Bydd pont newydd yn helpu nant yn Sir Gaerfyrddin i lifo'n rhydd
Mae Afon Glir yn Sir Gaerfyrddin yn llifo'n fwy naturiol unwaith eto ar ôl gosod pont newydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Gan weithio mewn partneriaeth, mae Prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru a'r tîm yn yr Ardd Fotaneg wedi tynnu’r groesfan cwlfert bresennol, ac wedi gosod pont rhychwant clir newydd, gan helpu i wella gweithrediad naturiol a chysylltedd ecolegol y nant.
Mae Afon Glir yn llifo drwy’r tirweddau a gafodd eu hadfer yn yr Ardd Fotaneg, ac ymlaen i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Tywi.
Roedd y cwlfert blaenorol wedi symud yn uwch na lefel gwely'r nant dros amser, gan effeithio ar barhad sianel yr afon a chreu amodau a oedd yn gofyn am reoli'r glannau a'r groesfan gyfagos yn barhaus.
Mae'r bont rhychwant clir newydd yn cael gwared ar y cyfyngiad hwn ac yn caniatáu i sianel y nant a'r gwely weithredu'n fwy naturiol o dan y groesfan. Mae hefyd yn darparu llwybr mynediad cryfach a mwy diogel i dda byw ac ymwelwyr sy'n defnyddio'r safle.
Yn bwysig, mae cael gwared ar y cwlfert yn gwella cysylltedd ar hyd y nant, gan ganiatáu mynediad haws i bysgod bach ac infertebratau i gynefinoedd ymhellach i fyny'r afon. Gall gwella cysylltedd fel hyn roi arwynebedd mwy o gynefin addas i rywogaethau, lle gallant fwydo, cysgodi ac atgenhedlu.
Dywedodd Ieu Davies, Rheolwr Fferm a Gwarchodfa Natur Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:
“Roedd y groesfan flaenorol yn gofyn am reolaeth barhaus ac roedd yn cyfyngu ar barhad naturiol y nant. Mae gosod phont rhychwant clir yn lle’r groesfan yn rhoi mwy o le i'r sianel weithredu'n naturiol, gan wella cysylltedd ar gyfer bywyd gwyllt dyfrol a darparu croesfan gadarn ac ymarferol i ni ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Chris Thomas o Brosiect Pedair Afon LIFE:
“Mae adfer cynefinoedd afon wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Mae gosod phont rhychwant clir yn lle’r cwlfert yn gwella gweithrediad naturiol a chysylltedd y llednant bwysig hon yn ACA Afon Tywi, a dylai helpu i leihau'r pwysau ar lannau'r nant a helpu i symud gwaddod i lawr yr afon.”
Wedi'i ddylunio mewn ffordd sy’n tarfu cyn lleied â phosibl, cafodd y bont ei rhagffurfio oddi ar y safle a'i gosod mewn dim ond pum diwrnod gan y contractwr Spencer Quantum.
Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.