Dirwy i drydydd dyn am ddifrod i SoDdGA wedi'i ddal ar TikTok
Mae dyn o Lerpwl a oedd yn un o grŵp a achosodd ddifrod difrifol i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac a bostiodd ddelweddau a fideos ar TikTok yn ddiweddarach wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) sy'n ei wahardd rhag ymweld a SoDdGA Y Berwyn, sef ardal o dros 254 km2, am dair blynedd.
Cafodd hefyd ei orchymyn gan Ynadon Wrecsam i dalu dros £2,000.
Mewn achos a gafodd ei ddwyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru, roedd Joseph Hodgson, 23 oed, yn un o dri dyn a gafodd eu heuogfarnu o achosi difrod difrifol i SoDdGA y Berwyn yn Sir Ddinbych, ar 1 Mehefin 2025.
Teithiodd saith cerbyd 4x4 gyda'i gilydd i SoDdGA y Berwyn, ac yn dilyn ymchwiliad llwyddodd swyddogion CNC i ddarganfod ceidwaid cofrestredig y cerbydau.
Mewn gwrandawiad ym mis Awst, cafodd dau o'r diffynyddion, sef John Robinson a Michael Williams, y ddau o Lerpwl, eu heuogfarnu o'r troseddau. Cafodd y ddau ddirwy a'u gwahardd rhag gyrru am 2 fis.
Nid oedd Joseph Hodgson yn bresennol yn y Llys ar y pryd, ond cafwyd ef yn euog o ddifrod troseddol yn ei absenoldeb, ar sail y rheol menter ar y cyd.
Gorchmynnwyd i Hodgson dalu iawndal o £1,000 am ddifrodi'r SoDdGA, costau o £1,000, £50 am ddifrod troseddol a £30 o iawndal am ddifrod troseddol.
Cafodd hefyd Orchymyn Ymddygiad Troseddol tair blynedd o hyd, gan fod y troseddau wedi'u cyflawni tra roedd o dan orchymyn cymunedol am droseddau cefn gwlad tebyg.
Yn ystod yr ymchwiliad, dewisodd Hodgson beidio â chydweithredu â CNC na mynychu cyfweliad. Dywedodd ei fod wedi gwerthu ei gerbyd, ond canfu’r ymchwiliad yn ddiweddarach ei fod yn un o'r bobl a oedd wedi postio fideos TikTok a gellid ei weld yn gyrru ar y cynefin gwarchodedig.
Teithiodd saith cerbyd o Lerpwl i Sir Ddinbych mewn confoi i yrru oddi ar y ffordd, gan yrru i gefn gwlad lle na chaniateir mynediad i gerbydau ac i SoDdGA y Berwyn, safle gwarchodedig o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.
Dangosodd tystiolaeth CNC fod y cerbydau wedi gyrru dros 3km o dir preifat i gopa Moel Fferna, gan adael marciau teiars a difrod mewn cynefinoedd mawn a gorgors – y ddau ohonynt yn brin ac wedi'u gwarchod. Dywedodd CNC fod y difrod yn amlwg ac yn bosibl ei osgoi oherwydd maint y cerbydau a bregusrwydd y cynefin.
Roedd cyfrif TikTok sy'n gysylltiedig â'r unigolion yn dangos delweddau a fideos yn lleoli’r diffynyddion a'u cerbydau ar y safle. Roedd y ffilm yn eu dangos yn achosi difrod difrifol i gynefin y mawn a’r gors, gan adael traciau dwfn wrth fynd i mewn i'r gorgors.
Dangosodd TikTok ddau gerbyd, gan gynnwys un a oedd yn berchen i Hodgson, yn mynd yn sownd ac yn cael eu tynnu allan, gan achosi difrod pellach i'r amgylchedd gwarchodedig. Tynnodd aelodau eraill y grŵp y ddau gerbyd hyn yn rhydd, ac ychwanegodd y gweithredoedd hyn at y difrod i’r cynefin.
Dywedodd Kirsty Roberts ar ran CNC:
“Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wedi’u dynodi a’u gwarchod oherwydd eu bod yn cefnogi bywyd gwyllt prin a bregus pwysicaf y DU. Mae gorgorsydd yn arbennig o sensitif. Unwaith y cânt eu torri i fyny gan rigolau dwfn, gall hyn newid cydbwysedd y dŵr am flynyddoedd gan beri i’r cynefin ddirywio a lleihau’r lle storio ar gyfer carbon.
“Mae gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd hefyd yn effeithio ar ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n rheoli’r tirweddau gwaith hyn sy’n eiddo preifat, gan amharu ar weithrediadau ffermio, cynyddu costau, a thanseilio ymdrechion cadwraeth hirdymor.
“Rydym yn cymryd camau lle mae safleoedd gwarchodedig yn cael eu difrodi, ac anogwn bawb sy'n defnyddio cefn gwlad i ddilyn arwyddion, cadw at lwybrau cyfreithlon, a helpu i ddiogelu'r mannau hyn sy'n bwysig yn genedlaethol.
“Hoffem ddiolch hefyd i'r tirfeddianwyr, y cerddwyr a'r gwirfoddolwyr sy'n diogelu'r amgylchedd yn gyfreithlon, er gwaethaf ofn a chamdriniaeth gan y rhieni oedd yn gyrru ac yn difrodi'r safle Cymreig hwn o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn anghyfreithlon.”
Mae unrhyw weithgarwch, gan gynnwys defnydd heb awdurdod o gerbydau, sy’n achosi difrod i unrhyw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn drosedd o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (fel y’i diwygiwyd). Mae gan CNC bwerau i ymchwilio a chymryd camau gorfodi.
Rhowch wybod i’r heddlu am bobl sy'n gyrru'n anghyfreithlon yng nghefn gwlad, ac ar safleoedd gwarchodedig, drwy ffonio 101, neu rhowch wybod i CNC drwy ffonio 0300 065 3000.