Gwelliannau i lwybrau pysgod wedi’u cwblhau ar Afon Teifi
Yn ddiweddar, mae prosiect Pedair Afon LIFE gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwneud gwelliannau i lwybrau pysgod ar Afon Siedi, llednant bwysig ar gyfer silio yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi.
Roedd cored, wedi’i lleoli 1.5km i fyny’r afon o ble mae Afon Siedi yn ymuno ag afon Teifi, yn cyfyngu’n ddifrifol ar allu pysgod i fudo i’r dalgylch cyfan i fyny’r afon.
Adeiladwyd y gored ddechrau’r 1900au i ddarparu ynni i Felin Derw, ond mae cafn y felin bellach yn segur ac nid oes defnydd i’r gored mwyach.
Roedd y strwythur tua 2.5 metr o uchder ac yn cynnwys chwe silff neu ris concrit yn amrywio rhwng 40cm ac 80cm o uchder yr un.
Roedd y neidiau fertigol yn gwneud y strwythur yn rhwystr sylweddol i eogiaid a brithyll, ac yn rhwystr llwyr i bysgod sy’n nofio’n wannach fel llysywod a llysywod pendoll.
Cyflogwyd contractwr sy’n arbenigo mewn ysgolion pysgod i ddylunio ac adeiladu ‘ramp gerrig’, a gweithiodd tîm y prosiect yn agos gyda Heneb (Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru) i sicrhau na fyddai’r gwaith yn effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol.
Roedd y gwaith yn cynnwys nifer o ‘faredau blaen’ (grisiau) i godi lefelau’r dŵr i lawr yr afon, ynghyd â chreigiau llenwi liniaru’r grisiau a chreu ramp â llethr graddol.
Dywedodd Arweinydd Tîm Prosiect Pedair Afon LIFE, Susie Kinghan: “Gydag unrhyw rwystr mewn afon, y dewis cyntaf yw cael gwared arno’n llwyr er mwyn adfer prosesau naturiol, ond nid yw hyn bob amser yn bosib oherwydd cyfyngiadau’r tir o’i amgylch.”
“Dangosodd arolygon pysgod a wnaed cyn y gwaith fod eogiaid yn gyffredin i lawr yr afon o’r gored ond yn eithriadol o brin i fyny’r afon. Roedd rhywogaethau fel llysywod a llysywod pendoll yn gwbl absennol o’r rhannau i fyny’r afon”.
“Gobeithir y bydd y gwelliannau’n caniatáu i bysgod gyrraedd graean silio o safon uchel ar draws dalgylch Afon Siedi ac yn arwain at gynnydd yn y poblogaethau o bysgod yn y blynyddoedd i ddod”.
Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.