Hwb i wiwerod coch Gogledd Cymru wrth i brosiect adfer barhau
Mae gwiwerod coch a beleod gogledd Cymru wedi cael hwb ar ôl i brosiect cadwraeth mawr gael ei estyn.
Mae Mamaliaid Hudolus, partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog (YGCC) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn helpu i gynyddu nifer y gwiwerod coch yng Nghoedwig Clocaenog. Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi cadwraeth gwiwerod coch yng ngogledd Gwynedd ac Ynys Môn, yn ogystal â chasglu manylion genetig beleod mewn coetiroedd yng Ngwynedd i ddeall statws y rhywogaeth yn well.
Bydd yr estyniad yn galluogi partneriaid i adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud a bydd yn canolbwyntio ar ddadansoddi geneteg beleod yng ngogledd Cymru, hyfforddi gwirfoddolwyr i ddefnyddio camerâu monitro gwiwerod ac ymgymryd â rheoli gwiwerod llwyd.
Mae niferoedd gwiwerod coch wedi dirywio'n ddramatig ledled Cymru dros y degawdau diwethaf, yn bennaf oherwydd cystadleuaeth gan wiwerod llwyd anfrodorol ac effeithiau firws brech y wiwer. Heddiw, mae gogledd Cymru yn parhau i fod yn un o gadarnleoedd pwysicaf y rhywogaeth.
Fel rhan o'r prosiect, mae gwiwerod coch wedi'u magu mewn caethiwed wedi'u rhyddhau i Goedwig Clocaenog i atgyfnerthu'r poblogaethau presennol, tra bod beleod wedi'u hailgyflwyno i safleoedd coetir a ddewiswyd yn ofalus yng ngogledd-orllewin Cymru.
Mae cynnwys y gymuned wedi bod yn ganolog i lwyddiant y prosiect. Mae gwirfoddolwyr wedi helpu i adeiladu ardaloedd caeëdig ar y safle cyn neu rhyddhau, adeiladu a gosod blychau nythu, darparu gwaith monitro bwydo a chymorth, gan helpu i roi'r cyfle gorau posibl i'r ddwy rywogaeth sefydlu poblogaethau hunangynhaliol.
Mae gweithdai a gweithgareddau gwirfoddoli hefyd wedi galluogi pobl leol i ddatblygu sgiliau cadwraeth ymarferol, cysylltu â natur a chyfrannu'n uniongyrchol at warchod rhai o rywogaethau bywyd gwyllt mwyaf eiconig Cymru.
Dywedodd Rebecca Clews-Roberts, Cynghorydd Arbenigol CNC ar Famaliaid Daearol:
"Mae'n wych gweld gwiwerod coch a beleod yn cael eu cefnogi ac yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar ôl brwydro am gymaint o amser. Mae llawer o'r gwaith hwn wedi digwydd mewn coedwigoedd a reolir gan CNC, ac rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan yn helpu'r rhywogaethau hyn i adfer.
"Mae'r prosiect hwn wedi dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau cadwraeth, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol yn gweithio gyda'i gilydd. Mae'r estyniad yn golygu y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a pharhau i gefnogi un o famaliaid brodorol mwyaf eiconig Cymru am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Dr Craig Shuttleworth, Rheolwr Prosiect Mamaliaid Hudol:
"Trwy gyfuno ymchwil wyddonol, cadwraeth ymarferol a chyfranogiad cymunedol, rydym wedi rhoi dyfodol cryfach i wiwerod coch a beleod yng ngogledd Cymru. Yr un mor bwysig, rydym yn cefnogi pobl leol gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i chwarae rôl barhaus wrth ddiogelu'r rhywogaethau rhyfeddol hyn am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Julian Mason, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog:
"Mae'n newyddion gwych i gadwraeth gwiwerod coch yng ngogledd Cymru. Gall gwirfoddolwyr YGCC edrych ymlaen at dderbyn cefnogaeth bellach gan geidwad gwiwerod coch ymroddedig Mamaliaid Hudolus sydd eisoes wedi cael effaith sylweddol trwy ymgysylltu â'r gymuned leol yn llwyddiannus a thrwy cefnogaeth gwirfoddolwyr.
"Yn ogystal â'r gwaith cadwraeth sydd eisoes wedi'i wneud, mae YGCC yn edrych ymlaen at fod yn rhan o weithgareddau gwyddoniaeth dinasyddion pellach sy'n cefnogi ac yn diogelu presenoldeb gwiwerod coch yng Nghoedwig Clocaenog."
Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni drwy bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog a Chyfoeth Naturiol Cymru ac fe'i cefnogir gan gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.