Cymru yn arwain y DU gydag asesiad yn nodi 3,000 o 'Rywogaethau mewn Perygl'
Gall cymryd mesurau syml, cost-effeithiol nawr adeiladu gwytnwch a helpu i sicrhau dyfodol rhywogaethau mwyaf agored i niwed Cymru, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw wrth i astudiaeth newydd gan y corff amgylcheddol ddatgelu bod bron i 3,000 o rywogaethau yn bodoli mewn pum lleoliad neu lai ledled Cymru.
Mae'r adroddiad 'Rhywogaethau mewn Perygl' yn golygu mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i nodi ei rhywogaethau prinnaf yn seiliedig ar ba mor gyfyngedig yn ddaearyddol ydyn nhw, yn hytrach na defnyddio dulliau asesu traddodiadol.
Ers y mileniwm, mae un ar ddeg o rywogaethau eisoes wedi diflannu yng Nghymru, gan gynnwys y Turtur a'r gwyfyn Rhisgl y Morfa. Mae'r adroddiad newydd yn nodi rhywogaethau sydd wedi dirywio bron i ddifodiant, gan gynnwys y gragen las Conventus conventus, y mwsogl Tomentypnum nitens a’r cen Cetraria sepincola.
Mae adroddiad CNC yn tynnu sylw at y ffaith bod bron i hanner y 2,955 o rywogaethau a nodwyd yng Nghymru wedi'u cyfyngu i leoliadau unigol, gan danlinellu'r angen am weithredu ar frys i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac i adeiladu gwytnwch ein hecosystemau.
Mae'r adroddiad hefyd yn canfod y gellir amddiffyn llawer o'r rhywogaethau mewn perygl yn well trwy gamau cymedrol a chost-effeithiol.
Mae'r asesiad yn cwmpasu ystod anhygoel o fywyd, o'r glöyn byw fritheg brown a’r chwilen amryliw’r Wyddfa i gennau coed hynafol ym Mharc Dinefwr. Mae rhai mannau cadwraeth yn rhyfeddol, gyda Coedwig a Chwningar Niwbwrch yn unig yn cefnogi 130 o rywogaethau mewn perygl.
Mae gan Gymru gyfrifoldeb unigryw am 56 o rywogaethau, nad ydynt i'w cael yn unman arall yn y DU. Mae hyn yn gwneud y gwaith yn arwyddocaol yn rhyngwladol ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth.
Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae'r adroddiad hwn yn ei gwneud hi'n glir nad ydym yn unig 'mewn perygl' o weld rhywogaethau yn diflannu yng Nghymru, mae eisoes yn digwydd. Fel gwlad, mae angen i ni gymryd y bygythiad o ddifrif.
"Er gwaethaf y realiti anodd hwn, mae'n galonogol bod modd gwneud llawer i amddiffyn y rhywogaethau hyn trwy fuddsoddi cymedrol a gwneud newidiadau cymharol fach i'r ffordd yr ydym yn rheoli ein tirweddau.
"Mae'r newidiadau yma’n aml yn ymwneud ag addasu pan fydd llystyfiant yn cael ei dorri, rheoli twf llystyfiant diangen, neu wneud yn siŵr bod y patrymau pori cywir yn eu lle. Mae'r adroddiad Rhywogaethau mewn Perygl yn rhoi'r fframwaith i ni wneud y newidiadau hynny.
"Gyda thri chwarter y rhywogaethau hyn eisoes ar safleoedd gwarchodedig, mae gennym y fframwaith i weithredu."
Mae'r adroddiad yn categoreiddio pob rhywogaeth yn ôl pam ei bod yn cael ei hystyried mewn perygl - boed hynny oherwydd dirywiad, prinder naturiol, tan-gofnodi, bod ar gyrion ei amrediad, neu fod yn rhywogaeth sydd wedi lledaenu i Gymru yn ddiweddar.
Mae'r adroddiad wedyn yn asesu pob rhywogaeth yn erbyn 17 o fygythiadau allweddol gan gynnwys colli cynefinoedd a newid yn yr hinsawdd.
Mae CNC eisoes yn cymryd camau rhagweithiol i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth drwy Natur am Byth, rhaglen Adfer Rhywogaethau blaenllaw Cymru. Mae'r bartneriaeth hon uno naw elusen amgylcheddol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflwyno'r rhaglen etifeddiaeth naturiol ac estyn allan fwyaf Cymru i achub rhywogaethau rhag difodiad.
Ochr yn ochr â hyn, mae CNC yn gwella ac yn cysylltu cynefinoedd ledled Cymru drwy'r Rhaglen Rhwydweithiau Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen hon gwerth £26.6m yn mynd i'r afael â'r argyfwng natur drwy roi hwb i fioamrywiaeth, gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig, a chryfhau gwytnwch a chysylltedd cynefinoedd a rhywogaethau.
Bydd y canfyddiadau yn llywio sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli Safleoedd Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol ac yn cyfrannu at Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol Cymru. Mae canfyddiadau'r adroddiad wedi'u rhannu â swyddogion cadwraeth CNC ar lawr gwlad i helpu i lywio eu gwaith.
Gallai'r dull Rhywogaethau mewn Perygl fod yn dempled i genhedloedd ledled y byd, gan ddangos sut i adnabod rhywogaethau sydd o dan fygythiad y gallai asesiadau traddodiadol eu colli, a chydlynu gweithredu cadwraeth ar lefel genedlaethol.
Darllenwch yr adroddiad Rhywogaethau mewn Perygl (Rhagair a chrynodeb yn y Gymraeg yn unig).
Llun gan Dom William, Butterfly Conservation.