Gwaith samplu ansawdd dŵr yn cychwyn o flaen y tymor ymdrochi

Wrth i’r tywydd gynhesu ac wrth i bobl ar hyd a lled Cymru gynllunio ymweliadau â’u hoff draethau ac afonydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau ei raglen flynyddol o brofi ansawdd dŵr ymdrochi i helpu i sicrhau bod y dyfroedd hyn yn dal i fod yn ddiogel i’r cyhoedd eu mwynhau.
Eleni, mae 112 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig, a fydd yn cael eu samplu sawl gwaith rhwng 15 Mai a 30 Medi, yn unol â Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien wedi’u hychwanegu at y rhestr o ddyfroedd dynodedig, yn dilyn cais llwyddiannus.
Caiff samplau sy’n cael eu casglu o safleoedd dynodedig eu hanfon i labordy CNC yn Abertawe, ble cânt eu profi am bresenoldeb Escherichia coli (E. coli) ac enterococci perfeddol (IE) — sy’n ddangosyddion allweddol o ansawdd dŵr a pheryglon iechyd posibl.
Yna defnyddir y canlyniadau samplu o’r pedair blynedd diwethaf i bennu pob safle yn ôl y dosbarthiadau canlynol: rhagorol, da, digonol neu wael.
Y llynedd, llwyddodd 98% o ddyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru i fodloni safonau amgylcheddol llym, gydag 75 allan o’r 110 o safleoedd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ‘rhagorol’.
Dywedodd Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae mwy o bobl nag erioed yn darganfod y llawenydd a geir o nofio mewn dŵr agored a’r manteision iechyd a ddaw yn sgil hynny.
Gwyddwn pa mor bwysig yw dyfroedd ymdrochi Cymru i bobl ac mae ein hymroddiad yn ddiwyro i sicrhau bod ein dyfroedd yn lân, yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod er mwyn i bawb eu mwynhau am genedlaethau i ddod.
Cyn cychwyn traddodiadol y tymor, mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gwneud gwiriadau mewn safleoedd dŵr ymdrochi i nodi ac ymdrin ag unrhyw arwyddion amlwg o lygredd, ac i sicrhau bod unrhyw ollyngiadau a ganiateir yn gweithredu’n gywir.
Yn yr achosion hynny ble roedd canlyniadau y llynedd yn awgrymu bod unrhyw broblemau neu ddirywiad, mae timau lleol yn cynnal ymchwiliadau trylwyr i nodi a mynd i’r afael â ffynonellau posibl o lygredd.
Mae swyddogion yn parhau i gymryd camau gweithredu wedi’u targedu ac yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaid ar gyfer Aberogwr a’r Rhyl Canolog, a roddwyd yn y dosbarth ‘gwael’ y llynedd, er mwyn ymchwilio i’r rhesymau dros y methiant ac i weithio tuag at wella ansawdd y dŵr.
Ychwanegodd Ceri:
Mae’r mwyafrif helaeth o ddyfroedd ymdrochi arfordirol Cymru yn parhau i fodloni’r safonau uchaf, sy’n newyddion gwych i gymunedau, twristiaeth a’r economi.
Mae gwella ansawdd dŵr ar gyfer y tymor hir yn dal i fod o flaenoriaeth bendant i ni, ac mae ein timau’n dal ati i weithio’n galed i fynd i’r afael â’r ffynonellau niferus o lygredd sy’n bygwth ansawdd ein dŵr, gan gynnwys amaethyddiaeth a gorlifoedd stormydd.
Mae llawer o gynnydd yn cael ei wneud, ac ar ôl sicrhau’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad ar gyfer yr amgylchedd gan gwmnïau dŵr drwy’r broses adolygu prisiau, byddwn yn pwyso am fuddsoddiad mewn asedau sy’n effeithio ar ein dyfroedd ymdrochi, er mwyn diogelu eu hiechyd yn y dyfodol.
Mae dyfroedd glas Cymru yn llefydd anhygoel i nofio a gall pawb wneud eu rhan i helpu i’w cadw’n arbennig ac i’w gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol:
- Os ydych yn mynd â’ch ci am dro ar y traeth (lle caniateir hynny) glanhewch ar ei ôl, gan adael dim mwy nag olion pawennau ar eich ôl
- Gallwch chwilio am ddyfroedd ymdrochi dynodedig trwy ein chwilotwr dyfroedd ymdrochi
- Mae rhagolygon llygredd tymor byr ar gael ar gyfer 16 o ddyfroedd ymdrochi ar hyd a lled Cymru a chânt eu diweddaru yn y proffiliau dŵr ymdrochi ar ein gwefan. Noder bod gan Fae Abertawe fodel gwahanol a dim ond drwy wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe y mae’r rhagfynegiadau ar gyfer y dŵr ymdrochi hwn ar gael.
- Gallwch hefyd wirio map gorlifoedd storm Dŵr Cymru am wybodaeth agos at amser real am ollyngiadau gorlifoedd storm mewn dyfroedd ymdrochi dynodedig.
- Os ydych yn mwynhau nofio yn y gwyllt, darllenwch y cyngor diogelwch yn AdventureSmart, dilynwch y Cod Nofio yn y Gwyllt, a sicrhewch eich bod yn edrych, golchi, sychu cyn gadael.
Mae gwybodaeth am ble i ddod o hyd i ddyfroedd ymdrochi dynodedig, a safon y dŵr ymdrochi, ar gael ar wefan CNC.