Llwyddiant Treialu Rhoi Geifr i Bori

Mae staff cadwraeth yn dathlu llwyddiant ar ôl treialu rhoi geifr i bori yng Nghreigiau Stanner, Powys a gweld gwelliant amlwg yng nghynefin dau o’r bryoffytau sy’n wynebu’r perygl mwyaf yng Nghymru.

Mae prosiect Gororau Cymru, sy’n rhan o raglen gadwraeth flaenllaw Cymru, Natur am Byth (NaB), wedi bod yn gweithio ers ei sefydlu yn haf 2023 i ddiogelu cytrefi o’r Afal-fwsogl unionsyth (Bartramia aprica) a’r Grisial-lys du (Riccia nigrella). Mae’r prosect yn posibl diolch i cronfa gan Cronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol.

Creigiau Stanner yw’r unig le yn y DU ble mae’r dau rhywogaeth hyn yn tyfu ac roedd y ddau mewn perygl o gael eu difa’n llwyr yn sgil gordyfiant mieri ac eithin a oedd yn gwneud yr ardal yn anhyfyw iddynt.

Mae bryoffytau, sy’n cynnwys llysiau’r afu, cornllys a mwsoglau, yn chwarae rhan allweddol mewn ecosystemau creigiog sy’n debyg i rai Môr y Canoldir yng Nghreigiau Stanner. Maent yn cynnig micro-gynefinoedd i infertebratau, yn sbarduno pridd i ffurfio ac yn fio-ddangosyddion rhagorol sy’n caniatáu i ni fonitro llygredd y dŵr a’r aer.

Er mwyn amddiffyn y ddwy rywogaeth hon sydd mewn perygl o ddiflannu’n llwyr, penderfynodd NaB, Plantlife Cymru a Grazing Management Limited dreialu rhoi geifr i bori ar y safle i weld a allent leihau faint o lysdyfiant sy’n cysgodi’r mwsoglau.  

I gychwyn, rhoddwyd tair o eifr Bagot llawndwf, a hyfforddwyd gan ddefnyddio geo-goleri ‘di-ffens’, mewn ardaloedd nad ydynt yn sensitif yng Nghreigiau Stanner, er mwyn profi effeithiolrwydd y coleri ac i weld pa mor dda y gallai’r geifr lywio’r ardal greigiog.

Yna symudodd y geifr i ardaloedd lle gwyddys bod yr Afal-fwsogl unionsyth (Bartramia aprica) yn tyfu, gan glirio ardaloedd mawr o ordyfiant i greu cynefin croesawgar i’r rhywogaeth o fwsogl. At hynny, yn sgil clirio’r prysgwydd hwn daethpwyd ar draws cytref a oedd gynt yn anhysbys ac sydd bellach yn gallu ymadfer a lledaenu.

Dywedodd Josie Bridges, swyddog prosiect Gororau Cymru ar gyfer NaB:

“Rydym wrth ein bodd yn gweld bod y treial wedi llwyddo i gryfhau’r cynefin i’n cytrefi o’r Afal-fwsogl unionsyth ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu’r gwaith clirio i fynd i’r afael ag ardaloedd sy’n effeithio ar y Grisial-lys du yn fuan.

“Mae’r rhywogaethau hyn yn bwysig iawn ond yn hynod brin a heb waith fel hyn i’w diogelu, yna mae perygl y cânt eu colli am byth.

“Mae gweithiau diwydiannol hanesyddol wedi arwain at ddirywiad difrifol ym mhoblogaethau llawer o rywogaethau yng Nghymru. Diolch i raglenni cadwraeth fel Natur am Byth sy’n gweithio gyda phartneriaid angerddol fel Plantlife Cymru, gallwn weithio i unioni’r difrod a wnaed yn y gorffennol a sicrhau eu bod yn goroesi at y dyfodol.”

Dywedodd Ellie Baggett, Swyddog Prosiect Plantlife Cymru ar gyfer NaB:

“Mae adfer cynefinoedd y bryoffytau arbennig hyn sydd ar fin diflannu’n llwyr o Gymru yn garreg filltir enfawr o ran ymdrechion arloesol partneriaethau cadwraeth.

“Mae’r rhywogaethau ‘Môr y Canoldir’ hyn yn dibynnu ar amodau sych ac agored, ond nes i ni benderfynu rhoi’r geifr Bagot gwydn ar y brigiadau creigiog sy’n hoff gan y bryoffytau hyn, roeddent yn colli tir fwyfwy i’r prysgwydd a oedd yn ymledu ac yn eu cysgodi.

“Mae’r rhywogaethau prin hyn, sydd wedi dirywio yn sgil chwarela ac sy’n wynebu bygythiadau gan lygredd yr aer, yn dal eu gafael ar rai o’r creigiau hynaf yng Nghymru. Mae’n briodol bod un o’r bridiau hynaf o afr ym Mhrydain – a’u hoffter o bori mieri a drain duon yn hytrach na glaswellt – wedi camu i’r adwy yn yr unfed awr ar ddeg.”

Disgwylir i’r treial ymestyn i ardal ehangach ar draws Creigiau Stanner a chynyddu nifer y geifr ar y safle i 11.