Annog ffermwyr i baratoi wrth i’r tymor gwasgaru ddirwyn i ben

Wrth i'r gaeaf agosáu, rydym yn atgoffa ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru mai’r diwrnod olaf ar gyfer gwasgaru slyri a mathau eraill o dail organig â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd yw Ddydd Sadwrn 14 Tachwedd 2026.

Bydd y cyfnod gwaharddedig yn dechrau ddydd Sul 15 Tachwedd 2026.

Ar ôl haf sych, ymestynnwyd y cyfnod gwasgaru ar sail eithriadol, ar gyfer eleni yn unig. Mae'r tywydd sych parhaus hyd at ganol mis Tachwedd wedi helpu i greu amodau addas ar gyfer gwagio storfeydd slyri cyn cyfnod y gaeaf.

Mae tail organig â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd yn ffynhonnell werthfawr o faeth sydd ar gael i ffermwyr. Mae gwneud y gorau ohono yn golygu ei wasgaru pan fydd cnydau a glaswellt yn gallu defnyddio’r maetholion hynny, wrth ddiogelu’r afonydd, y nentydd a’r dŵr daear yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnynt.

Mae rhoi slyri ar dir sy’n llawn dŵr, dan lifogydd, wedi rhewi, neu wedi’i orchuddio ag eira, neu pan ragwelir glaw trwm, yn cynyddu’r risg y bydd maetholion gwerthfawr yn cael eu colli o’r caeau ac yn llifo i gyrsiau dŵr cyfagos, ac yn groes i’r rheoliadau.

Mae CNC wedi ymrwymo i ddiogelu'r amgylchedd a bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i unrhyw achos o beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau ac i adroddiadau am lygredd, ac os ceir tystiolaeth ddigonol byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol.

Mae CNC yn annog ffermwyr ac aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau llygredd ar unwaith drwy gysylltu â'n canolfan cyfathrebu digwyddiadau 24/7 ar ein ffurflen rhoi gwybod ar-lein neu drwy ffonio 0300 065 3000.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru