Dŵr Cymru Welsh Water yn cael dirwy £1.35m am dros 800 toriad i drwyddedau gollwng carthion yn dilyn achos pwysig

Mae Dŵr Cymru wedi cael dirwy o £1,350,000 a gorchmynnwyd iddynt dalu £70,237.70 mewn costau ar ôl pledio’n euog i dros 800 achos o dorri amodau ei drwyddedau amgylcheddol i ollwng carthion.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â data hunanfonitro Dŵr Cymru Welsh Water a gyflwynwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel rhan o’i adroddiadau blynyddol ar gyfer 2020 a 2021. Oherwydd nifer yr achosion o ddiffyg cydymffurfio, cafodd y cyhuddiadau eu crynhoi yn 18 trosedd er budd y llys.
Ers 2010, bu gofyniad ar gwmnïau dŵr i gynnal gwaith hunanfonitro ar eu gollyngiadau elifiant o’u gweithfeydd carthffosiaeth a’u gweithfeydd trin dŵr.
Ar ôl derbyn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2020, roedd swyddogion CNC wedi dychryn o ganfod bod ansawdd yr wybodaeth a ddarparwyd wedi dirywio’n amlwg o gymharu â blynyddoedd blaenorol, gyda thros 600 achos o dorri trwyddedau wedi’u cofnodi. Roedd y rhain wedi’u gwasgaru ar draws tua thri chant o safleoedd ledled Cymru a Swydd Henffordd.
Mewn cyfweliadau, ac yn eu hamddiffyniad yn y llys, esboniodd Dŵr Cymru Welsh Water mai ailstrwythuro mewnol y tîm samplu a materion amserlennu cysylltiedig â thechnoleg gwybodaeth ynghyd ag effeithiau pandemig Covid-19 oedd y prif ffactorau y tu ôl i’r dirywiad.
Er bod y sefyllfa wedi gwella’n sylweddol erbyn cyflwyno adroddiad blynyddol 2021, nodwyd nifer o achosion o ddiffyg cydymffurfio eto, er bod y rhain yn llai o ran nifer.
Dylai cynlluniau wrth gefn fod wedi bod yn eu lle i sicrhau bod y cwmni’n bodloni ei ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â’i drwyddedau wrth fynd drwy’r ailstrwythuro.
Mae samplau a data coll o flwyddyn adrodd 2020 yn golygu nad oedd CNC yn gallu asesu nac ymateb yn llawn i unrhyw effeithiau amgylcheddol. Er ei bod yn bosibl, yn unigol, mai mân achosion o ddiffyg cydymffurfio oedd y rhain, mae CNC yn ystyried bod effaith cyfanswm yr holl doriadau yn arwyddocaol o ran effaith amgylcheddol.
Dywedodd Siân Williams, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r achos hwn yn amlygu diffygion ym mhrosesau Dŵr Cymru a arweiniodd at lawer o achosion o dorri amodau trwyddedau ledled Cymru a thros y ffin dros gyfnod o ddwy flynedd.
“Er ein bod yn gwerthfawrogi’r tarfu a wynebodd pob busnes yn ystod 2020 yn sgil pandemig Covid-19, rydym yn credu y gellid fod wedi osgoi’r methiannau a ddangoswyd gan Dŵr Cymru gyda gwell cynlluniau wrth gefn.
“Mae perfformiad Dŵr Cymru wedi parhau i ddirywio ers nifer o flynyddoedd bellach, ac mae hyn yn rhybudd clir i’r cwmni na fyddwn yn oedi cyn defnyddio ein pwerau gorfodi i sicrhau’r gwelliannau rydym yn disgwyl eu gweld.”
Mae CNC wedi israddio Dŵr Cymru Welsh Water o fod yn gwmni pedair seren (yn arwain y diwydiant) yn 2020 i gwmni dwy seren (angen gwella) yn 2022 a 2023 fel rhan o’i Asesiad Perfformiad Amgylcheddol blynyddol.
Yn ystod 2023, cofnododd Dŵr Cymru ei berfformiad gwaethaf erioed yn erbyn y metrigau perfformiad amgylcheddol a fesurwyd, gyda chynnydd mewn digwyddiadau llygredd sylweddol a gostyngiad mewn hunangofnodi digwyddiadau.
Nid yw’r achosion disgrifiadol o ddiffyg cydymffurfio â thrwyddedau yr ymdriniwyd â hwy gan yr erlyniad hwn yn rhan o’r matrics Asesu Perfformiad Amgylcheddol.
Parhaodd Siân:
“Mae penderfyniad y llys yn benllanw’r ymchwiliad cymhleth hwn i berfformiad y cwmni ar draws Cymru a Swydd Henffordd. Hoffwn dalu teyrnged i ddiwydrwydd ac ymrwymiad ein timau rheoleiddio i sicrhau cydymffurfedd â thrwyddedau a gorfodi’r newidiadau systemig sydd eu hangen o fewn y cwmni.
“Ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio ein pwerau rheoleiddio a gorfodi os dyna’r peth priodol i’w wneud i sicrhau bod unrhyw ddeiliad trwydded yn cydymffurfio.
“Yn unol â’n ffocws parhaus ar ansawdd dŵr yng Nghymru, rydym yn buddsoddi mwy o adnoddau mewn monitro cydymffurfedd rheng flaen ac wedi cynyddu ein harchwiliad o weithgareddau hunanfonitro Dŵr Cymru.”