CNC a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cydweithio i adfer a gwarchod Afon Wysg

Pren a gyflwynwyd i Afon Tarell ar safle Fferm Tŷ Mawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae cynllun adfer cynefin afon wedi’i gwblhau ar Afon Wysg i ailnaturioli’r afon a’i hailgysylltu â’i gorlifdir naturiol.

Roedd y cynllun yn canolbwyntio ar ran o Afon Tarell, syn llednant bwysig i Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Wysg, a’r nod oedd adfer prosesau naturiol yr afon drwy ailgyflwyno pren i sianel yr afon.  

Dan arweiniad Prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghyd â’r Ganolfan Adfer Afonydd, mae’r cynllun yn rhan o brosiect ehangach i adfer byd natur gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar eu safle. 

Mae cyfran helaeth o ran uchaf dalgylch Afon Tarell yn llifo dros dir sydd dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar eu safle Fferm Tŷ Mawr ym Mannau Brycheiniog. 

Roedd y gwaith yn cynnwys winsio 40 o goed i mewn i ran 600 metr o sianel yr afon i greu 14 o strwythurau pren mawr. Lleolwyd y rhain yn strategol er mwyn annog gorlifdiroedd i ailgysylltu ac i wella cynefinoedd, yn ogystal â sicrhau y gall pysgod mudol basio.

Gwthiwyd y coed i mewn i lan yr afon i leihau’r perygl y cânt eu dadleoli pan fo llif mawr yn yr afon. Roedd clefyd coed ynn wedi effeithio ar nifer sylweddol o goed yn yr ardal, felly’r rhain oedd y coed cyntaf i gael eu defnyddio yn y cynllun.

Mae deunydd pren mawr yn chwarae nifer o rolau swyddogaethol pwysig mewn ecosystemau afonol, a bellach mae cydnabyddiaeth gynyddol ei fod yn un o gydrannau sylfaenol system afon iach, ochr yn ochr â chyflenwad dŵr a gwaddod. 

Meddai Peter Jones, Swyddog Adfer Afonydd Prosiect Pedair Afon LIFE: “Eisoes wedi dim ond chwe mis, rydyn ni’n dechrau gweld y manteision, gydag ardaloedd newydd o raean yn ffurfio a’r amodau’n gwella i eogiaid ar gyfer silio.”
“Hefyd, yn ystod Stormydd Bert a Darragh, llifodd yr afon dros ei gorlifdir naturiol, sef yn union yr hyn yr oeddem wedi gobeithio y byddai’n ei wneud. Roedd hyn yn golygu y cafodd cryn dipyn o ddŵr ei ddal yn ôl yn hytrach na llifo i lawr yr afon mewn digwyddiad tywydd mawr.” 
Dywedodd Alan Kearsley-Evans o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Mae’r prosiect hwn i adfer cynefin afon yn enghraifft ardderchog o sut gall gwaith adfer cymharol ysgafn sbarduno prosesau naturiol a hybu adferiad ecosystemau.” 
“Mae ecosystemau sy’n gweithredu’n naturiol yn llawer mwy cadarn a gwydn yn wyneb pwysau amgylcheddol yn y dyfodol. Ym mis Mawrth eleni, cynhaliwyd cynllun plannu coed i gefnogi’r gwaith ac annog adferiad coetiroedd ar draws ystâd Fferm Tŷ Mawr.”

Un broblem gyffredin gyda chynefinoedd afonol yn y Deyrnas Unedig yw eu bod wedi’u haddasu i leihau eu deinameg naturiol. 

Dylai afonydd sy’n gweithredu’n naturiol lifo dros eu gorlifdiroedd yn rheolaidd, gan gynyddu cynefinoedd gwlyptir yn lleol a lleihau perygl llifogydd cyffredinol i lawr yr afon. Yn eu cyflwr naturiol, byddent hefyd wedi cwympo coed ar draws ac o fewn sianel yr afon, gan helpu’r afon i ddod o hyd i lwybrau llif newydd a chan gynyddu’r amrywiaeth o ran cynefinoedd a gwella’r afon ar gyfer bywyd gwyllt. 

Mae coed mewn afon yn helpu i symud graean ac yn creu cynefin silio i amrywiaeth eang o bysgod. Mae pren hefyd yn rhoi cysgod ac yn cadw afonydd yn oer yn yr haf, gan leihau rhai o effeithiau niweidiol newid hinsawdd. Gall hefyd arafu llif y dŵr, sy’n golygu bod llifogydd, yn eu hanterth, yn llai difrifol nag y byddent fel arall. 

Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.