Gwobr fawreddog ICE i brosiect LIFEquake
Mae llwyddiant gwaith adfer pwysig a gwblhawyd i wella lefelau dŵr ar ffen yr iseldir fwyaf Cymru wedi cael ei gydnabod yn un o ddigwyddiadau nodedig y diwydiant.
Derbyniodd yr ymyrraeth uchelgeisiol hon a gyflawnwyd drwy brosiect Corsydd Crynedig LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru wobr fawreddog y Cadeirydd yn seremoni wobrwyo Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) yn ddiweddar.
Mae Corsydd Crynedig LIFE, sy’n cael ei gyd-ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar adfer cynefinoedd corsydd crynedig prin. Mae enw’r corsydd hyn yn deillio o’r ffaith fod yr haenau dwfn o fawn dyfrlawn yn ‘crynu’ yn llythrennol o dan draed.
Roedd y wobr yn cydnabod gwaith llwyddiannus i glirio Camlas Glan y Wern, sy'n 2km o hyd, yng Nghors Crymlyn ger Abertawe. Mae'r gamlas hanesyddol a dorrwyd â llaw yn rhedeg trwy ganol y safle ac ystyriwyd bod y gwaith o’i chlirio yn arbennig o heriol oherwydd yr anawsterau sy'n gysylltiedig â thrin peiriannau trwm ar dir ansefydlog cors grynedig.
Mae mawndiroedd ymhlith asedau naturiol mwyaf gwerthfawr Cymru. Mae'r tirweddau hyn yn storio lefelau sylweddol o garbon, yn helpu i reoleiddio lefelau dŵr ac yn darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt. Mae cynnal yr amodau hydrolegol cywir yn hanfodol er mwyn iddynt barhau i gyflawni'r buddion hyn.
Mae’r gwaith o glirio'r gamlas, rhywbeth yr ystyrid ei fod yn annhebygol o lwyddo o’r blaen oherwydd amodau cymhleth y safle, wedi caniatáu i ddŵr symud yn fwy rhydd ar draws Cors Crymlyn. O ganlyniad, erbyn hyn gellir rheoli lefelau dŵr yn fwy effeithiol, gan greu gwell amodau ar gyfer mwsoglau sy'n ffurfio mawn a phlanhigion eraill allweddol y gwlyptir ffynnu.
Mae Gwobr y Cadeirydd yn cydnabod y dull peirianneg arloesol a fabwysiadwyd i adfer y cynefin mawndir pwysig hwn ac mae’n tynnu sylw at y cyfraniad cadarnhaol y mae prosiectau a gwaith cydweithio o'r fath yn ei wneud fel rhan o'n hymateb i argyfyngau natur a hinsawdd.
Meddai Gareth Thomas, rheolwr prosiect Corsydd Crynedig LIFE:
“Rydym yn ddiolchgar am y berthynas waith effeithiol sydd gennym gyda'n contractwyr ac rydym yn wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i gyd-gyflawni canlyniad mor arwyddocaol i Gors Crymlyn. Mae'n golygu llawer iawn bod y gwaith hwn wedi cael ei gydnabod fel enghraifft o arfer gorau gan arweinwyr o fewn y proffesiwn peirianneg.
"Mae'r wobr hon hefyd yn gyflawniad sylweddol ar gyfer cadwraeth natur. Mae gwobrau peirianneg yn aml yn cydnabod prosiectau adeiladu ar raddfa fawr, ond yn yr achos hwn mae peiriannau amffibiaidd arbenigol wedi cael eu defnyddio i adfer cynefin naturiol gwerthfawr a rhoi'r cyfle gorau posibl i natur adfer."
Meddai Ceri Davies, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn ymfalchïo ein bod wedi penodi'r contractwyr gorau i gefnogi ein gwaith a'n helpu i sicrhau canlyniadau mor ystyrlon ar gyfer natur. Rydym hefyd yn falch o gynnal prosiectau fel Corsydd Crynedig LIFE sydd mewn sefyllfa i neilltuo'r amser a'r adnoddau a goresgyn heriau enfawr fel hyn. Mae'n deimlad gwerth chweil gweld y cyfan yn dod i ben gyda chydnabyddiaeth mor arwyddocaol â'r wobr fawreddog hon. Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n cymryd rhan!”
Llun: Rheolwr prosiect LIFEquake, Gareth Thomas, gyda Gwobr Arbennig y Cadeirydd.