Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar waith i reoli risg tomen lo Penyrenglyn
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad cyn-ymgeisio ar gyfer gwaith draenio arfaethedig yn y domen lo segur ym Mhenyrenglyn, Rhondda Cynon Taf.
Mae'r domen lo wedi'i dosbarthu fel tomen Categori D, un o'r categorïau risg uchaf, ac ar hyn o bryd nid oes ganddi system ddraenio ffurfiol. Nod y gwaith yw lleihau'r risg o dirlithriadau trwy osod rhwydwaith o ddraeniau ar draws y domen i reoli ymdreiddiad dŵr.
Fel rhan o'r ymgynghoriad, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwahodd trigolion, rhanddeiliaid, a sefydliadau sydd â buddiant i adolygu'r cynigion drafft a rhannu eu barn.
Bydd adborth a gesglir yn ystod y cam hwn yn helpu i lunio'r dyluniad terfynol cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol i Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Bydd CNC yn cynnal sesiwn galw heibio gyhoeddus i siarad â'r gymuned yn uniongyrchol am y cynlluniau ddydd Llun 22 Medi 2025, 3:00pm – 7:00pm ym Mhrosiect Penyrenglyn / Neuadd Plant y Cymoedd ar Corbett Street, Penyrenglyn, CF42 5ET.
Bydd pobl yn gallu gweld cynlluniau drafft, siarad â thîm y prosiect, a gofyn cwestiynau am y gwaith arfaethedig.
Dywedodd Jak Canham, Rheolwr Prosiect ar gyfer CNC:
“Mae tirlithriadau diweddar ledled de Cymru wedi dangos pa mor hanfodol yw sicrhau bod tomenni glo segur yn ddiogel.
“Mae’r gwaith draenio arfaethedig ym Mhenyrenglyn yn gam rhagweithiol i leihau’r risg hon a gwella diogelwch hirdymor i’r gymuned.
“Rydym yn annog trigolion a rhanddeiliaid eraill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a mynychu’r sesiwn galw heibio i ddysgu mwy a rhannu eu barn cyn i ni gyflwyno cais ffurfiol.”
Mae'r ymgynghoriad ar agor o ddydd Iau 11 Medi 2025 tan ddydd Iau 9 Hydref 2025, ac mae manylion llawn y cynlluniau a sut i ymateb ar dudalen Rheoli Risg Tomen Lo Penyrenglyn.