Amynedd yn talu ar ei ganfed i rywogaeth brin yn Sir Benfro
Mae rhywogaeth brin o chwilen wedi’i darganfod yn Sir Benfro ar ôl tair blynedd o chwilio, gan gadarnhau y safle hwn fel yr unig leoliad yng Nghymru lle gellir dod o hyd iddi.
Mae’r chwilen Meloe brevicollis yn rhywogaeth ryfeddol sy’n gwbl ddibynnol ar wenyn unig am ei chylch bywyd. Ar ôl deor, mae larfâu’r chwilod yn dringo ar flodau cyfagos ac yn glynu wrth wenyn sy’n ymweld, gan deithio arnynt yn ôl i’w nyth. Yno maen nhw’n bwydo ar y paill y mae’r gwenyn yn ei gasglu nes iddyn nhw dyfu’n oedolion.
Mae angen cynefin penodol iawn ar y rhywogaeth hon i oroesi, un sy’n cynnwys pridd moel i ddodwy wyau, llystyfiant trwchus i lochesu a gorchudd trwchus o flodau i atgenhedlu. Mae’r amodau penodol hyn yn golygu mai dim ond llond llaw o safleoedd addas sydd yn y DU.
Mae Maes Hyfforddi Castellmartin, Sir Benfro, yn un o’r cynefinoedd prin hyn sy’n addas i’r chwilen ei alw’n gartref, ac mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn wedi ei arolygu a’i fonitro’n gyson fel rhan o brosiect y Gardwenynen Feinlais.
Mae’r prosiect, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ac sy’n rhan o raglen flaenllaw Cymru ar gyfer adfer rhywogaethau, Natur am Byth, yn gweithio i warchod y Gardwenynen feinlais yn ogystal â sawl rhywogaeth arall sy’n rhannu cynefinoedd tebyg fel y chwilen Meloe brevicollis, Gold y môr a’r Fioled welw.
Mewn arolygon yn 2022 a 2025, dim ond oedolion marw o’r chwilen benodol hon a ganfuwyd yng Nghastellmartin, ac felly bu pryderon ynghylch dyfodol y rhywogaeth hon a’i phresenoldeb ar y safle o hyd.
Yn yr arolygon diweddaraf yn 2026, darganfuwyd larfâu’r chwilod mewn rhan fechan o’r safle. Roedd nifer a dosbarthiad y larfâu a welwyd, ynghyd â’r adeg o’r flwyddyn, yn awgrymu bod arolygwyr wedi llwyddo i ddod o hyd i rai o’r larfâu wedi deor o gasgliad mwy o chwilod anaeddfed.
Dywedodd Anna Hobbs, swyddog cyflawni prosiectau ar gyfer Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn:
“Roedd yn gyffrous iawn dod o hyd i’r rhywogaeth hon a thystiolaeth ei bod yn bridio eto, yn enwedig o ystyried mai dyma fydd yr arolwg olaf ar gyfer y rhywogaeth ar gyfer ein prosiect.
“Mae’r chwilen hon yn greadur anhygoel, ac nid yn unig mae hi’n dibynnu ar gynefin penodol iawn i oroesi, ond ar bresenoldeb gwenyn unig hefyd. Felly, mae angen i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud ystyried anghenion sawl rhywogaeth er mwyn bod yn effeithiol.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid a’n gwirfoddolwyr am ddyfalbarhau gyda ni ar ôl dwy flynedd heb fod wedi gweld unrhyw larfâu, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i reoli’r safle fel y gall y rhywogaeth anhygoel hon oroesi nawr ac i’r dyfodol.”
Mae’r prosiect hwn, yn ogystal ag eraill o dan raglen Natur am Byth, yn cynnal arolygon a digwyddiadau gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn. Ewch i' wefan neu anfonwch e-bost at naturambyth@cyfoethnaturiol.cymru i ddysgu mwy.