Erlyn cwmni gwastraff yng Nghaerfyrddin yn dilyn digwyddiadau llygredd ailadroddus

Mae cwmni rheoli gwastraff wedi'i ddedfrydu ar ôl methiannau dro ar ôl tro i reoli gwastraff hylifol yn briodol, gan gynnwys digwyddiad a lygrodd Nant Tawelan, un o lednentydd Afon Tywi yng Nghaerfyrddin.

Ar 9 Hydref 2025, ymatebodd swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dilyn adroddiad am lygredd a oedd yn effeithio ar Nant Tawelan yn Nhre Ioan, Caerfyrddin.

 

Canfu ymchwiliad fod elifiant llygredig wedi mynd i mewn i'r cwrs dŵr o orsaf drosglwyddo gwastraff drwyddedig sy’n cael ei gweithredu gan Wasanaethau Ailgylchu ac Amgylcheddol Sir Gaerfyrddin (CRES).

Cafwyd digwyddiad arall a oedd yn ymwneud â gollwng gwastraff hylifol i'r ddaear ar yr un safle ar 21 Gorffennaf 2026. Olrheiniodd swyddogion CNC y gollyngiad i'r un ffynhonnell, gan ddangos methiant dro ar ôl tro i reoli gwastraff hylifol yn briodol ac i atal llygru’r amgylchedd.

Arweiniodd natur ailadroddus y troseddau at CNC yn erlyn CRES. Ymddangosodd y cwmni gerbron Llysoedd Ynadon Llanelli ar 19 Tachwedd a phlediodd yn euog i'r ddau gyhuddiad.

Cafodd y cwmni ddirwy o £3000 am ddigwyddiad mis Hydref a £1000 am ddigwyddiad mis Gorffennaf. Yn ogystal, gorchmynnwyd i'r cwmni dalu Gordal Dioddefwr o £1600 a chostau o £7,933.

Yn ystod yr ymchwiliad i'r digwyddiad ym mis Hydref 2025, sylwodd swyddogion CNC ar elifiant llwyd yn dod o lan yr afon ac yn mynd i mewn i Nant Tawelan. Roedd arogl cryf tebyg i garthion yn bresennol a chasglwyd samplau o'r gollyngiad a'r cwrs dŵr dan sylw.

Olrheiniodd swyddogion ffynhonnell y llygredd i dancer a oedd wedi'i leoli o fewn y safle. Dangosodd tystiolaeth fod gwastraff hylifol wedi'i ollwng ar y ddaear cyn llifo i'r nant.

Darganfu dadansoddiad labordy lefelau uchel o amonia a solidau crog yn yr elifiant, sy'n gyson â gwastraff carthion heb ei drin neu wastraff tanc carthion. Dangosodd gwaith samplu hefyd ddirywiad yn ansawdd y dŵr i lawr yr afon o'r man gollwng, gyda'r effaith yn ymestyn am tua un cilometr.

Yn ystod cyfweliad dan rybudd, cyfaddefodd cynrychiolydd o'r cwmni eu bod wedi achosi'r llygredd, er iddynt honni ei fod yn anfwriadol.

Daeth asesiad CNC i'r casgliad y gallai’r llygredd achosi niwed sylweddol i fywyd dyfrol. Gall lefelau uchel o amonia fod yn wenwynig i bysgod ac organebau dyfrol eraill, tra gall gwastraff sy'n gysylltiedig â charthion a solidau crog niweidio cynefinoedd afonydd a mannau silio pwysig.

Mae Nant Tawelan yn un o lednentydd Afon Tywi, sydd wedi'i dynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae'r dynodiadau gwarchodedig hyn yn cydnabod arwyddocâd ecolegol eithriadol yr afon, gan ei bod yn cynnal cynefinoedd a rhywogaethau o bwys rhyngwladol.

Meddai Alys Rees, Arweinydd Tîm Amgylchedd Sir Gaerfyrddin ar gyfer CNC:

"Rydym yn falch ein bod wedi dod â'r achos hwn gerbron y llysoedd a sicrhau dedfryd am y troseddau hyn. Mae Nant Tawelan yn llifo i Afon Tywi, un o afonydd gwarchodedig pwysicaf Cymru, ac mae digwyddiadau o'r fath yn gwbl annerbyniol.
"Mae'r achos hwn yn dangos ymrwymiad CNC i leihau llygredd, diogelu Afon Tywi a'i llednentydd, a dwyn y rhai sy'n gyfrifol am niwed amgylcheddol i gyfrif."

Mae gan fusnesau sy'n gweithredu o fewn y sector gwastraff gyfrifoldeb clir i sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli a'i waredu'n briodol. Gall methu â gwneud hynny achosi canlyniadau difrifol i'r amgylchedd, yn enwedig pan fo llygredd yn mynd i gynefinoedd sensitif a gwarchodedig.

Mae CNC yn ymchwilio i adroddiadau am lygredd amgylcheddol ac yn cymryd camau gorfodi cymesur lle nodir bod deddfwriaeth amgylcheddol wedi’i thorri. Gall camau gorfodi gynnwys cyngor ac arweiniad, llythyrau rhybudd, sancsiynau sifil neu erlyniad, yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.

Er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, cysylltwch â chanolfan gyfathrebu digwyddiadau 24/7 CNC drwy ddefnyddio ein ffurflen rhoi gwybod ar-lein, neu ffoniwch 0300 065 3000.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru