Prosiect nodedig yn sicrhau cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer Afon Teifi ac ailgysylltu cymunedau â natur
Mae menter bartneriaeth newydd fawr i adfywio un o afonydd mwyaf arwyddocaol Cymru yn ddiwylliannol ac ecolegol wedi cael cymeradwyaeth i gychwyn arni, diolch i dros £1.4m mewn cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae prosiect Teifi Fyw: Pobl a Natur Gyda'n Gilydd yn gydweithrediad cadwraethol gwahanol i’r arfer. Ei nod yw ymateb i heriau newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a dirywiad yn iechyd afonydd, tra'n cydnabod arwyddocâd diwylliannol dwfn Afon Teifi a gosod cymunedau lleol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Bydd cyfnod datblygu dwy flynedd cychwynnol yn dod â thystiolaeth wyddonol ynghyd â hanes lleol, profiadau go iawn, a mynegiant creadigol er mwyn sicrhau bod gwaith adfer yn adlewyrchu gwerthoedd y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn nalgylch yr afon.
Yn ogystal â bod o fudd i'r amgylchedd, bydd yn dod â rhaglenni hyfforddi a sgiliau gwyrdd i gymunedau, tirfeddianwyr a rheolwyr tir lleol, gan gefnogi gwyddoniaeth dinasyddion i rymuso pobl.
Drwy ailgysylltu pobl â natur a threialu dulliau newydd o adfer ledled y dalgylch, bydd prosiect Teifi Fyw yn anelu at drawsnewid dulliau adfer a datblygu model blaenllaw i greu newid parhaol mewn mannau eraill yng Nghymru.
Ar ôl y cam datblygu, bydd y prosiect yn cael ei gyflawni dros bum mlynedd gan ddod â’r buddsoddiad yn y prosiect i dros £10m.
Mae prosiect Teifi Fyw yn eistedd o fewn rhaglen ehangach Dalgylch Arddangos Teifi, sydd wedi uno partneriaid yn y dalgylch ers 2023.
Fe'i cydlynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru; yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio; Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur; Mentera; Cyngor Sir Ceredigion; UNESCO-MOST BRIDGES - Prifysgol Cymru y Drindod Tyddewi a’r Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Yn ogystal â grant Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect hefyd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Jon Goldsworthy, Pennaeth Prosiectau Strategol yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol i un o afonydd pwysicaf Cymru ac yn dangos pŵer cydweithio.
“Ni allai unrhyw sefydliad unigol gyflawni newid o’r maint yr ydym yn gobeithio ei gyflawni gyda Teifi Fyw. Mae'r prosiect yn cael ei yrru gan arbenigedd, profiad go iawn, ac ymrwymiad cymunedau a sefydliadau sy'n rhoi pwys mawr ar yr afon.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac i bawb sydd wedi helpu i ddod â Teifi Fyw i’r pwynt hwn. Rydym yn edrych ymlaen at gymryd y camau nesaf ar y cyd ac yn credu’n gryf mai dyma ddechrau rhywbeth a all drawsnewid yr ardal am genedlaethau i ddod.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:
“Mae Teifi Fyw yn cydnabod Afon Teifi fel tirwedd fyw a luniwyd gan natur a phobl dros genedlaethau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect hwn yn helpu i amddiffyn treftadaeth naturiol a diwylliannol yr afon wrth gefnogi cymunedau i ofalu am ei bioamrywiaeth a'i straeon ymhell i'r dyfodol.”
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, a rhestr lawn o bartneriaid, ewch i wefan Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi.