Chwilio am bartneriaid i wella profiadau ymwelwyr mewn cyrchfannau awyr agored yng Nghymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymarfer marchnata i ddod o hyd i'r partneriaid cywir i wella profiadau ymwelwyr, ac amddiffyn natur yr un pryd, a hynny mewn dwy o gyrchfannau awyr agored mwyaf unigryw Cymru.
Rydym yn chwilio am bartneriaid i redeg y Canolfannau Ymwelwyr a’r ardaloedd cyfagos, gyda’r opsiwn o adeiladau a thir ychwanegol, ym Mwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth, Ceredigion a Choed y Brenin, ger Dolgellau ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Gwynedd.
Mae Hyb Cymunedol y Borth eisoes yn darparu gweithgareddau, gweithdai a bwyd a diod yn llwyddiannus yn Hyb Natur Ynyslas, sef yr hen Ganolfan Ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Dyfi.
Esboniodd Neil Stoddart, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC:
“Mae hwn yn gyfle unigryw i adeiladu ar lwyddiant dwy o gyrchfannau awyr agored harddaf a mwyaf cyffrous Cymru.
“Rydym wedi cynllunio proses i roi’r cyfle, yr amser a’r gefnogaeth gywir i amrywiaeth o ddarpar bartïon â diddordeb fel y gallant wneud cynnig – boed hwy’n grwpiau cymunedol, mentrau bach a busnesau newydd neu fusnesau masnachol.
“Y nod yw dod o hyd i bartneriaid cynaliadwy, hirdymor a all wella’r safleoedd er budd cymunedau a busnesau lleol ac ymwelwyr, gan amddiffyn natur ar yr un pryd.”
Arweiniodd adolygiad strategol yn 2024 at roi’r gorau i wasanaethau manwerthu ac arlwyo a oedd yn cael eu darparu gan CNC yn y tair Canolfan Ymwelwyr ym mis Mawrth 2025. Roedd hyn yn caniatáu inni ganolbwyntio ein hadnoddau ar gyflawni ein cenhadaeth graidd i gefnogi adferiad natur, mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a lleihau llygredd.
Bydd yr ymarfer marchnata yn rhedeg tan Haf 2026 er mwyn caniatáu deialog gystadleuol gan amrywiaeth o gynigwyr posibl ac mae'n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Newmark, ymgynghorydd eiddo tirol masnachol.
Meddai Neil:
“Rydyn ni’n gwybod bod y safleoedd hyn yn arbennig i lawer o bobl ac rydyn ni’n diolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni hyd yn hyn.
“Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ac yn agored wrth geisio penodi’r partneriaid cywir i gydweithio â ni.
“Yn y cyfamser, rydym yn awyddus i bwysleisio bod y safleoedd yn dal i fod ar agor i bobl i’w mwynhau drwy gydol y flwyddyn.”
Mae llwybrau ac ardaloedd chwarae ar gael ar y safleoedd, ac mae ganddynt hefyd feysydd parcio a thoiledau. Mae ein cydweithwyr yn CNC hefyd yn gwneud gwaith pwysig i amddiffyn bywyd gwyllt a chynnal yr amgylchedd.
Ers amser maith, mae Bwlch Nant yr Arian yn adnabyddus am ei waith o fwydo barcutiaid bob dydd. Mae hefyd yn cynnig llwybrau cerdded, rhedeg, beicio a marchogaeth golygfaol wedi'u marcio a pharc sgiliau gyda thrac pwrpasol i feicwyr mynydd ymarfer eu techneg.

Coed y Brenin oedd canolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain, ac mae'n dal i fod yn un o brif gyrchfannau'r gamp, ac mae’n cynnig llwybrau i ddechreuwyr a rhai mwy technegol i feicwyr arbenigol. Mae yma siop feiciau ac ardal sgiliau i ddatblygu technegau beicio.
Mae safle Coed y Brenin - y tirweddau coediog ac afonydd golygfaol, hefyd yn cynnig llwybrau cerdded wedi'u marcio a rhai sy'n addas i deuluoedd, yn ogystal â mannau chwarae i blant a byrddau picnic.
Ym Mwlch Nant yr Arian, mae Y Consti, rhan o elusen leol, yn darparu diodydd a bwyd oer i ymwelwyr dros dro bum niwrnod yr wythnos rhwng 10am a 4pm. Mae cyfle dros dro tebyg hefyd yn cael ei hysbysebu yng Nghoed y Brenin.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr ymarfer marchnata gallwch ymweld â thudalennau Canolfan Ymwelwyr ar-lein neu gysylltu â’r asiantiaid trwy e-bostio leo.llewellyn@newmark.com neu ffonio 029 20381865.