Diwrnod Mudo Pysgod y Byd 2026: ymunwch â ni mewn digwyddiadau ledled Cymru
Ar Ddiwrnod Mudo Pysgod y Byd eleni, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd pobl i amrywiaeth o ddigwyddiadau lle gallant archwilio bywydau pysgod mudol, datgelu eu teithiau rhyfeddol a darganfod sut rydym yn gweithio i ddiogelu'r rhywogaethau hyn yn afonydd Cymru.
Ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth a dathlu pysgod mudol yw Diwrnod Mudo Pysgod y Byd (Dydd Sadwrn 23 Mai). Mae'n tynnu sylw at eu pwysigrwydd ecolegol ac yn galw am fesurau cryfach i ddiogelu’r afonydd, y nentydd a’r cynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt i gwblhau eu cylchoedd bywyd.
Mae’r eog yn un o deithwyr mwyaf rhyfeddol byd natur. Ar hyd ei oes, gall deithio bron i 4,000 o filltiroedd, gan basio drwy ddŵr croyw a heli gan ddibynnu ar afonydd iach a chysylltiedig.
Ledled Cymru, mae nifer yr eogiaid a ddelir gan bysgotwyr wedi gostwng i lefelau is nag erioed o’r blaen, ac mae’r boblogaeth bellach yn ei chael hi’n anodd, ac mewn perygl o ddiflannu’n llwyr o rai afonydd yng Nghymru.
Mae pysgod yn hanfodol er mwyn sicrhau iechyd ecosystemau a chynhaliaeth ddynol. Fodd bynnag, mae eu poblogaethau'n dirywio'n gyflym gan eu bod dan bwysau mawr, e.e. yn sgil colli cynefinoedd, rhwystrau, llygredd a newid hinsawdd.
Mae afonydd sy'n llifo'n rhydd yn hanfodol ar gyfer bioamrywiaeth, y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd a llesiant pobl. Drwy gael gwared â rhwystrau fel coredau a ffosydd, gallwn ailagor llwybrau mudo a rhoi cyfle i ecosystemau pysgod ac afonydd wella.
O deithiau cerdded tywysedig i archwilio pyllau a chic-samplu dŵr, rydym yn annog pobl i ddod i ddigwyddiadau a gynhelir ar hyd Afonydd Dyfrdwy, Gwy ac Wysg i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt arbennig y mae’r afonydd hyn yn gartref iddynt.
Cynhelir digwyddiadau yn y lleoliadau canlynol:
· Afon Dyfrdwy (wedi'i drefnu gan Bysgodfeydd CNC a LIFE Afon Dyfrdwy) – trap pysgod Caer ddydd Sadwrn 23 Mai o 11am – 2pm. Diwrnod Agored Trap Monitro Pysgod Caer – Diwrnod Mudo Pysgod y Byd
· Afon Wysg (wedi'i drefnu gan Brosiect Pedair Afon LIFE) – Promenâd Cored Aberhonddu ddydd Sadwrn 23 Mai o 11am-3pm.
· Afon Gwy (wedi'i drefnu gan Brosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed a Sefydliad Gwy ac Wysg) – Gwarchodfa Natur Gilfach ddydd Iau 28 Mai o 10am - 2pm. Rhagor o wybodaeth drwy'r ddolen hon.
Yn ôl Nick Thomas Rheolwr Prosiectau Strategol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydyn ni’n gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth ynghylch teithiau epig blynyddol y pysgod yn ein hafonydd, ac yn dangos bod angen inni gydweithio i adfer cysylltiadau rhwng afonydd a diogelu’r rhywogaethau hyn, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.”
Mae afonydd Dyfrdwy, Teifi, Tywi, Cleddau, Wysg ac Wy wedi’u diffinio fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sy'n golygu eu bod o bwys rhyngwladol sylweddol o ran y bywyd gwyllt a'r planhigion y maent yn gartref iddynt, er enghraifft eogiaid, llysywod pendoll, gwangod a herlod, dyfrgwn a chrafanc-y-frân yr afon.
Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy a phrosiect Pedair Afon LIFE wedi’u hariannu gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, tra bod Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf wedi’i ariannu'n llwyr o Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, sy’n rhan o’r Rhaglen Gyfalaf Dŵr.
Rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Mudo Pysgod y Byd – Cysylltu pysgod, afonydd a phobl