Diwrnod Dŵr y Byd 2025: Dathlu blwyddyn o brosiectau i wella iechyd dŵr a bywyd gwyllt Cymru

Mae iechyd ein hafonydd, nentydd, llynnoedd, dyfroedd daear a moroedd o dan fwy o bwysau nag erioed, gan effeithio ar y planhigion a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt, a’r cymunedau sy’n byw o’u cwmpas.
Mewn data interim newydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, mae 40% o gyrff dŵr Cymru yn bodloni safonau ansawdd dŵr. Ymhlith y rhesymau dros fethiannau mae poblogaethau pysgod isel a phresenoldeb cemegau a llygryddion eraill.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld gweithredu ar raddfa fawr gennym ni fel rheoleiddwyr amgylcheddol, y Llywodraeth, diwydiannau a grwpiau cymunedol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau allweddol sy’n wynebu ein dyfroedd – gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, llygredd a bywyd gwyllt sy’n prinhau.
Ariennir ein Rhaglen Gyfalaf Dŵr gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n darparu ymyriadau sy’n helpu i wella iechyd ein hafonydd. Nod prosiectau yw lleihau llygredd, adfer cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a gwella gwytnwch ein dyfroedd yn erbyn bygythiadau newid hinsawdd.
Heddiw (22 Mawrth 2025), rydym yn dathlu Diwrnod Dŵr y Byd drwy edrych yn ôl ar rai o’r prosiectau a gyflawnwyd drwy’r Rhaglen Gyfalaf Dŵr y flwyddyn ariannol hon, a’r manteision sydd ganddynt i fywyd gwyllt a chymunedau.
Adfer prosesau afon naturiol yn Nant Dowlais, Bro Morgannwg
Mae prosiect adfer afon sylweddol wedi trawsnewid 750m o Nant Dowlais, gan wella cynefinoedd ar gyfer eogiaid, llysywod a dyfrgwn.
Yn hanesyddol roedd yr afon wedi'i sythu gan weithgarwch dynol, ond mae ystumiau newydd wedi'u cyflwyno i wella symudiad gwaddodion ac adfer swyddogaethau naturiol yr afon. Bydd hyn yn darparu gwell cynefin i gynnal poblogaethau pysgod a hefyd yn cryfhau cysylltiad yr afon â'i gorlifdir naturiol.
Helpu i ddod â misglod perlog dŵr croyw yn ôl o'r dibyn
Yr hydref diwethaf, rhyddhawyd 120 o fisglod perlog dŵr croyw a fagwyd mewn deorfa i afon yng Ngwynedd i helpu i adfywio'r rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol.
Cyn eu rhyddhau, ailgyflwynwyd dros 1000 tunnell o glogfeini, coblau a graean ffres yn ofalus i’r afon er mwyn cynyddu’r cynefin sydd ei angen er mwyn i’r misglod perlog ffynnu.
Mae cyflwyno’r misglod i amgylchedd afon naturiol yn gam hollbwysig i sicrhau eu bod yn goroesi. Mae monitro hirdymor a safleoedd 'arch' ychwanegol yn cael eu datblygu i ehangu'r ymdrechion cadwraeth hyn.
Creu safle arddangos adfer afon yn afon Penfro
Rydym wedi cyflwyno deunydd coediog mawr i ddarn 200m o afon Penfro er mwyn helpu i annog ystumiau newydd ac ail-ystumio’r afon i adfer ei swyddogaethau ecolegol.
Mae 570m o ffensys wedi’u gosod i gadw da byw allan o’r afon i leihau erydiad pridd a gwella ansawdd dŵr, ac mae dros 600 o goed wedi’u plannu i greu clustogfa rhwng tir fferm cynhyrchiol a’r afon.
Mae'r prosiect, a gyflawnwyd mewn cydweithrediad â'r tirfeddiannwr, yn fodel ar gyfer adfer ardaloedd eraill yn y dyfodol.
Adfer Gorlifdir Uwch Conwy
Mae ein gwaith parhaus yn nalgylch Uwch Conwy yn helpu i leihau perygl llifogydd yn ogystal â rhoi hwb i fyd natur.
Rydym wedi cael gwared ar argloddiau artiffisial ar hyd afon Machno, gan ganiatáu i'r afon ailgysylltu â'i gorlifdir naturiol.
Mae sgrafellau a sianeli hefyd wedi’u cloddio ar y gorlifdir i adfer patrymau llif hanesyddol, gan alluogi rhagor o ddŵr i gael ei storio.
Mae'r ateb hwn sy'n seiliedig ar natur yn arafu llifddyfroedd, gan leihau risgiau i lawr yr afon gan hefyd greu cynefinoedd gwlyptir newydd ar gyfer bywyd gwyllt.
Annog arferion tir cynaliadwy yng nghanol Sir Fynwy
Rydym yn gweithio gyda ffermwyr i roi strategaethau rheoli tir ar waith sy’n gwella iechyd y pridd, yn lleihau erydiad, ac yn gwella ansawdd dŵr yn Afonydd Wysg a Gwy.
Trwy blannu 2,500 o goed, gosod ffensys, ac adfer gwrychoedd, mae'r fenter yn cefnogi bioamrywiaeth a chynaliadwyedd amaethyddol hirdymor.
Ein hymrwymiad hirdymor i wella ansawdd dŵr
Mae’r prosiectau a gyflwynir drwy ein Rhaglen Gyfalaf Dŵr yn cyd-fynd â gwaith beunyddiol ein timau rheoleiddio diwydiannau, megis y sector dŵr, cynnal gwiriadau cydymffurfio yn erbyn rheoliadau amaethyddol ac ymateb i lawer o’r dros 6000 o adroddiadau am lygredd a gawn bob blwyddyn.
Maent yn ategu ein prosiectau blaenllaw ar raddfa fawr megis Pedair Afon LIFE, LIFE Afon Dyfrdwy ac Adfer Dalgylch Gwy Uchaf.
Mae gwella ansawdd dŵr ac iechyd afonydd Cymru yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau CNC.
Dros y flwyddyn ariannol sydd i ddod, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £16m o gyllid i’n Rhaglen Gyfalaf Dŵr ar gyfer prosiectau ychwanegol a fydd yn helpu i frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur.