Atlantic Recycling Ltd yn cael dirwy am dorri trwydded diogelwch tân gwastraff
Mae Atlantic Recycling Ltd wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd, gan gael dirwy o £40,000 am dorri amod o’i drwydded amgylcheddol ar gyfer ei safle gwastraff yng Nghaerdydd.
Gosodwyd y gosb ar 6 Ionawr 2026 yn dilyn y cwmni’n pledio'n euog i drosedd o fethu â chydymffurfio ag amod ei drwydded o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 ynghylch gofynion diogelwch tân.
Roedd y drosedd yn cynyddu perygl tân ar y safle, sy’n storio Tanwydd sy’n Deillio o Wastraff sy’n hynod losgadwy. Bu tanau difrifol ar y safle yn 2014 a 2015.
Cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr erlyniad ar ôl i arolygiadau ddatgelu methiant y cwmni i reoli gweithrediadau yn unol â’i Gynllun Atal a Lliniaru Tân ei hun.
Roedd y drosedd yn cwmpasu:
- Pellter gwahanu rhwng pentyrrau gwastraff yn llai na’r 12 metr gofynnol
- Uchder y pentyrrau gwastraff yn fwy na’r terfyn o 4 metr
- Methiant i ddarparu ardal gwarantîn digon mawr i ddal 50% o’r pentwr gwastraff mwyaf
Parhaodd y cwmni i dderbyn gwastraff ychwanegol ym mis Gorffennaf 2019 er gwaethaf iddo gytuno â CNC i stopio, a methodd â chynnal yr ardal gwarantîn ofynnol i reoli’r perygl tân.
Ystyriwyd y troseddau’n fwy difrifol yn sgil euogfarnau blaenorol, hanes o ddiffyg cydymffurfio, a lleoliad y safle ger ardaloedd amgylcheddol sensitif a chymunedau preswyl.
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu ar 6 Ionawr 2025, rhoddodd y llys y cosbau canlynol ar y cwmni:
- Dirwy: £40,000
- Costau i CNC: £28,000
- Gordal dioddefwr: i’w benderfynu
Mae lefel y ddirwy am droseddau amgylcheddol yn cael ei phennu gan y llysoedd ac yn seiliedig ar lefel y niwed, beiusrwydd, a modd ariannol y diffynyddion.
Dywedodd y barnwr dedfrydu, Ei Hanrhydedd y Barnwr Celia Hughes:
“Ar ôl cryn amser llys yn adolygu’r dystiolaeth yn yr achos hwn, rwy’n teimlo rhyddhad y gallaf ddedfrydu’r cwmni hwn am ddim ond tri achos o dorri ei drwydded amgylcheddol, yn hytrach nag am drosedd lawer mwy dybryd.
“Roedd perygl i’r cwmni achosi canlyniadau amgylcheddol difrifol trwy dorri corneli, drwy anwybyddu ei Gynllun Atal a Lliniaru Tân ei hun a’r gofynion a wnaed gan CNC, hyd yn oed ar ôl cael ei rybuddio am ei ymddygiad.
“Mae’n ffodus na arweiniodd y drosedd at unrhyw beth mwy difrifol, ac rwy wedi cael gwybod bod y cwmni bellach wedi cymryd mwy o gamau i gydymffurfio â’i gyfrifoldeb aruthrol i redeg busnes diogel ac amgylcheddol sensitif ar dir Cymru.”
Dywedodd Regina Simmons, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant CNC:
“Mae’r achos hwn yn anfon neges glir y byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn cwmnïau sy’n methu â chydymffurfio â thrwyddedau amgylcheddol.
“Mae’r rheolau hyn yn bodoli i ddiogelu pobl, eiddo a’r amgylchedd rhag peryglon difrifol fel tân. Rhaid i weithredwyr gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif a rheoli gwastraff yn ddiogel ac yn gyfreithlon.”
Gellir rhoi gwybod am droseddau gwastraff posib i CNC 24/7 drwy ffurflen ar-lein neu drwy ffonio ei linell ddigwyddiadau ar 0300 65 3000.
DIWEDD