Darganfod rhywogaeth ddiflanedig yng Nghymru

Mae rhywogaeth o bryfed cadys, y credid ei bod wedi diflannu ym Mhrydain ers 2016, wedi cael ei darganfod yn ystod arolwg o rywogaethau yng Nghors Goch, Ynys Môn.
Cynhaliwyd yr arolwg gan Natur am Byth (NaB) - rhaglen flaenllaw Cymru i adfer rhywogaethau - a hynny mewn partneriaeth â'r RSPB ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i gofnodi'r rhywogaethau o bryfed cadys sy'n byw yn y cynefin gwlyptir.
Defnyddiodd yr arolygwyr drapiau golau ar y corsydd yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst, gan chwilio'n benodol am un o rywogaethau targed NaB, sef Limnephilus tauricus. Roeddent wrth eu bodd o ganfod bod y trapiau golau wedi dal rhywogaeth o bryfed cadys sy’n brinnach fyth, sef Limnephilus pati.
Cadarnhaodd arbenigwyr pryfed cadys mai dyna oedd y pryf, sy’n golygu bod Cors Goch yn un o’r unig dri lleoliad ym Mhrydain lle mae'r rhywogaeth hon wedi'i chanfod, a hynny ers 2016 pan gymerwyd yn ganiataol ei bod wedi diflannu’n llwyr. Y safleoedd eraill yw Market Weston Fen yn Suffolk ac Eochar, yn Ne Uist, yr Alban.
Mae angen amgylchedd lle ceir dŵr glân iawn, llawn calsiwm, ar y rhywogaeth hon o bryfed cadys i oroesi. Mae'r cynefinoedd lle cânt eu canfod yn aml ymhlith y rhai mwyaf amrywiol ym Mhrydain ond maent mewn perygl oherwydd sychder ac effeithiau dwysáu amaethyddol.
Bydd oedolion y rhywogaeth hon yn hedfan yn ystod y gwanwyn tan ddechrau mis Awst tra bod eu larfa sy’n ddyfrol, yn byw ymhlith gwreiddiau llystyfiant trwchus eu cynefinoedd gwlyptir.
Mae Cors Goch hefyd yn gartref i ddwy o rywogaethau targed NaB, sef pryfed milwrol Stratiomys chamaeleon, a rhawn yr ebol Nitella tenuissima - dwy rywogaeth arall sy'n dibynnu ar ddyfroedd glân, llawn calsiwm i oroesi.
Meddai Clare Sampson, rheolwr prosiect Natur am Byth ar gyfer yr RSPB:
“Ynys Môn yw’r unig le y gwyddom amdano yng Nghymru lle gallwch ddod o hyd i’r pryf cadys unigryw hwn ac roedd yn bleser dod o hyd iddo yng Nghors Goch ynghyd â nifer o rywogaethau eraill sy’n dynodi dŵr glân a chynefin cyfoethog.
“Mae pryfed cadys yn goroesi trwy fod yn feistri ar guddio; mae'r oedolion brown yn ymdoddi i'r llystyfiant, tra bod y larfae yn byw y tu mewn i gasys maen nhw'n eu cuddio â choesynnau planhigion, tywod a hadau. Mae canfyddiadau fel hyn yn profi bod darganfyddiadau cyffrous bob amser yn digwydd mewn natur, a gellir dod o hyd iddynt ar eich stepen drws.
“Mae’r darganfyddiad anhygoel hwn yn dangos pam y mae arolygu cyson yn elfen mor bwysig o waith cadwraeth. Drwy gasglu data ar ein rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl a'u cynefinoedd, gallwn ganolbwyntio ein gwaith lle mae ei angen fwyaf a sicrhau eu goroesiad nawr ac i'r dyfodol.”
Gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mae NaB yn gweithio ledled Cymru i wella cynefinoedd a lleihau bygythiadau i 67 o rywogaethau targed. Gallwch ddysgu mwy am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y rhaglen a'i phartneriaid yma.