Datganiad ar bryderon llygredd yn Afon Tywi
Dywedodd Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau De-orllewin CNC:
“Ers derbyn adroddiadau tybiedig o lygredd, mae swyddogion CNC wedi bod yn yr ardal yn cynnal ymweliadau safle ac yn cymryd samplau amgylcheddol fel rhan o'n hymchwiliad.
“Mae ein timau wedi casglu tystiolaeth ac wedi asesu amodau yn Afon Tywi ac o'i chwmpas.
“Mae'r samplu a'r dadansoddi a gwblhawyd hyd yn hyn wedi nodi algâu morol. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae algâu morol sy'n digwydd yn naturiol yn gyffredin, a gallant ddod yn fwy amlwg yn ystod cyfnodau o dywydd cynhesach a mwy o heulwen.
“Gall ymddangos fel ewyn, llysnafedd, dŵr afliwiedig neu ddyddodion ar hyd y draethlin. Mae adroddiadau am arogleuon hefyd yn cyd-fynd ag amseroedd llanw, sy'n gallu crynodi algâu a’u symud.
“Ar wahân i bresenoldeb algâu, mae ein hymchwiliadau'r wythnos hon hefyd wedi ein harwain at sefydlu ffynhonnell bosibl o lygredd i mewn i afon Tywi, yr ydym yn ymchwilio ymhellach. Ni allwn ryddhau rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd, er mwyn osgoi peryglu gamau gorfodi yn y dyfodol.
“Rydym yn deall pryderon pobl am Afon Tywi ac rydym yn cymryd pob adroddiad am lygredd posibl o ddifrif. Mae CNC yn rheoleiddio gweithgareddau ar draws dalgylch Afon Tywi ac, ar hyn o bryd, mae ganddo nifer o achosion gorfodi parhaus sy'n ymwneud â gweithgareddau ar hyd yr afon, gan gynnwys achosion sy'n agosáu at achosion llys. Pan fyddwn yn dod o hyd i dystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio, byddwn yn cymryd y camau priodol.
“Dylai unrhyw un sy'n dyst i achosion tybiedig o lygredd roi gwybod i CNC cyn gynted â phosibl drwy ein llinell gymorth digwyddiad 24/7 ar 0300 065 3000 neu drwy ein gwasanaeth adrodd ar-lein fel y gallwn ymateb yn gyflym.”