw, tanau gwyllt eang a chyfyngiadau llif isel ar drwyddedau tynnu dŵr yn dod i rym.
Mae pryderon hefyd ynghylch safleoedd gwarchodedig fel corsydd, mawndiroedd, rhostiroedd a glaswelltiroedd sy'n gartref i lawer o rywogaethau.
Mae effaith y gwres hefyd yn cael ei theimlo yng nghefn gwlad, gan arwain at gyhoeddi digwyddiad difrifol y penwythnos diwethaf yn dilyn nifer o danau gwyllt dinistriol yng ngogledd Cymru.
Ein hymateb a'n cyngor
Bydd ein timau sychder ledled Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd a byddant nawr yn dilyn y camau gweithredu 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych’ o fewn ein cynllun sychder ar gyfer yr ardaloedd hyn o Gymru. Byddwn hefyd yn adolygu'r sefyllfa yn yr ardaloedd hyn ac mewn rhannau eraill o Gymru (De-orllewin) ac yn adrodd ar unrhyw newid statws yn unol â hynny.
Mae ein timau wedi cynyddu gwaith monitro a gwiriadau mewn lleoliadau pwysig a byddant yn ymateb i ddigwyddiadau ar lawr gwlad yn unol â'n gweithdrefnau. Nid oes angen ymweld â'r safle ar gyfer pob adroddiad. Rydyn ni’n defnyddio tystiolaeth, barn arbenigol a data i benderfynu ar y ffordd orau o ymateb.
Mae cyfyngiadau tynnu dŵr ar waith ledled Cymru yn unol â thrwyddedau. Mae cynlluniau rheoleiddio gan gynnwys afonydd Dyfrdwy a Gwy yn gweithredu yn unol â chytundebau gyda chwmnïau dŵr, CNC a rheoleiddwyr eraill.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd (i drafod dalgylchoedd a rennir), cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill.
Rydym yn cynghori pysgodfeydd a physgotwyr i gymryd gofal arbennig wrth bysgota am eogiaid mewn tymereddau uchel, ac i stopio lle mae tymheredd y dŵr yn cyrraedd 20 gradd celsius.
Rydym yn darparu cefnogaeth i wasanaethau tân ac achub i fynd i'r afael â thanau gwyllt. Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.
Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor a ddarperir ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â thywydd sych.
Lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i www.letssavewater.cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr.
Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000.
Gweler ein cyngor ni a chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â mynd i mewn i ddŵr yr haf hwn.
Rhagolwg
Mae'r rhagolygon yn dangos y bydd y tywydd yn parhau i fod yn sych dros yr wythnos nesaf. Rydym yn arbennig o bryderus am yr amodau yn nalgylchoedd Clwyd, Dyfrdwy a Hafren Uchaf, heb unrhyw law nodedig a pharhaus byddai hyn yn arwain at y dalgylchoedd hyn yn cyrraedd statws sychder yn gyflymach na blynyddoedd blaenorol.
Sut rydym yn diffinio sychder
Er bod gwahanol lefelau, graddfeydd a diffiniadau o sychder, nodweddir pob sychder gan brinder glawiad. Mae pob math o sychder yn wahanol gyda'r natur, yr amseriad a'r effeithiau'n amrywio yn ôl lleoliad a pha sectorau sy'n cael eu heffeithio. Rydym yn diffinio tri math o sychder (a all ddigwydd gyda'i gilydd):
- Sychder amgylcheddol – llifoedd isel a lleithder pridd is yn effeithio ar amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Gall sychder o'r math hwn arwain at effeithiau hirdymor sylweddol os bydd yn parhau dros gyfnod estynedig.
- Sychder amaethyddol – diffyg dŵr ar gael ar gyfer dyfrhau a llai o leithder yn y pridd yn effeithio ar gynnyrch (a / neu ansawdd) cnydau a lles da byw.
