Annog trigolion Aberteifi i fynychu sesiwn galw heibio ar gynigion amddiffyn rhag llifogydd

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Aberteifi - darlun dylunio

Mae trigolion Aberteifi yn cael eu hatgoffa i fynychu sesiwn galw heibio cyhoeddus ddydd Mercher 13 Mai i gael gwybod mwy am gynlluniau i leihau perygl llifogydd llanwol yn y dref.

Mae CNC yn gofyn am adborth ar Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi arfaethedig. Nod y cynllun yw lleihau perygl llifogydd llanwol i tua 90 o gartrefi a busnesau ar lan ogleddol Afon Teifi, ardal sydd wedi profi llifogydd llanwol dro ar ôl tro yn y gorffennol.

Meddai Bethan Hill, Rheolwr Prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Byddem wir yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynigion amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer Aberteifi i fynychu’r sesiwn galw heibio ddydd Mercher 13 Mai.

“Mae'n gyfle i edrych ar y cynlluniau'n fanwl, siarad yn uniongyrchol â thîm y prosiect a gofyn cwestiynau. Mae barn trigolion lleol, busnesau a defnyddwyr afonydd yn bwysig wrth ein helpu ni i lunio cynllun sy'n gweithio'n dda i'r dref.”

Yn y gorffennol, mae'r llanw uchel wedi gwthio dŵr i ffyrdd ac i eiddo, gan darfu ar y gymuned leol. Gyda lefelau'r môr yn codi, a newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau llanw mwy eithafol, disgwylir i'r risg i'r rhan hon o Aberteifi gynyddu heb weithredu.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae CNC yn cynnig adeiladu wal llifogydd llanwol newydd ar hyd yr afon. Byddai'r cynllun yn darparu amddiffyniad hirdymor i'r dref, yn cryfhau glan yr afon ac yn creu mannau cyhoeddus newydd ar hyd y Strand. Lle mae'r wal wedi'i symud yn ôl, byddai ardaloedd newydd o gynefin rhynglanwol hefyd yn cael eu creu.

Fel rhan o'r cynigion, byddai rhan o'r wal lifogydd newydd yn cael ei hadeiladu o fewn maes parcio Gloster Row, sy'n golygu y byddai mynediad llithrfa i'r afon yn cael ei chau yn barhaol.

Cynhelir sesiwn galw heibio gyhoeddus ddydd Mercher 13 Mai 2026, 1—7pm yn
Ystafell y Tŵr, Castell Aberteifi.

Mae'r sesiwn yn rhoi cyfle i bobl weld y cynlluniau'n fanwl, siarad yn uniongyrchol â thîm y prosiect, gofyn cwestiynau a rhoi adborth.

Gall pobl hefyd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad mewn ffyrdd eraill:

  • Mae'r holl ddogfennau a chynlluniau ymgynghori ar gael ar-lein, ynghyd ag arolwg ar-lein:
  • Mae copïau papur o'r dogfennau ar gael i’w gweld yn Llyfrgell Aberteifi.

Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Llun, 18 Mai 2026. Yna bydd CNC yn cynhyrchu adroddiad yn crynhoi sut mae adborth y cyhoedd wedi'i ystyried cyn cyflwyno cais cynllunio llawn i'r awdurdod cynllunio lleol.