Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru - “Mwynhewch ddyfroedd Cymru yn ddiogel yr haf hwn”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i fwynhau dyfroedd Cymru yn ddiogel yr haf hwn, wrth i gyfnodau o dywydd poeth a thymheredd uwch beri i fwy o bobl chwilio am ddŵr agored i oeri.
Gyda gwyliau haf yr ysgol yn agosáu a mwy o bobl yn treulio amser yn yr awyr agored, mae’r sefydliadau’n atgoffa pobl i ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â dyfroedd naturiol ac i gymryd camau syml i ofalu am eu hiechyd a’u diogelwch.
Gall gweithgareddau dŵr agored gynnig buddion sylweddol o ran lles corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, mae dyfroedd naturiol yn wahanol i byllau nofio a gall yr amodau newid yn gyflym.
Dylai pobl fod yn ymwybodol o beryglon fel sioc dŵr oer, ceryntau cryf, newidiadau sydyn yn nyfnder y dŵr, rhwystrau o dan y dŵr a gordyfiant algâu gwyrddlas, a all fod yn bresennol yn naturiol mewn dyfroedd mewndirol, mewn aberoedd ac yn y môr.
Er bod rhai lleoliadau arfordirol ac afonydd yng Nghymru yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig ac yn cael eu monitro’n rheolaidd i asesu ansawdd y dŵr, nid oes gan lawer o afonydd, llynnoedd a dyfroedd mewndirol y fath ddynodiad. Mae dynodi dŵr ymdrochi yn helpu i ddarparu gwybodaeth i gefnogi dewisiadau gwybodus, ond nid yw'n warant y bydd y dŵr bob amser yn rhydd rhag llygredd neu risgiau i iechyd.
Gall ansawdd y dŵr mewn afonydd a llynnoedd amrywio dros gyfnodau byr o amser, yn enwedig yn dilyn glaw trwm, a gall amrywiaeth o ffactorau ddylanwadu arno, gan gynnwys dŵr ffo o dir, systemau draenio trefol, bywyd gwyllt, a gollyngiadau dŵr gwastraff a gorlifoedd storm.
Yn wir, gall dŵr sy’n ymddangos yn lân ac sy’n cynnal bywyd gwyllt gynnwys bacteria niweidiol, firysau a halogion eraill o amrywiaeth o ffynonellau nad oes modd eu gweld bob amser, a gall weithiau wneud pobl yn sâl.
Yng Nghymru, mae dyfroedd ymdrochi dynodedig yn cael eu monitro yn ystod y tymor ymdrochi (Mai - Medi), ac mae’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble a phryd i fynd i’r dŵr.
Cyn mynd i’r dŵr, cynghorir pobl i wirio amodau’r tywydd a’r dŵr, a chymryd rhagofalon synhwyrol, gan gynnwys osgoi llyncu dŵr, gorchuddio toriadau i’r croen a chrafiadau â rhwymyn gwrth-ddŵr, golchi dwylo cyn bwyta ac yfed, a chymryd cawod cyn gynted â phosibl ar ôl nofio.
Dywedodd Hamish Osborn, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Gwyddom fod mwy o bobl yn troi at ein hafonydd, ein llynnoedd a’n dyfroedd arfordirol i oeri a mwynhau’r awyr agored mewn cyfnodau o dywydd poeth. Mae gan Gymru leoedd gwych i gysylltu â natur, ond mae dyfroedd naturiol yn wahanol i amgylcheddau nofio a reolir a gall yr amodau newid yn gyflym.
“Nid yw’r rhan fwyaf o afonydd a llynnoedd yng Nghymru yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig, felly rydym yn annog pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble a phryd i fynd i’r dŵr, dilyn y Cod Nofio yn y Gwyllt, a chymryd camau synhwyrol i ofalu am eu hiechyd a’u diogelwch.”
Dywedodd Alice Munro, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gall y tywydd, y llanw, y cerrynt a dyfnder y dŵr i gyd newid yn gyflym felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r rhain cyn mynd i’r dŵr a phan fyddwch chi yn y dŵr. Hyd yn oed yn yr haf, gall y dŵr fod yn oer iawn ac achosi sioc dŵr oer os ewch chi i mewn yn rhy gyflym - a gall hyn arwain at foddi.
“Efallai na fyddwch chi’n gallu gweld unrhyw beryglon o dan y dŵr chwaith, yn enwedig os byddwch chi’n plymio neu’n neidio i mewn. Gall mynd i mewn yn araf a gwisgo dyfais arnofio leihau’r peryglon hyn wrth nofio mewn dyfroedd anghyfarwydd.”
Mae CNC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori pobl i wneud y canlynol:
- Dewis lleoliadau sy’n hysbys ac sy’n addas ar gyfer nofio pan fo modd, er enghraifft dyfroedd ymdrochi dynodedig.
- Osgoi mynd i’r dŵr os yw’n edrych fel petai wedi’i lygru neu os bu glaw trwm yn ddiweddar.
- Ceisio peidio â llyncu dŵr wrth nofio neu badlo.
- Gorchuddio unrhyw doriadau i’r croen neu grafiadau gyda rhwymyn gwrth-ddŵr.
- Golchi eich dwylo cyn bwyta neu yfed ar ôl bod yn y dŵr.
- Cael cawod cyn gynted â phosibl ar ôl nofio a golchi unrhyw siwtiau gwlyb neu offer yn rheolaidd.
- Aros allan o’r dŵr os ydych chi wedi bod yn sâl yn ddiweddar gyda dolur rhydd neu chwydu.
- Ceisio cyngor meddygol os byddwch chi’n datblygu symptomau fel dolur rhydd, chwydu, poen yn eich bol neu dwymyn ar ôl nofio.
I gael rhagor o wybodaeth am fwynhau dyfroedd Cymru yn gyfrifol, ewch i God Nofio yn y Gwyllt CNC a’i ganllawiau ar ddiogelwch dŵr yn yr awyr agored.
Dysgwch fwy am sut rydym yn monitro dyfroedd ymdrochi yng Nghymru: Cyfoeth Naturiol Cymru / Sut rydym yn monitro ac yn amddiffyn dyfroedd ymdrochi Cymru.