Gwaredu batris ïon lithiwm yn ddiogel i atal tanau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Gwasanaethau Tan yng Nghymru yn annog pobl ledled y wlad i gael gwared ar fatris ïon lithiwm yn ddiogel, yn dilyn nifer o danau y credir iddynt gael eu hachosi gan fatris a gafodd eu gwaredu yn y modd anghywir.

Gall batris ïon lithiwm, sydd i’w cael yn gyffredin mewn ffonau symudol, gliniaduron, e-feiciau, ac e-sigaréts, achosi risg tân difrifol pan gânt eu gwaredu gyda gwastraff cyffredinol. Os cânt eu difrodi neu eu malu, gallant ryddhau electrolytau fflamadwy neu achosi cyfres o adweithiau thermol afreolus, gan arwain at danau llethol mewn safleoedd gwastraff.

Mae tanau gwastraff yn rhyddhau nwyon niweidiol, a gall y mwg peryglus sy’n dod ohonynt achosi risgiau difrifol i bobl a'r amgylchedd. Yn ogystal, gall gweddillion gwastraff wedi'i losgi lygru dŵr wyneb a dŵr daear, gan arwain at halogiad tir hirdymor, sy'n gostus ac yn heriol i'w adfer.

Meddai Nia Brunning, Arweinydd Tîm Rheoleiddio a Gorfodi Gwastraff yn CNC:

“Rydym wedi gweld nifer o danau ar safleoedd gwastraff ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, lle’r oedd batris ïon lithiwm yn achos tebygol mewn sawl achos. Mae’r tanau hyn nid yn unig yn niweidio’r amgylchedd gan eu bod yn rhyddhau nwyon peryglus ond hefyd maen nhw’n rhoi cymunedau lleol a gwasanaethau brys mewn perygl.

“Er mwyn helpu i atal tanau, rydym yn annog pobl i gael gwared o fatris ïon lithiwm yn gywir. Pan yw’n ddiogel ac yn hawdd gwneud hynny, tynnwch fatris o eitemau trydanol cyn eu hailgylchu. Mae llawer o gynghorau yn cynnig gwasanaeth casglu batris o ddrws i ddrws fel rhan o wasanaethau ailgylchu gwastraff y cartref, neu gallwch fynd â nhw i fannau ailgylchu dynodedig mewn archfarchnadoedd, manwerthwyr trydan, a chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.”

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut i gael gwared o fatris yn ddiogel, ewch i wefan eich cyngor lleol neu chwiliwch am fannau casglu batris yn eich ardal.

Am ragor o wybodaeth ar sut i gadw'n ddiogel rhag dan, ewch i: