Diogelu pysgodfeydd Cymru yn wyneb newid hinsawdd

Mae pysgodfeydd dŵr croyw a physgodfeydd mudol yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal ecosystemau bywiog, cyfoethogi traddodiadau diwylliannol, a chefnogi economïau lleol. Mae rhywogaethau eiconig fel eogiaid a brithyllod môr yn cyfrannu at fioamrywiaeth ac iechyd afonydd Cymru.

Mae gwreiddiau dwfn gan bysgodfeydd yn niwylliant Cymru. Maent wedi ysbrydoli gweithiau celf, llenyddiaeth a hunaniaeth gymunedol ac maent yn cynnig cyfleoedd hamdden sy’n cysylltu pobl â natur. Yn economaidd, mae iddynt fanteision sylweddol, yn sgil twristiaeth pysgota, busnesau lleol a chyflogaeth yng nghefn gwlad, sy’n eu gwneud yn gonglfaen i stiwardiaeth amgylcheddol a hyfywedd economaidd-gymdeithasol.

Rhywogaethau mewn perygl: Heriau lluosog yn achosi dirywiad ym mhoblogaethau eogiaid, brithyllod môr a llysywod

Mae llawer o bysgodfeydd Cymru yn dirywio. Mae gweld eogiaid yn neidio yn afonydd Cymru yn ddelwedd eiconig, ond yn anffodus heddiw mae eu niferoedd wedi gostwng i’r lefel isaf erioed. Er gwaethaf ymdrechion cadwraeth ar y cyd a bod ‘dal a rhyddhau’ yn ofyniad ar gyfer pob pysgodfa yng Nghymru, mae pob un o’r 23 o brif afonydd eogiaid Cymru bellach islaw’r terfynau cynaliadwy, ac yn dirywio ymhellach.

Ym mis Hydref 2024, fe wnaethom gyhoeddi ein hasesiadau diwethaf o stociau eog, a gofnododd y dalfeydd lleiaf o eogiaid (122 â rhwyd, 812 â gwialen) a brithyllod môr (260 â rhwyd, 3,510 â gwialen) ers dechrau cadw cofnodion cyson yn y 1970au.

Ac mae stori debyg i boblogaethau brithyllod môr a llysywod Cymru, a ystyrid ar un adeg yn fwy cadarn, ond sydd hefyd bellach yn dangos lefelau pryderus o ddirywiad.

Ond mae gobaith o hyd. Mae’n ymddangos bod llawer o boblogaethau pysgod dŵr llonydd ac afonydd yn ffynnu, ac yn cefnogi pysgodfeydd hamdden gweithredol. Mae cymryd rhan mewn pysgota, yn enwedig am frithyllod, canghennau glas a physgod bras, wedi cynyddu ers COVID-19, ac mae mwy o bobl ifanc yn prynu trwyddedau gwialen iau.

Effeithiau hinsawdd sy’n newid

Er bod llawer o bwysau ar ein pysgodfeydd – gan gynnwys llygredd a cholli cynefin – effeithiau newid hinsawdd a chynnydd yn nhymheredd y dŵr yw’r risg fwyaf. Yn aml yn cael eu hystyried yn ddangosydd o ansawdd amgylcheddol da, mae angen dŵr oer, glân a chynefinoedd dŵr croyw a morol iach ar eogiaid a brithyllod môr i ffynnu.

Strategaeth newydd ar gyfer pysgodfeydd sy’n wydn o ran yr hinsawdd

Wrth i ni barhau â’r frwydr i amddiffyn ac adfer ein pysgodfeydd, rydym wedi datblygu strategaeth newydd i ganolbwyntio ein hymdrechion, ein hadnoddau a’n buddsoddiadau hyd at 2031.

Mae’n cynnwys tri amcan strategol lle credwn y gall ein gwaith gael yr effaith fwyaf:

  1. Mae pysgodfeydd Cymru yn wydn i newid hinsawdd – Byddwn yn cynyddu ein dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd ar ein pysgodfeydd ac yn cefnogi ecosystemau dŵr croyw i ddod yn fwy gwydn. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar lygredd, sicrhau llif digonol mewn afonydd yn ystod tymhorau sych, adfer cysgod ar lannau afonydd, a chael gwared ar rwystrau i fudo. Byddwn yn darparu’r offer a’r canllawiau i berchnogion pysgodfeydd preifat i’w cefnogi i greu pysgodfeydd dŵr llonydd ac afonydd sy’n wydn o ran newid hinsawdd.

  2. Mae stociau sy’n dirywio ac sy’n agored i niwed yn cael eu gwarchod a lle bo’n bosibl ar y llwybr i adferiad – Byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar statws stociau eogiaid, brithyllod môr a llysywod i gefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Byddwn yn parhau i weithredu ar bysgota anghyfreithlon, a cheisio ei atal, gyda’n partneriaid, a sicrhau bod rheolaethau rheoleiddiol ar gyfer pysgodfeydd masnachol a hamdden yn cael eu hadolygu, eu hadnewyddu a’u diwygio lle bo angen i amddiffyn stociau. Byddwn yn gweithio gydag eraill i roi stociau dan fygythiad ar lwybr i adferiad.
  1. Mae mwy o bobl yn cysylltu â byd natur drwy bysgota – Byddwn yn sicrhau bod pysgota yn rhoi cyfle hygyrch i bobl gysylltu â byd natur ac yn parhau i ddarparu manteision diwylliannol ac economaidd, yn enwedig i gymunedau gwledig. Byddwn yn parhau i hyrwyddo pysgota yng Nghymru, gan ddefnyddio arian a gynhyrchir o werthu trwyddedau pysgota â gwialen i wella mynediad at bysgodfeydd o ansawdd da, yn enwedig lle mae manteision clir i lesiant cymunedol.

Mae’r strategaeth hefyd yn cynnwys nifer o amcanion trawsbynciol i arwain Cyfoeth Naturiol Cymru wrth i ni gyflawni ein dyletswyddau pysgodfeydd. Mae’r rhain yn cynnwys gwella tryloywder o ran sut mae arian trwyddedau pysgota â gwialen yn cael ei wario, gwella ein cyfathrebu â rhanddeiliaid pysgodfeydd, a chyflawni mwy drwy eraill lle mae sgiliau ychwanegol y tu allan i’r sefydliad.

Bydd ein hymrwymiad i gyflawni’r strategaeth yn cael ei ddangos mewn rhaglen pysgodfeydd pum mlynedd a fydd yn nodi cyfres o amcanion CAMPUS i’w cyflawni rhwng 2026 a 2031.

Llun o euog yn neidio a capsiwn gyda ein gweledigaeth Pysgodfeydd sy’n Wydn o ran Hinsawdd

Adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes mewn gwella pysgodfeydd

Byddwn yn cyflawni ein strategaeth newydd yn dilyn blynyddoedd o ymroddiad gan ein timau a’n prosiectau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i amddiffyn a gwella pysgodfeydd bregus.

Mae ein prosiectau blaenllaw – Prosiect Pedair Afon LIFE, Prosiect Adfer Afon Dyfrdwy LIFE, a Phrosiect Adfer Gwy Uchaf – wedi ymgymryd â gwelliannau helaeth i afonydd a chynefinoedd yn rhai o afonydd mwyaf gwarchodedig Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae eu hymdrechion yn ategu ein gwaith rheoleiddio a monitro dydd i ddydd i adrodd ar ddyfroedd Cymru a’u gwella.

Mae rhagor o fanylion am Bysgodfeydd sy’n Wydn o ran yr Hinsawdd: Strategaeth ar gyfer rheoli pysgod a physgodfeydd mudol a dŵr croyw Cymru yn gynaliadwy, 2026 – 2031 ar gael ar ein gwefan.

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru