Hwb gwerth £10 miliwn i brosiectau natur yng Nghymru

Huw Irranca-Davies

Mae tri ar ddeg o brosiectau ar draws Cymru wedi sicrhau mwy na £10 miliwn i warchod natur ar dir a môr.

Mae'r prosiectau, sy'n cynnwys mentrau i warchod y gylfinir, i adfer cynefinoedd coetir ac i ddiogelu rhywogaethau pysgod pwysig ledled Cymru, i gyd wedi elwa ar y Gronfa Rhwydweithiau Natur.

Bydd y cyllid yn helpu hefyd gyda gweithgareddau y bydd cymunedau lleol yn gallu cymryd rhan weithredol ynddynt ac elwa arnynt – megis adeiladu Canolfan Addysg Adfer Natur ar gyfer gwaith gydag ysgolion a hyfforddiant ar gynnal arolygon a monitro ar gyfer gwirfoddolwyr. 

Mae'r £10 miliwn o gyllid Rhwydweithiau Natur wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: 

Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn tystio i'n hymrwymiad i warchod treftadaeth naturiol Cymru. 
Drwy gefnogi'r 13 o brosiectau amrywiol hyn ledled y wlad, rydyn ni nid yn unig yn gwarchod ecosystemau gwerthfawr ond hefyd yn grymuso cymunedau i ddod yn stiwardiaid ar eu hamgylcheddau lleol. 
Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhan hanfodol o'n hymateb i'r argyfwng natur, ac mae'n ein helpu i greu Cymru fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: 

Gan amrywio o adeiladu tyrau ar gyfer ystlumod i ganolfan newydd sgiliau cefn gwlad, mae'r dyfarniadau diweddaraf hyn yn tystio i uchelgais y Gronfa Rhwydweithiau Natur ac i bwysigrwydd cysylltu pobl â'r byd naturiol sydd ar garreg eu drws. 
Mae gwarchod a chryfhau'n treftadaeth naturiol yn flaenoriaeth allweddol inni yn y Gronfa Dreftadaeth. 
Os ydyn ni am fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'n cynefinoedd a'n bywyd gwyllt, mae angen ffordd gynaliadwy a chydweithredol o adfer natur. Felly, rydyn ni'n falch o gael gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu'r Gronfa Rhwydweithiau Natur.

Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Rheoli a Pholisi Adnoddau Naturiol gyda CNC:

Dros oes y fenter Rhwydweithiau Natur, mae wedi bod yn fraint gweld y prosiectau'n dod yn fyw ac yn gwneud eu cyfraniadau pwysig eu hunain i sbarduno newid go iawn — helpu i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, i adfer natur, a chreu cyfleoedd i bobl ailgysylltu â'r byd naturiol ar draws tir a môr. 
Mae'r prosiectau hyn, a'r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y cylch cyllido diweddaraf hwn, yn tystio i'r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio, ac rydyn ni'n falch o fedru eu cefnogi er mwyn sicrhau effaith barhaol ar natur a chymunedau.
Llongyfarchiadau i'r holl brosiectau llwyddiannus.

Wrth i'r cyhoeddiad gael ei wneud, bu'r Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld â Choedwig Ffawydd Caerdydd, y cynefin lled-naturiol mwyaf yng Nghaerdydd – sydd â 500,000 o bobl yn byw o fewn 10km iddo. 

Mae'r coetiroedd yn cynnal rhywogaethau hynafol y coetiroedd megis clychau'r gog, craf y geifr, a blodau'r gwynt, y galdrist finfain, sydd mewn perygl difrifol, a rhywogaethau gwarchodedig eraill fel ystlumod, gwiberod, ac, o bosibl, pathew'r cyll.

Bydd Cyngor Caerdydd yn arwain prosiect 24 mis i wella statws cadwraeth a gwytnwch coetiroedd Gogledd Caerdydd, gan greu coetiroedd iach, gwydn,aml-ddefnydd, a gwella mynediad a mwynhad i'r cyhoedd.

Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn elfen allweddol o'r Rhaglen Rhwydwaith Natur a lansiwyd yn 2021. Mae'n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r nod "30 erbyn 30" yn y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang, sydd am ddiogelu 30% o dir, dŵr croyw a moroedd y blaned erbyn 2030.