Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu i glirio cychod adfeiliedig o aber afon Dyfrdwy

Mae ymgyrch lanhau sylweddol yn mynd rhagddi ar aber afon Dyfrdwy y mis hwn, wrth i bum llong adfeiliedig, gan gynnwys cwch hwylio sydd wedi suddo, gael eu tynnu o’r dŵr i wella diogelwch ac atal llygredd amgylcheddol.

Dechreuodd y gwaith diweddaraf, a wnaed fel rhan o brosiect atal sbwriel môr a chychod adfeiliedig Cyfoeth Naturiol Cymru, ar 17 Mawrth. 

Bydd y broses glirio yn digwydd ar draws aber afon Dyfrdwy, ac mae’r prif leoliadau yn cynnwys Cei Connah, Bagillt, a Doc Maes-glas. Bydd contractwyr arbenigol y prosiect, sy’n gweithio’n agos gyda Gwarchodfa Afon Dyfrdwy a’r porthfeistr, yn ymgymryd â’r ymdrechion adfer o’r dŵr a’r tir. Bydd angen codi rhai o’r cychod â chraen a llwythwr telesgopig – fel y cwch hwylio sydd wedi suddo yng Nghei Connah. Bydd y cwch hwn yn cael ei godi’n rhannol, ac yna bydd rhywfaint o’r dŵr yn cael ei bwmpio ohono i’w arnofio, gan alluogi iddo gael ei dynnu i ffwrdd o’r ardal.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o ymdrechion ehangach CNC i fynd i’r afael â’r mater o gychod adfeiliedig a chychod gadawedig, a all beri risgiau difrifol i’r amgylchedd ac i ddiogelwch. Mae llongau gadawedig yn peri risgiau megis llygredd o ddeunyddiau peryglus, a’r risg y bydd gwydr ffibr sy’n diraddio yn mynd i mewn i’r ecosystem forol, a gallant achosi peryglon posibl i fordwyo.

Drwy gael gwared ar y cychod hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn anelu nid yn unig at fynd i’r afael â’r risgiau hyn, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ymhlith perchnogion cychod lleol er mwyn helpu i atal problemau tebyg yn y dyfodol.

Ni ddisgwylir y bydd y gwaith yn tarfu llawer ar aelodau’r cyhoedd, er y bydd rhwystrau diogelwch dros dro yn cael eu gosod o amgylch y safleoedd gwaith. Bydd swyddog y glannau hefyd yn bresennol i sicrhau gweithrediadau diogel. Nid oes bwriad i gau ffyrdd na llwybrau troed.

Ariannwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen Rhwydweithiau Natur i helpu i wella cyflwr safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.

Dywedodd Joanna Soanes, Rheolwr Prosiect Atal Sbwriel Môr a Chychod Adfeiliedig CNC:

“Mae’r ymgyrch lanhau ddiweddaraf hon yn gam pwysig arall yn ein gwaith parhaus i ddiogelu amgylchedd unigryw aber afon Dyfrdwy. Mae cychod gadawedig yn fwy na dolur llygad – maent yn gallu achosi llygredd, difrodi cynefinoedd, a chreu peryglon i ddefnyddwyr eraill y dŵr. Trwy weithio gyda’n partneriaid a pherchnogion cychod lleol, rydym yn gobeithio lleihau’r achosion o adael cychod, ac yn gobeithio cadw’r aber yn ddiogel ac yn lân i bawb.”