Datganiad CNC mewn ymateb i Gyflwyno Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

Dywedodd Dominic Driver, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Dros Dro:
"Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ac yn llwyr gefnogi cyflwyniad Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) gan gynnwys ei ymrwymiad i ymgorffori egwyddorion amgylcheddol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru, gosod targedau bioamrywiaeth statudol, a sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol statudol pwrpasol i amddiffyn bioamrywiaeth a gwella lles pobl Cymru.
"Mae natur o fudd i bawb ac mae amgylchedd naturiol iach a gwerthfawr yn hanfodol o ran cefnogi ein systemau bwyd, ein hiechyd, ein bywoliaeth, ein heconomi, a'n synnwyr o le mewn perygl difrifol.
"Nawr yn fwy nag erioed, mae angen camau gweithredu brys a chynaliadwy i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth, ac i adeiladu gwydnwch ein hecosystemau a’n cymunedau.
"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i fynd i'r afael â risgiau amgylcheddol - gan gynnwys llifogydd, tonnau gwres, sychder, tanau gwyllt a lleihau’r risg o lygredd - drwy wneud penderfyniadau gwybodus sy'n darparu'r budd hirdymor mwyaf i Gymru a chenedlaethau'r dyfodol.
"Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a gweithredu Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol Cymru a hoffem ei gweld yn cael ei sefydlu cyn gynted â phosibl.
"Rydym am weld targedau’n cael eu gosod sy’n cwmpasu amcanion eang y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang fel eu bod yn ein helpu i ddilyn dull ehangach a rhagweithiol ar gyfer newid ar draws cymdeithas a’r economi – yn enwedig bwyd, ynni a thrafnidiaeth – ochr yn ochr ag ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer cynefin a rhywogaethau, sydd eu hangen i alluogi natur i adfer.
"Tra bod y corff newydd yn cael ei sefydlu, byddwn yn parhau i weithio gyda’r trefniadau presennol drwy ddarparu tystiolaeth ac adroddiadau mewn meysydd perthnasol fel ansawdd dŵr, safleoedd gwarchodedig, a gwarchod coed a gwrychoedd.
"Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i chwarae rhan weithredol wrth helpu proses y Senedd i lunio gweithrediad y Bil, gan sicrhau ei fod yn cyflawni canlyniadau ystyrlon i natur a phobl. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ei lwyddiant drwy gyfrannu ein tystiolaeth, ein harbenigedd a'n mewnwelediad gweithredol i gefnogi cyflawniad datblygu cynaliadwy, cryfhau llywodraethiant bioamrywiaeth, a gwella lles pobl a natur yng Nghymru."