Gwaith plannu coed yn helpu i wella cyflwr ein hafonydd

Plannu coed yn Fferm Ty Mawr, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Bannau Brycheiniog.

Mae dros 24,000 o goed wedi’u plannu ar hyd glannau pedair afon yn ne Cymru i helpu lleihau llygredd maethynnau, gwella ansawdd y dŵr a helpu i warchod natur.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn brysur y tymor hwn yn plannu coed ar afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg.

Mewn partneriaeth â sefydliadau fel Coed Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, cynghorau sir a chontractwyr, mae cyfanswm o 24,160 o goed brodorol wedi’u plannu wedi'u plannu gyda'r nod o leihau llygredd maethynnau, gwella ansawdd dŵr a helpu i warchod natur.

Mae’r coed yn gymysgedd o helyg, aethnenni, derw, gwern a rhywogaethau brodorol eraill, a darparwyd y cyfan gan Coed Cadw sy’n bartner yn y prosiect LIFE ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu 50,000 o goed dros oes y prosiect.

Bydd y coed yn amsugno gormodedd o faethynnau o ddŵr ffo tir amaethyddol, gwella ansawdd dŵr i lawr yr afon a darparu cynefin i fywyd gwyllt.

Mae’r coridorau o goed, sy’n 10 metr o led ar gyfartaledd, yn gweithredu fel lleiniau clustogi rhwng tir fferm a’r afon ac maent wedi’u plannu ar dir sydd wedi’i ffensio i greu lleiniau torlannol. 

Dywedodd Robert Thomas, Swyddog Rheoli Tir Pedair Afon LIFE: “Wrth i’r coed aeddfedu, byddant yn gweithredu fel ffilter pwysig, gan leihau’r gormodedd o faethynnau sy’n cyrraedd yr afonydd a helpu i wella cyflwr cyffredinol yr afonydd arbennig hyn.”

Yn ogystal â darparu buddion i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) afonol, ymhen amser, wrth i’r coed aeddfedu a thyfu, byddant yn sefydlogi glannau’r afon, yn lleihau erydiad a cholli pridd i’r afon, yn darparu cysgod i dda byw, ac yn cysgodi’r afon, gan gadw’r dŵr yn oer i bysgod.

Dywedodd Simon Rose, Ceidwad Prosiect Coetir yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rydym wedi bod yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â thîm Pedair Afon LIFE CNC a Coed Cadw ar Fferm Ty Mawr. Mae’r ymdrech gydweithredol hon yn enghreifftio’r union amcanion rydym yn ceisio eu cyflawni trwy ymgysylltu parhaus â grwpiau gwirfoddol a chorfforaethol, myfyrwyr o Goleg y Mynyddoedd Duon, a staff o sefydliadau tebyg ar ddiwrnodau adeiladu tîm.” 
“Gyda’n gilydd, rydym yn plannu coed a gwrychoedd a fydd yn darparu ffynonellau bwyd hanfodol ac yn creu coetiroedd cysylltiedig, gan feithrin twf bywyd gwyllt a ffyniant cynefinoedd.”

Mae afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg yn cael eu dosbarthu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sy’n golygu eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer y bywyd gwyllt a’r planhigion sy’n eu gwneud yn gartref, fel eogiaid, llysywod pendwll, gwangod/herlod, dyfrgwn a chrafanc y dŵr.

Ariennir y prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.