Diweddariad i ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd cyn i'r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo ddod i ben yn ei dair canolfan ymwelwyr ar 31 Mawrth.
Bydd yr holl lwybrau, meysydd parcio, ardaloedd chwarae a chyfleusterau toiled ym Mwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin yn parhau i fod ar agor.
Hoffem roi sicrwydd i'r cyhoedd y bydd y gwaith pwysig a wneir i ddiogelu bywyd gwyllt a chynnal y safleoedd hyn yn parhau i gael ei oruchwylio gan ein staff rheoli tir.
Dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC:
"Rydym yn deall pa mor bwysig yw ein safleoedd i gymunedau lleol ac ymwelwyr a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi dangos diddordeb a rhannu gohebiaeth gyda ni am y mater hwn.
"Hoffem ailadrodd a sicrhau’r cyhoedd y bydd yr holl lwybrau, meysydd parcio, ardaloedd chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau i fod ar agor a bydd rheolaeth y safleoedd yn aros gyda'n staff rheoli tir fel y mae ar hyn o bryd.
"Rydym bellach yn canolbwyntio'n gadarn ar y broses o ddod o hyd i bartneriaid i gofrestru diddordeb mewn darparu gwasanaethau ym Mwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin.
"Ar hyn o bryd rydym yn y broses o gadarnhau sut a phryd y byddwn yn cyflwyno’r cyfleoedd hyn i’r farchnad ac rydym yn gobeithio cyfathrebu mwy o wybodaeth yn fuan.
"Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth gan ein bod yn gwybod eich bod chi'n awyddus i wybod beth yw’r camau nesaf, ond rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n ei wneud yn iawn er mwyn osgoi dryswch ac unrhyw broblemau posibl yn y dyfodol.
"Mae'n bwysig cymryd yr amser angenrheidiol nawr i sicrhau proses llyfn yn nes ymlaen.
"Hoffem ddiolch eto i bawb am eu diddordeb a'u hangerdd mewn perthynas â'n safleoedd wrth i ni symud ymlaen gyda cham nesaf y broses."
Ni fydd Ynyslas yn cael ei gynnig at ddefnydd masnachol a bydd CNC yn edrych ar ddibenion cymunedol ar gyfer y safle. Mae'r broses hon yn parhau.
Fel gyda'r holl dir rydyn ni'n ei reoli, mae aelodau'r cyhoedd yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain ac unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda nhw yn ystod eu hymweliad, gydag arwyddion yn eu lle i rybuddio o unrhyw beryglon.
Mae hefyd yn bwysig atgoffa ymwelwyr mai eu cyfrifoldeb nhw yw eu sbwriel neu wastraff, ac rydym yn annog y cyhoedd i ddilyn y canllawiau a nodir yn y Cod Cefn Gwlad ac i beidio â gadael unrhyw olion o'u hymweliadau.
Byddwn yn rheoli llygredd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys tipio anghyfreithlon, drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys monitro safleoedd, teledu cylch cyfyng ac adrodd gan y cyhoedd i'n llinell ddigwyddiadau 24 awr 03000 65 3000 neu drwy Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad
Am ragor o fanylion ynglŷn ag ymweld â’n safleoedd, ewch i’n tudalennau gwe penodol drwy chwilio am safleoedd Bwlch Nant yr Arian, Ynyslas neu Goed y Brenin ar-lein.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth gan gynnwys ymatebion i nifer o gwestiynau am y safleoedd ar ein Hwb ymgynghori Citizen Space.