Pysgotwr profiadol yn cyfaddef i fod wedi dal a gwerthu eog gwarchodedig yn anghyfreithlon 

Achos llys eog Mark Dellar

Mae pysgotwr cwrwgl profiadol wedi pledio’n euog i ddal a gwerthu eog gwarchodedig yn anghyfreithlon o Afon Teifi ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro.

Ymddangosodd Mark Dellar, 51 oed, o Gilgerran, Sir Benfro, sy’n pysgota’n broffesiynol ers dros 20 mlynedd, yn Llysoedd Ynadon Aberystwyth ddydd Mawrth, 29 Ebrill.

Plediodd Dellar yn euog i dorri Adran 32 o Ddeddf Eogiaid 1986 drwy fethu ag adnabod a rhyddhau’r pysgodyn yn gywir. Mae’r gyfraith yn gwahardd lladd, cadw neu werthu eogiaid yn afonydd Cymru oherwydd bod eu niferoedd ar i lawr. 

Cafodd ei ryddhau’n ddiamod a gorchmynnwyd iddo dalu £85 mewn costau llys. Mae lefel y gosb yn seiliedig ar amgylchiadau’r troseddwr, er enghraifft sefyllfa ariannol, cymeriad da yn flaenorol a statws yn y gymuned, a hynny wedi’i gydbwyso â lefel y niwed a’r bwriad.

Cafodd Dellar ei ddal yn dilyn neges Facebook gan dafarn y Pentre Arms yn Llangrannog yn hysbysebu bod siwin 16 pwys wedi’i ddal yn lleol ar y fwydlen ar 6 Gorffennaf 2024. Fodd bynnag, fe welodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y ddelwedd, gan amau ​​​​mai eog oedd y pysgodyn mewn gwirionedd. 

Ymwelodd swyddogion CNC â’r gwesty i ymchwilio. Cydweithredodd perchennog a chogydd y gwesty’n llawn, gan ddarparu’r cytledi pysgod, prawf pryniant ar gyfer y pysgodyn a gostiodd £135, a thag carcas masnachol, a oedd yn olrhain y pysgodyn yn ôl i Dellar. Roedden nhw’n credu mai brithyll y môr (a elwir hefyd yn siwin) oedd y pysgodyn. 

Mewn dadansoddiad pellach cadarnhawyd mai eog 2.2+ oed oedd y pysgodyn mewn gwirionedd: pysgodyn a oedd wedi treulio dwy flynedd yn yr afon fel eog ifanc, yna ddwy flynedd arall yn y môr cyn dychwelyd i’r afon i silio. 

Mewn cyfweliad gwirfoddol gyda’r heddlu, honnodd Dellar ei fod yn meddwl mai brithyll y môr oedd y pysgodyn pan ddaliodd ef y diwrnod cynt, ar 5 Gorffennaf, 2024.

Meddai Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Gwastraff a Gorfodi CNC yn y Canolbarth:  

“Mae lladd a gwerthu eog llawndwf iach yn dangos diffyg parch clir at y gyfraith ac at iechyd ein hafonydd. Byddai Mr. Dellar, gyda’i flynyddoedd o brofiad, yn gwybod sut i wahaniaethu rhwng eog a brithyll y môr. 

“Gyda niferoedd eogiaid ar i lawr yn ddifrifol, disgwylir i bawb sy’n pysgota â rhwyd neu wialen ryddhau pob eog y maent yn ei ddal. Mae’n ofyniad cyfreithiol ac yn gam hanfodol i amddiffyn y rhywogaeth. Mae pob pysgodyn sy’n silio yn bwysig.

“Byddwn yn dal ati i ymchwilio i droseddau tebyg a dod ag achosion i’r llys lle bo’n briodol. Rydym yn bwriadu ymweld â sefydliadau sy’n gwerthu eog a brithyll y môr, er enghraifft bwytai a gwerthwyr pysgod, yn y misoedd nesaf fel rhan o ymgyrch Gocheled y Prynwr i godi ymwybyddiaeth o’r is-ddeddfau ac i atal troseddau posibl rhag cael eu cyflawni."

Mae Afon Teifi yn un o’r chwe afon yng Nghymru sydd wedi’u gwarchod o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd am ei phoblogaeth o eogiaid sydd o bwys rhyngwladol. 

Ers 2020, mae is-ddeddfau llym yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob eog sy’n cael ei ddal, boed hynny â gwialen neu rwyd, gael ei ryddhau heb ei niweidio.

Pan fydd y niferoedd yn ddifrifol o isel, gall colli hyd yn oed un eog gael effaith fawr ar boblogaethau’r dyfodol. 

Am ragor o wybodaeth am warchod eogiaid a chyfreithiau dal-a-rhyddhau, ewch i wefan CNC.