Bydd gwaith adfer yn afon Wysg yn helpu pysgod prin a gwarchodedig

Llwybr gleisiaid cored Aberhonddu wedi’i gwblhau

Mae’r gwaith bellach wedi’i gwblhau i wella llwybr eogiaid mudol yng nghored Aberhonddu ar afon Wysg.

Gosodwyd llwybr bysgod newydd yr haf hwn fel rhan o brosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r llwybr bysgod hon wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer gleisiaid (eogiaid ifanc) wrth iddynt fudo i lawr yr afon allan i’r môr. Mae llwybr bysgod Larinier eisoes yn bodoli ar ochr bellaf y gored ar gyfer eogiaid llawndwf sy’n mudo i fyny’r afon.

Bydd y llwybr newydd yn helpu eogiaid ifanc a rhywogaethau pysgod eraill i symud yn rhydd i lawr yr afon.

Amlygwyd cored Aberhonddu yn flaenorol fel rhwystr sylweddol i gleisiaid eogiaid sy’n mudo i lawr yr afon ar eu taith i’r môr.

Roedd gwaith olrhain pysgod wedi dangos y gallai cyfran fawr o’r gleisiaid gael eu dal wrth y gored am gyfnodau sylweddol yn ystod cyfnodau sych y gwanwyn, gan eu gwneud yn fwy agored i glefydau ac ysglyfaethu.

Cwblhaodd y contractwr lleol Midwest Plant Cyf y gwaith a oedd yn cynnwys gosod y llwybr bysgod newydd yn ogystal â ffens newydd ar y safle.

Hwyluswyd y gwaith hefyd gan Glandŵr Cymru sy’n berchen ar strwythur y gored, a Chyngor Sir Powys.

Dywedodd Susie Kinghan o brosiect Pedair Afon LIFE: “Bydd y gwaith hwn yn gwella amodau’n sylweddol ar gyfer poblogaethau pysgod sy’n prinhau, gan gynnwys eogiaid Iwerydd sydd mewn perygl, a gobeithio y bydd yn gam tuag at adfer y rhywogaeth.”
“Bydd gwaith olrhain pysgod ar afon Wysg yn parhau, a fydd yn ein helpu i fonitro llwyddiant y cynllun. Gobeithiwn weld gwelliannau’r gwanwyn nesaf, pan fyddwn yn gobeithio gweld newid yn ymddygiad y pysgod, ac na fydd yr eogiaid ifanc yn cael eu dal yn y gored mwyach.”

Mae prosiect Pedair Afon LIFE wedi’i ariannu gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.