Helpu afon Dyfrdwy i ffynnu: Sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwahaniaeth

Mae afon Dyfrdwy yn ystumio trwy rai o ardaloedd prydferthaf y Gogledd. Ond mae’n llawer mwy nag ardal â golygfeydd bendigedig. Mae’n ffynhonnell hanfodol o ddŵr yfed, yn gynefin i fywyd gwyllt, ac yn lle i bobl fwynhau’r awyr agored.

Rydym ni, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn gweithio’n galed i sicrhau bod afon Dyfrdwy, Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) gyda thri Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn parhau i lifo yn y ffordd gywir – i bobl, i fywyd gwyllt, ac i’r amgylchedd. Un o’n swyddi pwysicaf yw rheoli rhywbeth o’r enw Cynllun Rheoleiddio Afon Dyfrdwy.

Beth yw Cynllun Rheoleiddio Afon Dyfrdwy?

Mae’r cynllun yn ymwneud â rheoli faint o ddŵr sy’n llifo i lawr yr afon. Cyflawnir hyn drwy storio dŵr mewn tair cronfa ddŵr gyfagos – Llyn Celyn, Llyn Brenig a Llyn Tegid – a’i ryddhau’n ofalus pan fo angen.

Caiff y cynllun ei oruchwylio gan bwyllgor ymgynghori, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Glandŵr Cymru, a phedwar cwmni dŵr.

Mae’r dŵr hwn yn cynnal mwy na 2.5 miliwn o bobl, drwy sicrhau bod digon ar gael ar gyfer y cyflenwad dŵr cyhoeddus. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth leihau’r perygl o lifogydd, yn enwedig ar ôl glaw trwm.

Ac nid dyna’r cyfan. Mae’r llynnoedd ac afonydd hyn yn cefnogi ynni adnewyddadwy, twristiaeth, gweithgareddau hamdden, a’r economi leol – a hynny i gyd wrth gefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd.

Llifddorau’r Bala – adeiledd bach, effaith fawr

Rhan allweddol o’r cynllun rheoleiddio yw llifddorau’r Bala. Mae’r llifddorau hyn yn helpu i reoli faint o ddŵr sy’n cael ei storio yn Llyn Tegid a faint sy’n llifo i lawr yr afon.

Maen nhw’n hanfodol yn ystod cyfnodau sych i wneud yn siŵr bod digon o ddŵr ymhellach i lawr yr afon. Ac yn ystod tywydd gwlyb, gallant ddal llifddwr yn ôl, gan helpu i amddiffyn trefi a phentrefi cyfagos yn ogystal â chymunedau ymhellach i lawr afon Dyfrdwy.

 

Giat llifddor Y Bala.

 

Ond mae’r llifddorau, ynghyd â phatrymau rhyddhau dŵr o gronfa ddŵr Llyn Celyn a sawl cored, hefyd yn effeithio ar sut mae pysgod, fel yr eog, yn symud i fyny ac i lawr yr afon. Dyna pam rydym wedi bod yn edrych yn ofalus ar sut i’w rheoli mewn ffordd sy’n gweithio i bobl a bywyd gwyllt.

Yr eog dan y don

Mae afon Dyfrdwy yn enwog am ei heogiaid. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer yr eogiaid ifanc (a elwir yn leisiaid) ac oedolion wedi gostwng.

Nid yw hyn yn digwydd fan hyn yn unig – mae’n rhan o batrwm ehangach a welir mewn afonydd ledled y DU a thu hwnt. Fodd bynnag, roeddem am ddeall beth oedd yn digwydd yn ein rhan ni o’r byd – a’r hyn y gallem ei wneud yn ei gylch.

Gweithio gyda’n gilydd dros yr afon

Yn ôl yn 2014, fe sefydlom ni Grŵp Llywio Afon Dyfrdwy Uchaf i ymchwilio i’r mater hwn. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys arbenigwyr a phartneriaid Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, Dŵr Cymru, Canŵ Cymru, a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Gyda’n gilydd, rydym wedi bod yn monitro’r afon, yn casglu data, ac yn profi gwahanol ddulliau. Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros hanner miliwn o bunnoedd yn y gwaith hwn – ac nid yw hynny hyd yn oed yn cyfrif amser staff. Mae £1.2 miliwn arall wedi’i wario ar wella cynefinoedd yr eog.

Tagio ac olrhain pysgod

Ers 2015, rydym wedi bod yn tagio eogiaid ifanc, gan olrhain eu taith o is-afonydd rhan uchaf afon Dyfrdwy a thrwy’r llifddorau. Mae hyn yn ein helpu i weld a yw adeileddau fel llifddorau’r Bala neu newidiadau yn llif y dŵr yn effeithio ar eu tebygolrwydd o oroesi.

Swyddogion CNC yn tagio pysgod.
Swyddogion CNC yn tagio pysgod.

 

 

Bellach mae gennym wyth mlynedd o ddata gwerthfawr, sy’n cael ei ddadansoddi gan arbenigwyr. Bydd y canlyniadau’n llywio ein camau nesaf o 2025 ymlaen.

Offer uwch-dechnoleg o dan y dŵr

Er mwyn deall yn well sut mae eogiaid sy’n oedolion yn symud drwy’r afon, rydym wedi defnyddio camerâu sonar tanddwr ger llifddorau’r Bala. Mae’r camerâu arbennig hyn yn gweithio hyd yn oed mewn dŵr cymylog ac yn ystod y nos.

Llun danddwr.

 

Roedd y camerâu wedi dangos i ni, er bod y pysgod yn gallu mynd drwy’r llifddorau, fod rhai yn ei chael yn anodd pan fo llif yr afon yn isel. Fe helpodd hynny ni i lunio ffordd well o reoli’r llifddorau.

Newid sut rydym yn gweithredu’r llifddorau

Roeddem yn arfer agor a chau’r pedair prif lifddor ar y cyd. Ond dangosodd ein hastudiaethau sonar fod hyn wedi creu bylchau cul, a oedd yn ei gwneud yn anoddach i eogiaid nofio drwyddynt.

Nawr, yn ystod llifoedd isel, dim ond dau o’r prif lifddorau rydym yn eu defnyddio. Mae hyn yn golygu bod bylchau mwy i bysgod fynd drwyddynt. Rydym hefyd yn codi’r llifddorau ar gyfer y pysgod allan o’r dŵr yn gyfan gwbl am gymaint o amser â phosibl yn ystod tymor mudo’r gleisiaid er mwyn creu llwybr cliriach iddynt.

Mae’r newidiadau bach hyn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr i eogiaid sy’n mudo, gan bron ddyblu’r tebygolrwydd y bydd eogiaid sy’n oedolion yn dod o hyd i’r loc pysgod yn ystod llifoedd isel.

 

Eog yng Nghat llifddwr Y Bala.

 

Systemau rheoli mwy clyfar

Er mwyn gwneud y gwelliannau hyn yn haws, fe wnaethom ddiweddaru’r system reoli ar gyfer llifddorau’r Bala. Mae bellach yn caniatáu inni weithredu dwy lifddor ar y tro, o bell ac yn fwy manwl gywir. Mae hyn yn arbed amser, yn lleihau costau, ac yn ein helpu i ymateb yn gyflymach i amodau sy’n newid.

Ymaddasu i’r tywydd

Rydym hefyd wedi newid y ffordd rydym yn rhyddhau dŵr o Lyn Tegid. Yn yr haf, rydym yn ceisio ail-greu amodau naturiol yr afon drwy ymateb i ddigwyddiadau glaw bach i fyny’r afon o Lyn Tegid. Os byddwn yn gweld bod yr afon yn codi i fyny’r afon, rydym bellach yn rhyddhau ychydig mwy o ddŵr i lawr yr afon i helpu’r eogiaid ar eu taith.

Yn ystod cyfnodau mwy sych, gallwn hefyd ddefnyddio dŵr sydd wedi’i storio yn Llyn Tegid a Llyn Celyn i roi hwb dros dro i’r afon. Mae hyn yn creu amodau gwell i bysgod yn ystod cyfnodau mudo hollbwysig.

Llifoedd gaeaf ychwanegol

O fis Tachwedd i fis Ebrill, ar ein cais ni, mae Dŵr Cymru yn rhyddhau mwy o ddŵr nag y mae ei angen o Lyn Celyn i amddiffyn wyau eogiaid (a elwir yn gladdau silio) sydd mewn perygl o gael eu peryglu oherwydd y llif artiffisial, ac sy’n cael eu dodwy mewn gwelyau graean i lawr yr afon yn afon Tryweryn. Mae’r dŵr ychwanegol hwn yn helpu i sicrhau bod yr wyau’n parhau i fod wedi’u gorchuddio ag ocsigen, gan wella’r tebygolrwydd y byddant yn goroesi.

Gwella cynefinoedd pysgod

Nid yw’n ymwneud â’r ffordd yr ydym yn rheoli’r dŵr yn unig. Rydym hefyd wedi cefnogi gwelliannau ffisegol i gynefinoedd afonydd. Un enghraifft yw afon Hesgyn, un o is-afonydd afon Tryweryn. Yn y gorffennol, tynnwyd dŵr ohoni dros y gaeaf i helpu i ail-lenwi Llyn Celyn, a oedd yn creu problemau i bysgod i lawr yr afon.

Gan weithio gyda Dŵr Cymru, rydym wedi gwella llwybrau i bysgod, wedi cynyddu’r llif i lawr yr afon, ac wedi newid y system i sicrhau bod dŵr ond yn cael ei dynnu pan fo’n gwbl angenrheidiol.

Beth sydd nesaf?

Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd o ran deall sut i reoli afon Dyfrdwy yn well i bawb sy’n dibynnu arni – o bobl i eogiaid.

Byddwn yn parhau i ddadansoddi’r data rydym wedi’i gasglu dros y degawd diwethaf. A byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr bod asedau CNC, fel llifddorau’r Bala, yn helpu iechyd yr afon, ac nid yn ei niweidio.

Mae afon Dyfrdwy yn adnodd gwerthfawr. Trwy reolaeth ofalus, gwyddoniaeth a phartneriaethau cryf, mae CNC yn gwneud popeth o fewn ei gallu i’w helpu i ffynnu am genedlaethau i ddod.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru