Rhybuddion wrth i Storm Ciarán ddod â pherygl llifogydd i Gymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i fod ar eu gwyliadwriaeth o ran llifogydd gan fod disgwyl i Storm Ciarán ddod â glaw pharhaus, a glaw trwm mewn mannau, ledled Cymru o ddydd Mercher (1 Tachwedd) a thrwy gydol dydd Iau (2 Tachwedd) yr wythnos hon.

Disgwylir y glawiad uchaf yn Ne Cymru ond mae disgwyl i rannau helaeth o Gymru brofi glaw trwm a allai achosi i afonydd sydd eisoes wedi chwyddo godi'n gyflym wrth i law daro tir dirlawn.

Mae disgwyl gwyntoedd cryfion hefyd ar hyd De a Gorllewin Cymru lle gallai tonnau mawr hefyd achosi llifogydd arfordirol.

Cyn i Storm Ciarán gyrraedd, mae disgwyl hefyd i law trwm ddisgyn ar draws Cymru heno a dros nos.

Mae timau ymateb i ddigwyddiadau CNC yn gweithio gydag ymatebwyr brys eraill ac awdurdodau lleol i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel. Mae timau allan yn cadarnhau bod amddiffynfeydd llifogydd mewn cyflwr da, yn clirio gylïau a ffosydd ac yn gosod amddiffynfeydd dros dro lle bo angen i helpu i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau. 

Mae pobl yn cael eu hannog i ystyried unrhyw gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd nawr i fod yn barod, ac i gymryd gofal ychwanegol os oes angen i chi deithio:

  • Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd neu drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.
  • Edrychwch ar y tudalennau rhybuddion llifogydd ar wefan CNC i gael negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a a Rhybuddion Llifogydd lleol. Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru bob 15 munud.
  • Meddyliwch sut y gallwch chi baratoi eich cartref a'ch busnes nawr. Symudwch bethau gwerthfawr a cherbydau i leoliad uwch a meddyliwch am bacio pecyn llifogydd. Mae gan wefan CNC amrywiaeth o wybodaeth ar sut y gall pobl baratoi ar gyfer llifogydd.

Bydd CNC yn cyhoeddi negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a Rhybuddion Llifogydd os yw afonydd yn cyrraedd lefelau penodol a bydd ein timau'n monitro lefelau 24 awr y dydd. 

Mae negeseuon llifogydd: byddwch yn barod yn golygu bod llifogydd yn bosib, mae rhybuddion llifogydd yn golygu bod disgwyl llifogydd, ac mae rhybuddion llifogydd difrifol yn golygu bod bygythiad i fywyd ac y disgwylir problemau sylweddol.

Dywedodd Katie Davies, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC:

"Gallai'r glaw a ragwelir ar hyn o bryd yn sgil Storm Ciarán achosi llifogydd sylweddol yr wythnos hon, yn enwedig ar draws De Cymru, ac rydym yn annog pobl i fod yn barod ac i baratoi.
"Mae gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae'r sefyllfa lle rydych chi'n byw yn bwysig iawn. Gallwch weld beth yw lefel eich perygl llifogydd a'r rhybuddion llifogydd diweddaraf ar ein gwefan sy'n cael ei hadnewyddu bob 15 munud. Cadwch lygad ar @NatResWales ar (X)Twitter am y wybodaeth ddiweddaraf a gwrandewch ar adroddiadau tywydd a newyddion lleol am fanylion unrhyw broblemau yn eich ardal.
"Mae ein timau'n gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r risg i gymunedau, ond os oes llifogydd rydym am sicrhau bod pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw eu hunain yn ddiogel hefyd. Rydym yn annog pobl i gadw draw o afonydd sydd â llif uchel, ac i beidio gyrru neu gerdded trwy ddŵr llifogydd - mae'n aml yn ddyfnach nag y mae'n ymddangos ac yn cynnwys peryglon cudd."

Mae negeseuon llifogydd: byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud ac maent ar gael i'w gweld yn www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd

Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy gyfrif X (Twitter gynt) Cyfoeth Naturiol Cymru: @NatResWales