Rhybuddio am efwr enfawr gyda chynnydd yn y niferoedd wedi’u gweld ar hyd Afon Wysg

Efwr enfawr ar Afon Wysg – ffynhonnell: Bannau Brycheiniog.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â Bannau Brycheiniog yn atgoffa’r cyhoedd am beryglon efwr enfawr.

Mae efwr enfawr yn blanhigyn estron a goresgynnol sy’n wenwynig iawn ac sy’n peri risg ddifrifol i groen pobl ac anifeiliaid.

Cafwyd adroddiadau yn ddiweddar bod efwr enfawr wedi’i weld ar hyd Afon Wysg ger Glangrwyne, a safleoedd eraill gan gynnwys Llangatwg, Gilwern a Gofilon.

Gofynnwn i’r cyhoedd beidio â chyffwrdd ag unrhyw ran o’r planhigyn os ydynt yn ei weld ac i roi gwybod am unrhyw achosion o’r planhigyn a welant i’w Canolfan Cofnodion Biolegol leol neu drwy ddefnyddio Ap LERC Cymru.

Mae efwr enfawr yn blanhigyn goresgynnol sy’n gallu achosi niwed, ac sy’n gallu tyfu i hyd at 5 metr o daldra. Mae i’w gael ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, yn bennaf ger glannau afonydd yr iseldir, mewn porfeydd garw ac ar dir diffaith.

Rhaid osgoi cysylltiad â’r planhigyn gan fod ei hylif yn ffototocsig ac yn llosgi croen pobl ac anifeiliaid yn ddifrifol o dan olau’r haul, problem a all barhau am flynyddoedd lawer.

Cyflwynwyd efwr enfawr i’r DU yn y 19eg ganrif o Fynyddoedd y Cawcasws a Chanolbarth Asia fel planhigyn addurnol. Mae’n hynod oresgynnol, yn ymledu drwy ddosbarthu ei hadau, ac mae’n gyffredin ar draws llawer o’r DU.

Mae’n hawdd drysu rhwng efwr enfawr ac efwr cyffredin, gorthyfail, neu flodau ysgaw. Gellir ei adnabod, fodd bynnag, am ei faint trawiadol, ei goesynnau trwchus cau â’u smotiau porffor, a’i ddail enfawr danheddog. 

Dywedodd Beverley Lewis o Fannau Brycheiniog:

“Oherwydd ei beryglon a’i risg bosibl i bobl ac anifeiliaid, bydd PCBB yn gweithio gyda thirfeddianwyr i gofnodi’r planhigion a rhoi cyngor ar ddulliau effeithiol i’w rheoli.”

Dywedodd Susie Kinghan o brosiect Pedair Afon LIFE:

“Wrth i ni symud i mewn i’r tymor tyfu a misoedd yr haf, mae’n bwysig bod y cyhoedd yn hynod ofalus o amgylch efwr enfawr. Ble mae’n tyfu, mae efwr enfawr yn llethu blodau brodorol ac yn lleihau’r amrywiaeth o rywogaethau.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Bannau Brycheiniog a gwirfoddolwyr i reoli rhywogaethau goresgynnol o blanhigion ar lannau Afon Wysg dros y pedair blynedd diwethaf, a chyda Sefydliad Gwy ac Wysg i reoli efwr enfawr.

Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru