Adfywio Twyni Cymru
Mae prosiect pwysig i wella cyflwr twyni tywod hyd Gymru gyfan wedi llwyddo yn eu cais am nawdd Ewropeaidd.
Bydd prosiect £4 miliwn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galluogi CNC a’i bartneriaid i warchod ac adfer bron i 25km2- oddeutu 2,500 o gaeau rygbi – o dwyni tywod mewn 10 o safleoedd yng Nghymru.
Twyni tywod yw’r cynefin sy’n cael ei beryglu fwyaf yn Ewrop gyfan.
Dyma rai o’r safleoedd cyfoethocaf o ran bywyd gwyllt yng Nghymru, ond wrth i’r twyni sefydlogi mae rhai o’r rhywogaethau prinnaf wedi dirywio, a rhai wedi diflannu’n gyfan gwbl.
Yn eu hanfod, mae twyni tywod yn gynefinoedd newidiol. Dan ddylanwad gwyntoedd yr arfordir, mae’r twyni yn ffurfio, yn symud, ac yn tyfu o hyd, gan greu’r dirwedd yr ydym oll yn ei hadnabod.
Ond dros y degawdau diwethaf, mae sawl safle wedi dechrau cael eu tagu gan lystyfiant trwchus.
Er hynny, mae canlyniadau treialon i adfer twyni yng Nghynffig, Merthyr Mawr, a Chwningar Niwbwrch wedi bod yn bositif, ac mae rhywogaethau prin megis tegeirian y fign galchog wedi dychwelyd yno.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r prosiect gwych yma i achub ein twyni a’r rhywogaethau prin sy’n byw yno wedi ein cyffroi’n lân.
“Bydd y gwaith hefyd yn rhoi cyfle i ragor o bobl ddysgu am ein bywyd gwyllt diddorol
“Nid cefndir i’ch trip i’r traeth yw twyni tywod – maent yn gynefin i rai o’n rhywogaethau prinnaf, ac maent angen ein cymorth.
“Golyga’r nawdd o gronfa EU LIFE ein bod yn gallu gwella cyflwr y twyni, gan arddangos ein cyfraniad tuag at gyflawni Cynllun Adfer Natur Cymru'r Llywodraeth.”
Bydd CNC yn cydweithio â phartneriaid a thirfeddianwyr yn y 10 safle, sy’n cynnwys Cynffig, Merthyr Mawr, a Bae Caerfyrddin yn y de, y twyni rhwng Abermenai ac Aberffraw ym Môn, yn ogystal â Morfa Harlech a Morfa Dyffryn yng Ngwynedd.