Lansiwyd proses ar-lein ddiwygiedig ar gyfer Cynllun Rheoli Coedwig i gefnogi rheoli coetiroedd yn y tymor hwy
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyflwyno proses ymgeisio symlach ar gyfer Cynllun Rheoli Coedwig er mwyn hwyluso’r broses gymeradwyo i berchnogion a rheolwyr coetiroedd ar gyfer rheoli coetiroedd yn y tymor hir.
Mae Cynlluniau Rheoli Coedwig yn cefnogi rheoli coetiroedd yn gynaliadwy drwy ddarparu caniatadau i gwympo coed ar gyfer cyfnodau hwy, gan helpu perchnogion a rheolwyr coetiroedd i fabwysiadu dull mwy strategol o gynllunio gweithrediadau a rheoli eu coetiroedd ar gyfer y dyfodol.
Mae'r broses ddiwygiedig sydd wedi'i datblygu mewn ymateb i adborth gan ymgeiswyr a rhanddeiliaid, yn disodli system gymhleth ar bapur â phroses ymgeisio dan arweiniad ar-lein, sydd wedi'i chynllunio i fod yn gliriach, yn fwy hygyrch ac yn haws ei chwblhau.
Mae'r cais newydd yn cynnwys canllawiau cam wrth gam integredig, sy’n cefnogi ymgeiswyr o'r camau paratoi a chyflwyno cyntaf hyd at reoli Cynllun Rheoli Coedwig cymeradwy.
Bellach bydd ceisiadau newydd yn cael eu cyflwyno drwy'r broses newydd hon. Bydd Cynlluniau Rheoli Coedwig cymeradwy sy’n bodoli a cheisiadau sydd eisoes ar y gweill yn parhau heb newid.
Mae'r dull newydd hefyd yn dal i ddarparu hyblygrwydd trwy ddefnyddio goddefiannau gweithredol o fewn Cynlluniau Rheoli Coedwig cymeradwy, gan helpu perchnogion a rheolwyr coetiroedd i ymateb i amgylchiadau newidiol tra byddant yn aros o fewn fframwaith cytunedig eu cynllun.
Meddai Melanie Meaden, Prif Gynghorydd Arbenigol – Coedwigaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym wedi gweithio'n agos â pherchnogion coetiroedd, gweithwyr proffesiynol ym maes coedwigaeth a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu proses Cynllun Rheoli Coedwig sy'n symlach, yn gliriach ac yn haws ei defnyddio.
“Mae rheoli coetiroedd yn dda yn chwarae rhan bwysig wrth helpu Cymru i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur drwy gefnogi bioamrywiaeth, gwella gwydnwch coetiroedd a sicrhau bod coetiroedd yn parhau i ddarparu buddion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol i bobl a chymunedau.
“Mae'r broses ddiwygiedig yn canolbwyntio ar yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cymeradwyaeth reoleiddiol, gan helpu i leihau baich gweinyddol diangen tra'n cynnal y safonau sy'n ofynnol ar gyfer rheoli coetiroedd yn gynaliadwy.
“Gobeithiwn y bydd y gwelliannau hyn yn annog mwy o ddefnydd o Gynlluniau Rheoli Coedwig ac yn gwneud cynllunio rheoli coetiroedd hirdymor yn fwy hygyrch i berchnogion a rheolwyr coetiroedd ledled Cymru.
“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y sector yn croesawu'r newidiadau hyn. Maen nhw wedi'u llunio i wneud y broses yn symlach, ac ar yr un pryd rhoi hyder i dirfeddianwyr a rheolwyr gynllunio ar gyfer y tymor hir.”
Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â Safon Coedwigaeth y DU (2023) a deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2024.
Bydd y broses Cynlluniau Rheoli Coedwig ddiwygiedig hefyd yn cefnogi cyfleoedd ariannu ar gyfer rheoli coetiroedd yn y dyfodol; disgwylir i gyllid ar gyfer ceisiadau am Gynlluniau Rheoli Coedwig fod ar gael drwy Gynllun Rheoli Coetiroedd Llywodraeth Cymru o 2027 ymlaen.
Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar y broses ymgeisio newydd ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cael a chynnal cynllun rheoli coedwig: cam wrth gam
Llun gan John Briggs