Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi Prosiect SIARC i ddiogelu siarcod a morgathod Cymru ar y cyd â chymunedau lleol
Cyhoeddwyd heddiw bod ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn cefnogaeth gychwynnol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Prosiect SIARC – *Siarcod yn Ysbrydoli Gweithredu ac Ymchwil gyda Chymunedau*.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae cyllid datblygu o £394,072 wedi’i ddyfarnu i helpu Prosiect SIARC i fwrw ymlaen â’i gynlluniau i wneud cais am grant llawn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn y dyfodol.
Nod Prosiect SIARC yw sicrhau bod elasmobranciaid sydd dan fygythiad (siarcod a morgathod) a chymunedau arfordirol amrywiol yn elwa o ymchwil a chadwraeth forol gynhwysol yng Nghymru.
Mae siarcod a morgathod yn rhan bwysig o dreftadaeth naturiol a diwylliannol Cymru, gan chwarae rhan allweddol mewn moroedd iach a bywoliaeth pobl leol.
Bydd y cyllid hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn helpu i fynd i'r afael â bylchau hollbwysig yn y wybodaeth am y rhywogaethau hyn ac yn meithrin cysylltiad cryfach rhwng cymunedau arfordirol a'u hamgylchedd morol lleol, gan gefnogi gwaith cadwraeth sy'n fwy effeithiol ac yn fwy cynhwysol.
Mae Prosiect SIARC yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Prifysgol Abertawe a The Shark Trust, gyda chefnogaeth rhwydwaith o 40 o bartneriaid cyswllt a chydweithwyr sy'n cyflawni'r prosiect gyda'i gilydd.
Drwy gydweithio â physgotwyr ledled Cymru, mae'r prosiect eisoes wedi gwella'r ddealltwriaeth wyddonol o'r maelgi – rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol o ddiflannu – yn nyfroedd Cymru, ac wedi tynnu sylw at sut y gall gwyddoniaeth flaengar, fel telemetreg acwstig a DNA amgylcheddol, weithio ochr yn ochr â gwybodaeth ecolegol leol i fonitro siarcod yng Nghymru.
Bydd y cyllid hwn yn galluogi'r prosiect i gryfhau cyfleoedd i bobl a sefydliadau lleol gymryd rhan yn y gwaith o ddiogelu siarcod a morgathod ar draws dau o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) Cymru – Pen Llŷn a'r Sarnau yng Ngogledd Cymru, a Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd yn ne'r wlad.
Mae gan y prosiect Strategaeth Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bydd gwaith yn parhau i ddileu'r rhwystrau sy'n atal rhai grwpiau – yn enwedig pobl ifanc a menywod – rhag cael mynediad at yr amgylchedd morol. Er enghraifft, hyd yma, mae'r prosiect wedi cyd-gyflwyno interniaeth pysgotwr ifanc, wedi cyd-ddylunio adnoddau gyda chymunedau lleol, ac wedi darparu cyfleoedd amrywiol i wirfoddolwyr o'r cyhoedd gymryd rhan mewn digwyddiadau SIARC.
Bydd y gwaith hwn yn cryfhau'r ddealltwriaeth o ecoleg rhywogaethau ac yn cyfrannu at well rheolaeth ar yr ardaloedd gwarchodedig hyn. Drwy rannu gwybodaeth, dyfnhau’r cydweithredu ac ymgorffori dulliau teg, y nod yw bod cadwraeth forol yn cael effaith fawr ar draws y ddau safle.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:
"Rydym yn falch o fod yn cefnogi cam datblygu Prosiect SIARC. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y cyllid hwn yn helpu'r prosiect i gryfhau ei gynlluniau, meithrin partneriaethau lleol a gweithio gyda chymunedau i lunio dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer treftadaeth forol ac arfordirol Cymru."
Dywedodd Joanna Barker, Rheolwr Rhaglen Project SIARC ZSL:
"Rydym yn hynod gyffrous i dderbyn y gefnogaeth hon gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i ehangu ein gwaith gyda chymunedau arfordirol i ddiogelu rhai o’r siarcod prinnaf yn ein moroedd – o faelgwn gosgeiddig i gŵn glas mudol. Drwy gefnogi ein gwaith i gyd-gynllunio cadwraeth gyda chymunedau lleol a chysylltu pobl â’r bywyd morol sydd ar garreg eu drws, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ein helpu i gefnogi pobl a bywyd gwyllt yng Nghymru."
Ychwanegodd Ben Wray, Ecolegydd Morol a Rheolwr Prosiect SIARC yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio sicrhau buddion gwirioneddol i bobl a natur yng Nghymru.” Drwy gysylltu cymunedau’n agosach â’u moroedd lleol, gallwn helpu i ddiogelu rhywogaethau sydd dan fygythiad, fel siarcod a morgathod, gan gefnogi lles ac ysbrydoli gofal hirdymor am ein hamgylchedd morol. Mae hyn wedi rhoi’r cyfle i ni ddatblygu dull gweithredu sy’n rhoi pobl wrth wraidd cadwraeth.”