Camau i ddiogelu cyflenwadau dŵr ar afon Hafren yn ystod sychder
Wrth i'r tonnau gwres a'r sychder barhau i roi straen difrifol ar afonydd Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am Orchymyn Sychder ar afon Hafren.
Os caiff ei ganiatáu, byddai'r Gorchymyn yn lleihau'r swm lleiaf o ddŵr sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith yn afon Hafren, sy'n cael ei rheoleiddio drwy gydol y flwyddyn gan ollyngiadau o gronfeydd dŵr Llyn Clywedog a Llyn Efyrnwy, yn ogystal â ffynonellau dŵr daear.
Byddai hefyd yn cymhwyso gostyngiad cychwynnol o 5% i faint o ddŵr y gellir ei dynnu gan y cwmni dŵr lleol Hafren Dyfrdwy.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr hefyd wedi gwneud cais am Orchymyn Sychder cysylltiedig ar gyfer afon Hafren yn Lloegr.
Dyma'r tro cyntaf i Orchymyn Sychder gael ei wneud ar afon Hafren ers 37 mlynedd (1989) – sy’n amlygu difrifoldeb y sefyllfa a achoswyd gan y sychder yr haf hwn.
Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau o CNC:
“Wedi’r gyfres o donnau gwres dwys a thywydd sych eithriadol, mae’r effaith niweidiol ar yr amgylchedd yn glir i bawb ei gweld.
“Y gorchymyn sychder hwn fydd y diweddaraf o nifer o fesurau y bu’n rhaid i ni eu cymryd i sicrhau bod ein hafonydd yn aros mor iach â phosibl ac yn parhau i gefnogi’r ecosystemau sy’n dibynnu arnynt.
“Ar adegau fel hyn mae dŵr yn adnodd gwerthfawr. Mae pob diferyn rydyn ni'n ei wastraffu yn llai o ddŵr i'n hafonydd a'n bywyd gwyllt pan maen nhw ei angen fwyaf. Rydym yn annog pobl i ddilyn cyngor cwmnïau dŵr a darganfod beth allant ei wneud i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon i helpu i ddiogelu lefelau’r cyflenwad ar gyfer pobl a byd natur.”
Mae lefelau storio cronfeydd dŵr sy'n bwydo afon Hafren yn gostwng yn gyflym. Nod y Gorchmynion Sychder a gynigir gan y rheoleiddwyr yw ymestyn y dŵr sydd ar gael dros gyfnod hirach.
Byddai hyn yn osgoi disbyddu cronfeydd dŵr yn llwyr, gydag unrhyw newidiadau sydyn o ran llif yn achosi niwed parhaol i'r ecoleg a physgod mudol yn afon Hafren.
Byddai'r gorchmynion ar waith am hyd at chwe mis, a dylai lefelau'r amgylchedd a'r cronfeydd dŵr adfer unwaith y bydd glawiad arferol yn dychwelyd.
Mae Cymru gyfan yn parhau i fod mewn cyfnod o sychder yn dilyn y mis Gorffennaf sychaf ers dechrau’r cofnodion 190 mlynedd yn ôl.
Erbyn 16 Awst, dim ond 7% o'r glawiad disgwyliedig yr oedd Cymru wedi’i gael, gyda rhai lefelau afonydd a dŵr daear bellach yn cyrraedd isafbwyntiau hanesyddol.
Mae CNC yn disgwyl i gwmnïau dŵr ddilyn eu cynlluniau sychder a defnyddio Gwaharddiadau Defnydd Dros Dro mewn modd amserol i amddiffyn cyflenwadau i bobl a'r amgylchedd.
Mae timau'n parhau i ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol sy'n ymwneud â'r tywydd sych gan gynnwys gwelyau afonydd sych, pysgod mewn trallod, gordyfiant algâu a nifer o danau gwyllt sylweddol sydd wedi dinistrio tirweddau.
Mae swyddogion hefyd yn cynnal gwiriadau cydymffurfio i sicrhau nad yw'r rhai sydd â thrwyddedau tynnu dŵr yn mynd y tu hwnt i'r terfynau gofynnol.
Anogir pobl i barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth er mwyn helpu i gadw'r amgylchedd yn iach. Mae gwybodaeth a chyngor ynghylch sut i arbed dŵr ar gael gan Dewch i Arbed Dŵr – ymgyrch a gefnogir gan reoleiddwyr a chwmnïau dŵr.
Gweler y cais Gorchymyn Sychder ar gyfer Afon Hafren yn llawn.