Tanau gwyllt a'r amodau sychaf erioed yn arwain at ddatgan sychder yng Ngogledd Cymru a Hafren Uchaf
Heddiw (23 Gorffennaf), cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod tanau gwyllt eang, y llif afonydd isaf erioed ac effeithiau cynyddol tonnau gwres olynol ar yr amgylchedd wedi arwain at ddatgan statws o sychder yng Ngogledd Cymru a Hafren Uchaf.
Mae'r ardaloedd yr effeithir arnynt yn cynnwys Gogledd Gwynedd, Ynys Môn, De Gwynedd, Dyfrdwy (Cymru), Clwyd a Hafren Uchaf.
Ar yr un pryd, mae'r holl ddalgylchoedd sy'n weddill ar draws De-orllewin Cymru wedi symud o statws 'arferol' i statws 'cyfnod hir o dywydd sych'. Cadarnhawyd y newid statws ar gyfer De-ddwyrain Cymru gan CNC yr wythnos ddiwethaf, sy'n golygu bod Cymru gyfan bellach o dan amodau cyfnod hir o dywydd sych neu sychder.
Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn yn dilyn tywydd poeth a sych parhaus dros yr wythnosau diwethaf. Mae’n edrych yn debyg mai dyma fydd y Gorffennaf sychaf yng Nghymru ers bron i 190 mlynedd, os na fydd glawiad sylweddol yn cyrraedd cyn diwedd y mis.
Mae Gogledd Cymru a Hafren Uchaf wedi cael llai na 2% o'r glawiad disgwyliedig am y mis hyd yma.
Mae llif afonydd ar draws rhannau helaeth o Ogledd Cymru a Hafren Uchaf bellach yn eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn, gyda rhai lleoliadau yn cofnodi isafswm llif misol newydd ac eraill yn agosáu at y cofnodion isaf erioed.
Mewn sawl ardal yng Ngogledd Cymru, does dim glawiad sylweddol wedi bod ers 6 Gorffennaf. Mae gweithgarwch monitro CNC hefyd yn dangos bod llif afonydd ar draws y dalgylchoedd yr effeithir arnynt yn eithriadol o isel, wrth i lefelau dŵr daear barhau i ostwng, ac wrth i dymheredd afonydd barhau i fod yn uchel.
Bydd CNC yn datgan 'sychder' pan fydd cyfuniad o ddangosyddion yn dangos prinder arwyddocaol o lawiad ac argaeledd dŵr, sy’n arwain at effaith ar afonydd, dŵr daear, ecosystemau, amaethyddiaeth a rheolaeth tir.
Er bod cwmnïau dŵr yn adrodd bod lefelau cronfeydd dŵr yn parhau i fod yn iach ar y cyfan, mae CNC yn annog pobl i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Mae pob diferyn sy’n cael ei arbed yn helpu i leihau’r pwysau ar yr amgylchedd yn ystod cyfnodau sych.
Dywedodd Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC:
“Mae'r cyfnod hir o dywydd sych a phoeth rydyn ni wedi bod yn ei gael yr haf hwn bellach yn cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd ar draws rhannau o Gymru.
“Rydyn ni wedi gweld afonydd yn disgyn i lefelau eithriadol o isel, dŵr daear yn parhau i ddirywio, ac adroddiadau cynyddol am effeithiau amgylcheddol sy'n effeithio ar fywyd gwyllt, pysgodfeydd, ffermio a chynefinoedd sensitif.
“Mae'r tanau gwyllt diweddar ar draws Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru yn un o'r arwyddion mwyaf clir a gweladwy o ba mor sych yw ein tirweddau ni ar hyn o bryd. Mae ein timau yn parhau i weithio'n agos gyda’r gwasanaethau tân ac achub, partneriaid lleol a rheolwyr tir i ymateb i'r digwyddiadau hyn a lleihau’r risgiau lle bo hynny'n bosibl.
“Er nad yw statws sychder yn golygu prinder dŵr i gwsmeriaid yn awtomatig, mae'n adlewyrchu'r pwysau cynyddol sy'n cael ei roi ar ein hamgylchedd. Rydyn ni’n gofyn i bawb chwarae eu rhan drwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth a helpu i amddiffyn adnoddau naturiol Cymru yn ystod y cyfnod eithriadol o sych hwn.”
Ledled Cymru, mae CNC yn pryderu fwyfwy am y pwysau sy'n cael ei roi ar afonydd, bywyd gwyllt, poblogaethau o bysgod, mawndiroedd, amaethyddiaeth a'r amgylchedd naturiol ehangach. Mae timau wedi bod yn adrodd am welyau afon sych, pyllau ynysig mewn afonydd llai, mwy o risgiau i bysgod a rhywogaethau dŵr croyw, a phryderon cynyddol gan ffermwyr ynglŷn ag argaeledd dŵr ac amodau pori.
Mae'r amodau sych hefyd wedi cynyddu’r risg o danau gwyllt yn sylweddol. Mae Gogledd Cymru yn benodol wedi dioddef nifer o danau gwyllt mawr dros yr wythnosau diwethaf, ac mae pobl yn parhau i roi gwybod am ddigwyddiadau eraill ledled y wlad.
Mae timau sychder CNC yn cwrdd yn rheolaidd ac wedi cynyddu eu gweithgarwch monitro amgylcheddol ledled Cymru. Mae dŵr ychwanegol wedi’i ryddhau o rai cronfeydd dŵr i gefnogi ecosystemau afonydd a physgodfeydd, ac mae rheolaethau tynnu dŵr a mesurau ymateb i sychder yn parhau i gael eu rhoi ar waith yn unol â Chynllun Sychder CNC.
Mae'r sefydliad yn parhau i weithio'n agos gyda chwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac aelodau Grŵp Cyswllt Sychder Cymru i fonitro amodau a chydlynu ymatebion.
Wrth fwynhau'r awyr agored, gofynnir i bobl fod yn ymwybodol bod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan straen ychwanegol, ac i gymryd gofal ychwanegol i atal tanau. Dylai unrhyw un sy'n gweld tanau gwyllt symud i leoliad diogel a ffonio 999 ar unwaith. Gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24 awr CNC ar 0300 065 3000.
Mae'r rhagolygon yn awgrymu tywydd sych pellach dros yr wythnos nesaf, gyda'r posibilrwydd o gyfnodau poeth ychwanegol yn nes ymlaen yn yr haf. Heb lawiad parhaus a sylweddol, mae CNC yn rhybuddio y gallai’r amodau ddirywio ymhellach a gallai dalgylchoedd ychwanegol symud i statws sychder.
Y mis diwethaf, lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i Dewch i Arbed Dŵr am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr.
Er mwyn cael gyngor ynghylch tywydd sych ac arferion amaethyddol ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyngor i ffermwyr mewn cyfnodau o dywydd sych.