- Cyflenwad dŵr – llai o ddŵr ar gael ar gyfer cyflenwad cyhoeddus oherwydd llif afonydd is, llai o ddŵr mewn cronfeydd dŵr neu ddŵr daear is.
Mae gan unrhyw gyfuniad o'r rhain hefyd y potensial i effeithio ar iechyd a lles pobl yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol ac economaidd.
Rhan o'n gwaith ni yw monitro'r sefyllfa hydrolegol ac ecolegol, monitro a rheoleiddio cwmnïau dŵr a chasglu gwybodaeth am effeithiau ehangach tywydd sych. Gan ddefnyddio hyn rydym yn dosbarthu cyfnodau o sychder yn bedwar cam:
- Normal – Dangosyddion o fewn yr ystodau disgwyliedig ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, a all gynnwys cyfnodau byr o lif isel a llai o ddŵr ar gael.
- Cyfnod hir o dywydd sych – Mae dangosyddion yn dangos cyfnodau hir o lif isel mewn afonydd a glawiad isel ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, lefelau lleithder is mewn pridd, mwy o adroddiadau o effeithiau ar ecosystemau, tir, cyflenwadau dŵr neu ar sectorau eraill.
- Sychder – Cyfnod sylweddol o lefelau afonydd isel a phrinder glawiad. Effeithiau sylweddol ar ecosystemau a phwysau ar y sector amaethyddol. Straen uchel ar y system cyflenwi dŵr gyda chyfyngiadau difrifol o bosibl.
- Adferiad ar ôl cyfnod hir o dywydd sych a/neu sychder – Dychwelyd i'r ystodau arferol ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyfnod hir o dywydd sych a/neu'r sychder blaenorol, efallai y bydd difrod amgylcheddol, allbwn amaethyddol llai neu gyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr o hyd.
Mae gan gwmnïau dŵr eu cynlluniau sychder eu hunain sydd ar gael i'r cyhoedd. Gall eu statws sychder amrywio hefyd. Maent fel arfer yn defnyddio'r camau 'normal', 'sychder sy'n datblygu', 'sychder' a 'sychder difrifol' a byddant yn defnyddio eu trothwyon eu hunain i ddiffinio eu safle sy'n aml yn gysylltiedig â'u sefyllfa o ran cyflenwad dŵr. Gweler cynlluniau sychder cwmnïau dŵr am ragor o wybodaeth.
Beth ydym ni’n ei wneud?
Unwaith y bydd cyfnod hir o dywydd sych wedi'i ddatgan, bydd CNC yn cynyddu ei gamau gweithredu i helpu i liniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd, tir, defnyddwyr dŵr a phobl. Mae'r camau gweithredu hyn yn cynnwys:
- Ehangu ei waith monitro a chynyddu nifer y gwiriadau mewn lleoliadau pwysig.
- Sicrhau bod cwmnïau dŵr yn dilyn eu cynlluniau sychder (unwaith y byddant yn cael eu rhoi ar waith) ac yn paratoi ar gyfer unrhyw fesurau ychwanegol yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod cynlluniau rheoleiddio yn gweithredu i gefnogi tynnu dŵr a'r amgylchedd.
- Sicrhau bod tynwyr dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded, y mae llawer ohonynt yn cyfyngu ar faint y gellir ei dynnu yn ystod cyfnodau o lif isel.
- Ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol a chymryd y camau gorfodi priodol yn ôl yr angen.
- Darparu cyngor ac arweiniad megis cyngor ar dywydd sych i ffermwyr
- Ymgysylltu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd (trawsffiniol) a phartneriaid eraill.
Os byddwn yn mynd i gyfnod o sychder, bydd ein camau gweithredu yn cael eu dwysáu eto ac yn cynnwys gweithgareddau fel ymateb i geisiadau am drwyddedau a gorchmynion sychder neu weithredu cyfyngiadau pellach ar ddefnyddwyr dŵr, fel chwistrellwyr dyrfhau.