Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i ddigwyddiadau llygredd sy'n effeithio ar Afon Cynffig
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i ddigwyddiadau llygredd sy'n gysylltiedig â seilwaith yng Ngorsaf Pwmpio Carthion (GPC) Marlas, sy’n effeithio ar Afon Cynffig.
Mae'r problemau'n ymwneud â GPC Marlas ger Gogledd Corneli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a’i phrif bibell godi gysylltiedig a weithredir gan Dŵr Cymru.
Mae’r bibell sy’n ymestyn dros oddeutu 9km yn cludo carthion i Waith Trin Dŵr Gwastraff Afan, ond wedi byrstio droeon ers mis Awst 2023, gan achosi sawl digwyddiad llygredd.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i'r digwyddiadau hyn, gan fynd i’r safleoedd i gasglu tystiolaeth, monitro'r effaith ar yr amgylchedd ac yna gofyn i Dŵr Cymru weithredu i fynd i'r afael â'r diffygion.
Ym mis Chwefror 2026, gwaethygodd y sefyllfa, pan gafwyd gollyngiad parhaus o GPC Marlas. O ganlyniad i hyn, comisiynodd Dŵr Cymru waith trin carthion dros dro ar y safle.
Mae'r problemau wedi arwain at ollyngiadau ailadroddus i Afon Cynffig, sydd wedi cael cryn effaith i lawr yr afon, gan gynnwys llygredd, arogl ac effaith ar bysgod a mathau eraill o fywyd gwyllt.
Ers i Dŵr Cymru gwblhau’r gwaith o osod prif bibell godi dros dro dros y tir ddydd Mawrth, 9 Mehefin 2026, mae'r gollyngiadau parhaus o GPC Marlas a'r gwaith trin carthion dros dro wedi peidio.
Er bod disgwyl i hyn leihau’r risg o lygredd pellach i raddau sylweddol, ceir potensial o hyd am ddigwyddiadau eraill tra bo’r problemau seilwaith yn cael eu datrys yn llawn. Mae CNC yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ac i asesu effeithiolrwydd y mesurau sydd ar waith.
Yn ôl Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau De-orllewin Cymru:
“Mae’r mater hwn yn hynod ddifrifol. Mae maint yr effaith amgylcheddol ar Afon Cynffig yn annerbyniol, ac rydym yn deall y pryder a'r rhwystredigaeth y mae hyn wedi'i hachosi i gymunedau lleol, yn ogystal â'r difrod i fywyd gwyllt a'r amgylchedd ehangach, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig.
“Rydym yn cynnal ymchwiliadau manwl i’r digwyddiadau hyn a byddwn yn cymryd y camau priodol yn unol â’n Polisi Gorfodi a Sancsiynau.
“Yn ystod ein hymchwiliadau ffurfiol, nid ydym yn gallu darparu gwybodaeth fanwl, oherwydd gallai datgelu yn y cam hwn beryglu unrhyw ganlyniad gorfodi.
“ Ond rydym am i bobl fod yn sicr ein bod yn monitro'r sefyllfa'n agos wrth inni lunio ein hachos. Mae ein swyddogion yn mynychu'r safle'n rheolaidd i wneud gwaith monitro pwysig ac i asesu'r effaith amgylcheddol yn barhaus, ac yn sicrhau bod Dŵr Cymru yn cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol.
“Rydym wedi hysbysu Dŵr Cymru ein bod yn disgwyl iddynt wneud gwaith adfer i lanhau’r darnau yr effeithiwyd arnynt o Afon Cynffig, a chreu cynllun i wella’r afon a’i bioamrywiaeth yn y tymor hwy.
“Rydym hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol a phartneriaid, a byddwn yn parhau i wneud hynny drwy ein tudalen we benodol ar gyfer y digwyddiad wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.”
Mae GPC Marlas yn gweithredu o dan drwydded gollwng ansawdd dŵr, sy'n caniatáu rhyddhau carthion storm neu garthion mewn argyfwng o fewn meini prawf penodol.
Mae Dŵr Cymru, sy’n gweithredu’r safle, yn gyfrifol am fodloni amodau’r drwydded ac am reoli effaith y gollyngiadau hyn.
Mae CNC yn cynnal ymchwiliadau ffurfiol manwl, gan ystyried pob digwyddiad ar y safleoedd hyn, gan gynnwys asesu effeithiau amgylcheddol ac amheuon ynghylch torri amodau’r drwydded.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we digwyddiad Gorsaf Pwmpio Carthion Marlas ac Afon Cynffig.